Ymddiriedolaethau a threthi
Ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf
Treth Enillion Cyfalaf yw treth ar yr elw (鈥榚nillion鈥�) pan fo rhywbeth (鈥榓sed鈥�) sydd wedi cynyddu mewn gwerth yn cael ei gymryd allan o ymddiriedolaeth neu鈥檔 cael ei roi i mewn i un.
Pryd mae鈥檔 bosibl y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy
Os rhoddir asedion i mewn i ymddiriedolaeth
Caiff treth ei thalu gan naill y person sy鈥檔:
- gwerthu鈥檙 ased i鈥檙 ymddiriedolaeth
- trosglwyddo鈥檙 ased (y 鈥�setlwr鈥�)
Os cymerir asedion allan o ymddiriedolaeth
Fel arfer, rhaid i鈥檙 ymddiriedolwyr dalu鈥檙 dreth os ydynt yn gwerthu neu鈥檔 trosglwyddo asedion ar ran y buddiolwr.
Nid oes treth i鈥檞 thalu mewn ymddiriedolaethau gwag os yw鈥檙 asedion yn cael eu trosglwyddo i鈥檙 buddiolwr.
Weithiau, efallai y caiff ased ei drosglwyddo i rywun arall ond nid yw Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy. Mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn marw ac mae 鈥�buddiant mewn meddiant鈥� yn dod i ben.
Mae buddiolwr yn cael rhywfaint o鈥檙 asedion, neu鈥檙 holl asedion, sydd mewn ymddiriedolaeth
Weithiau, daw 鈥榟awl absoliwt鈥� i fuddiolwr ymddiriedolaeth, a gall roi gwybod i鈥檙 ymddiriedolwyr beth i鈥檞 wneud 芒鈥檙 asedion, er enghraifft pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol.
Yn yr achos hwn, mae鈥檙 ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf yn seiliedig ar werth marchnadol yr asedion pan fo鈥檙 buddiolwr yn cael yr hawl iddynt.
Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU
Mae鈥檙 rheolau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf ar ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) yn gymhleth. Gallwch gael help gyda鈥檆h treth.
Cyfrifo cyfanswm yr enillion
Rhaid i ymddiriedolwyr gyfrifo cyfanswm yr enillion trethadwy er mwyn gwybod a oes angen iddynt dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Costau a ganiateir
Gall ymddiriedolwyr ddidynnu costau er mwyn lleihau enillion - mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- cost yr eiddo (gan gynnwys unrhyw ffioedd gweinyddu)
- ffioedd proffesiynol, er enghraifft ar gyfer cyfreithiwr neu brocer stoc
- costau gwella eiddo neu dir er mwyn cynyddu ei werth, er enghraifft adeiladu ystafell wydr (ond nid atgyweirio neu gynnal a chadw rheolaidd)
Rhyddhad Treth
Mae鈥檔 bosibl y bydd ymddiriedolwyr yn gallu lleihau neu ohirio swm y dreth y mae鈥檙 ymddiriedolaeth yn ei thalu os yw鈥檙 enillion yn gymwys ar gyfer ryddhad treth.
Rhyddhad | Disgrifiad |
---|---|
Rhyddhad Preswylfan Preifat (yn agor tudalen Saesneg) | Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf pan fyddant yn gwerthu eiddo y mae鈥檙 ymddiriedolaeth yn berchen arno. Mae鈥檔 rhaid iddo fod y prif fan preswylio ar gyfer rhywun sy鈥檔 cael byw yno o dan reolau鈥檙 ymddiriedolaeth. |
Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) | Mae ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf o 10% ar enillion cymwys os ydynt yn gwerthu asedion a ddefnyddir ym musnes buddiolwr, sydd bellach wedi dod i ben. Mae鈥檔 bosibl iddynt hefyd cael rhyddhad pan fyddant yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni lle鈥檙 oedd gan y buddiolwr o leiaf 5% o鈥檙 cyfranddaliadau a鈥檙 hawliau pleidleisio. |
Rhyddhad Daliol (yn agor tudalen Saesneg) | Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw dreth os ydynt yn trosglwyddo asedion i鈥檙 buddiolwyr (neu ymddiriedolwyr eraill mewn rhai achosion). Mae鈥檙 derbynnydd yn talu treth pan fydd yn gwerthu neu鈥檔 gwaredu鈥檙 asedion, oni bai ei bod hefyd yn hawlio rhyddhad. |
Lwfans rhydd o dreth
Yr unig adeg y mae鈥檔 rhaid i ymddiriedolwyr dalu Treth Enillion Cyfalaf yw pan fo cyfanswm yr enillion trethadwy yn fwy na lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolaeth (sef y 鈥榮wm eithriedig blynyddol鈥�).
Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, y lwfans rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau yw:
-
拢1,500
-
拢3,000 os yw鈥檙 buddiolwr yn agored i niwed 鈥� person anabl neu blentyn sydd wedi colli rhiant
Os oes yna fwy nag un buddiolwr, gall y lwfans uwch fod yn berthnasol hyd yn oed os mai dim ond un ohonynt sy鈥檔 agored i niwed.
Gweler lwfansau rhydd o dreth ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Gall y lwfans rhydd o dreth gael ei ostwng os yw setlwr yr ymddiriedolaeth wedi creu mwy nag un ymddiriedolaeth (鈥榮etliad鈥�) ers 6 Mehefin 1978.
Mae yna wybodaeth fwy manwl am Dreth Enillion Cyfalaf a Hunanasesiad ar gyfer ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg).
Rhoi gwybod i CThEF am enillion
Mae鈥檔 rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus ar eiddo preswyl yn y DU, a鈥檌 thalu, gan ddefnyddio Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf a鈥檌 thalu. Mae鈥檔 rhaid iddynt wneud hyn cyn pen:
- 60 diwrnod o werthu鈥檙 eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau ar neu ar 么l 27 Hydref 2021
- 30 diwrnod o werthu鈥檙 eiddo, os oedd y dyddiad cwblhau rhwng 6 Ebrill 2020 a 26 Hydref 2021
Mae鈥檔 rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am asedion eraill sy鈥檔 cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Yst芒d.
Ewch ati i lawrlwytho a llenwi ffurflen Treth Enillion Cyfalaf Ymddiriedolaeth ac Yst芒d (SA905) (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn ymddiriedolwr ac yn anfon Ffurflen Dreth drwy鈥檙 post.
Mae鈥檙 rheolau鈥檔 wahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.
Os oes angen rhagor o help arnoch
Mae yna arweiniad mwy manwl ar Dreth Enillion Cyfalaf.
Cysylltwch 芒 CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol os oes angen help arnoch.