Treth Enillion Cyfalaf: yr hyn yr ydych yn talu鈥檙 dreth arno, cyfraddau a lwfansau
Os byddwch yn gwneud colled
Gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am golledion ar ased trethadwy er mwyn gostwng cyfanswm eich enillion trethadwy.
Yr enw ar golledion a ddefnyddir fel hyn yw 鈥榗olledion caniataol鈥�.
Defnyddio colledion i ostwng eich ennill
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am golled, mae鈥檙 swm yn cael ei ddidynnu oddi wrth yr enillion a wnaethoch yn yr un flwyddyn dreth.
Os yw cyfanswm eich ennill trethadwy yn dal i fod dros y lwfans rhydd o dreth, gallwch ddidynnu colledion sydd heb eu defnyddio o flynyddoedd treth blaenorol. Os byddant yn gostwng eich ennill i鈥檙 lwfans rhydd o dreth, gallwch gario鈥檙 colledion sy鈥檔 weddill ymlaen i flwyddyn dreth yn y dyfodol.
Rhoi gwybod am golledion
Hawliwch am eich colled drwy ei gynnwys ar eich Ffurflen Dreth. Os nad ydych wedi gwneud ennill ar unrhyw adeg, ac os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, gallwch ysgrifennu i CThEF yn lle hynny.
Does dim rhaid i chi roi gwybod am golledion ar unwaith 鈥� gallwch hawlio hyd at 4 blynedd ar 么l diwedd y flwyddyn dreth y gwnaethoch waredu鈥檙 ased.
Mae eithriad ar gyfer colledion a wnaed cyn 5 Ebrill 1996 鈥� gallwch hawlio am y rhain o hyd. Mae鈥檔 rhaid i chi ddidynnu鈥檙 rhain ar 么l unrhyw golledion mwy diweddar.
Colledion wrth waredu asedion i鈥檙 teulu a phobl eraill
Eich g诺r, gwraig neu bartner sifil
Fel arfer, nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion rydych yn eu rhoi neu鈥檔 eu gwerthu i鈥檆h priod neu i鈥檆h partner sifil. Ni allwch hawlio colledion yn erbyn yr asedion hyn.
Aelodau eraill o鈥檙 teulu a 鈥榩hobl gysylltiedig鈥�
Ni allwch ddidynnu colled sy鈥檔 deillio o roi, gwerthu na gwaredu ased i aelod o鈥檙 teulu, oni bai eich bod yn gwrthbwyso ennill o鈥檙 un person.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i 鈥榖obl gysylltiedig鈥� megis partneriaid busnes.
Pobl gysylltiedig
Yn 么l diffiniad CThEF, mae pobl gysylltiedig yn cynnwys:
-
eich brodyr, chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau, plant ac wyrion, a鈥檜 gw欧r, gwragedd neu bartneriaid sifil
- brodyr, chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau, plant ac wyrion eich g诺r, gwraig neu bartner sifil 鈥� a鈥檜 gw欧r, gwragedd neu bartneriaid sifil
- partneriaid busnes
- cwmni rydych yn ei reoli
- ymddiriedolwyr, lle mai chi (neu rywun sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chi) yw鈥檙 鈥榮etlwr鈥�
Hawlio am ased sydd wedi colli ei werth
Gallwch hawlio colledion ar asedion rydych yn dal i berchen arnynt os ydynt yn dod yn ddiwerth, neu鈥檔 鈥榮wm pitw鈥�.
Mae gan CThEF arweiniad ynghylch sut i gyflwyno hawliad am swm pitw (yn agor tudalen Saesneg).
Rheolau arbennig
Mae gan CThEF arweiniad ar y rheolau arbennig ar gyfer colledion:
- pan fo rhywun yn marw (yn agor tudalen Saesneg)
- os ydych yn ddibreswyl ac yn gwerthu eiddo neu dir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg)
- os ydych wedi byw dramor dros dro fel person 鈥�dibreswyl (yn agor tudalen Saesneg)鈥�
- o鈥檆h incwm ar gyfranddaliadau sydd heb eu rhestru (yn agor tudalen Saesneg) neu sy鈥檔 rhan o鈥檙 Cynllun Buddsoddiad Menter (yn agor tudalen Saesneg)
- ar asedion tramor os nad yw鈥檆h 鈥榙omisil鈥� yn y DU a鈥檆h bod wedi hawlio鈥檙 鈥�sail trosglwyddo (yn agor tudalen Saesneg)鈥�