Treth pan fyddwch yn gwerthu eiddo

Sgipio cynnwys

Cyfrifo鈥檆h enillion

Fel arfer, eich enillion yw鈥檙 gwahaniaeth rhwng yr hyn a daloch am eich eiddo a鈥檙 hyn a gawsoch wrth werthu (neu 鈥榳aredu鈥�) yr eiddo.

Os yw鈥檆h enillion cyfalaf cyfunol yn uwch na鈥檆h lwfans ar gyfer y flwyddyn, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a鈥檌 thalu.

Gwerth marchnadol

Mewn rhai achosion, dylech ddefnyddio gwerth marchnadol yr eiddo wrth gyfrifo鈥檆h enillion. Gwnewch hyn os:

  • mai rhodd oedd yr eiddo (mae rheolau gwahanol os oedd yr eiddo yn rhodd i鈥檆h priod neu bartner sifil neu i elusen)
  • gwnaethoch werthu鈥檙 eiddo am lai na鈥檌 werth er mwyn helpu鈥檙 prynwr
  • gwnaethoch etifeddu鈥檙 eiddo (ac nid ydych yn gwybod gwerth y Dreth Etifeddiant)
  • oeddech yn berchen ar yr eiddo cyn mis Ebrill 1982

Gwerthu o dan amgylchiadau arbennig

Mae rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo鈥檆h enillion os:

Eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd

Os ydych yn berchen ar eiddo ar y cyd 芒 phobl eraill, cyfrifwch yr enillion ar gyfer y cyfranddaliad yr ydych yn berchen arno.

Didynnu costau

Gallwch ddidynnu鈥檙 costau o brynu, gwerthu neu wella鈥檆h eiddo oddi wrth eich enillion. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:

  • ffioedd gwerthwyr tai a ffioedd cyfreithwyr
  • costau gwelliannau, er enghraifft ar gyfer estyniad (nid yw costau cynnal a chadw arferol, megis addurno, yn cyfrif)

Rhyddhad

Efallai y cewch ryddhad treth os oedd yr eiddo:

Cyfrifo a oes angen i chi dalu

Ar 么l i chi gael gwybod faint yw鈥檆h enillion ar yr eiddo, gallwch gyfrifo a oes angen i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a鈥檌 thalu.

Ni allwch ddefnyddio鈥檙 gyfrifiannell os:

  • gwnaethoch werthu tir
  • gwnaethoch werthu eiddo busnes
  • gwnaethoch werthu asedion trethadwy eraill yn y flwyddyn dreth, er enghraifft cyfranddaliadau
  • gwnaethoch leihau鈥檆h cyfranddaliad mewn eiddo rydych yn dal i fod yn berchen arno ar y cyd
  • ydych yn hawlio unrhyw ryddhad ac eithrio Rhyddhad Preswylfa Breifat neu Ryddhad Gosod
  • ydych yn gwmni, yn asiant, yn ymddiriedolwr, neu鈥檔 gynrychiolydd personol

Os oes gennych Dreth Enillion Cyfalaf i鈥檞 thalu

Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf a鈥檌 thalu ar y rhan fwyaf o werthiannau eiddo yn y DU cyn pen 30 diwrnod.

Rhoi gwybod am golled

Mae鈥檙 rheolau鈥檔 wahanol os oes angen i chi roi gwybod am golled.