Cyfrifo a oes angen i chi dalu

Mae鈥檔 rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu ased, os yw cyfanswm eich enillion trethadwy dros eich lwfans Treth Enillion Cyfalaf blynyddol.

Cyfrifo cyfanswm eich enillion trethadwy

  1. Cyfrifwch yr ennill ar gyfer pob ased (neu ar gyfer eich cyfran chi o ased, os ydyw mewn perchnogaeth ar y cyd). Gwnewch hyn ar gyfer yr eiddo personol (yn agor tudalen Saesneg), y cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau (yn agor tudalen Saesneg), yr eiddo yn y DU 苍别耻鈥檙 asedion busnes (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi鈥檜 gwaredu yn y flwyddyn dreth.

  2. Adiwch yr enillion o bob ased at ei gilydd.

  3. Didynnwch unrhyw golledion caniataol.

Mae鈥檙 flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Bydd angen i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a鈥檌 thalu os yw鈥檆h enillion trethadwy dros eich lwfans.

Os yw cyfanswm eich enillion yn llai na鈥檙 lwfans rhydd o dreth

Does dim rhaid i chi dalu treth os yw cyfanswm eich enillion trethadwy yn llai na鈥檆h lwfans Treth Enillion Cyfalaf.

Mae angen i chi roi gwybod am eich enillion o hyd, a hynny ar eich Ffurflen Dreth, os yw鈥檙 ddau beth canlynol yn wir:

  • roedd y cyfanswm y gwnaethoch werthu鈥檙 asedion amdano dros 拢50,000聽
  • rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Mae鈥檙 rheolau hyn yn berthnasol o flwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen.

Ar gyfer y blynyddoedd treth cyn 2023 i 2024, mae angen i chi roi gwybod am eich enillion o hyd, a hynny ar eich Ffurflen Dreth, os yw鈥檙 ddau beth canlynol yn wir:

  • roedd y cyfanswm y gwnaethoch werthu鈥檙 asedion amdano dros 4 gwaith yn fwy na鈥檆h lwfans聽
  • rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Mae rheolau gwahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled.

Os ydych yn ddibreswyl

Mae angen i chi roi gwybod i CThEF pan fyddwch yn gwerthu eiddo neu dir (yn agor tudalen Saesneg), hyd yn oed os yw鈥檆h ennill o dan y lwfans rhydd o dreth neu os ydych yn gwneud colled. Nid yw pobl sy鈥檔 ddibreswyl yn talu treth ar enillion cyfalaf eraill.