Ymddiriedolaethau a Threth Incwm

Nid yw鈥檙 rhan fwyaf o ymddiriedolaethau yn talu Treth Incwm ar incwm hyd at swm rhydd o dreth (sef 拢500, fel arfer). Mae treth yn ddyledus ar y swm llawn, os yw鈥檙 incwm yn fwy na鈥檙 swm rhydd o dreth.

Nid yw ymddiriedolwyr yn gymwys ar gyfer y lwfans difidend.

Mae incwm o wahanol fathau o ymddiriedolaethau yn agored i gyfraddau gwahanol o Dreth Incwm.

Trethir pob math o ymddiriedolaeth yn wahanol. Mae ymddiriedolaethau yn cynnwys 鈥榶mddiriedolwr鈥�, 鈥榮etlwr鈥� a 鈥榖uddiolwr鈥�.

Ymddiriedolaethau cronnol neu amodol

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am dalu treth ar incwm a gafwyd gan ymddiriedolaethau cronnol neu ymddiriedolaethau amodol.

Os oes gan y setlwr fwy nag un ymddiriedolaeth gronnol neu amodol, rhennir y swm rhydd o dreth, sef 拢500, rhwng nifer yr ymddiriedolaethau cronnol neu amodol sydd gan y setlwr.

Os yw鈥檙 setlwr wedi sefydlu 5 neu fwy o ymddiriedolaethau cronnol neu amodol, y swm rhydd o dreth ar gyfer pob ymddiriedolaeth yw 拢100.

Mae鈥檙 cyfraddau treth i鈥檞 gweld isod.

Math o incwm Cyfradd dreth
Incwm o fath difidend 39.35%
Pob incwm arall 45%

Y gyfradd dreth ar gyfer incwm a ddefnyddir i dalu am gostau rheoli cymhwysol yr ymddiriedolaeth yw 8.75% ar gyfer incwm difidend a 20% ar gyfer incwm arall. Dysgwch am eitemau trethadwy, cronfeydd treth a didyniadau ar gyfer ymddiriedolaethau a Threth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Yr ymddiriedolwyr sy鈥檔 gyfrifol am dalu Treth Incwm ar y cyfraddau isod.

Math o incwm Cyfradd Treth Incwm
Incwm o fath difidend 8.75%
Pob incwm arall 20%

Weithiau, mae ymddiriedolwyr yn 鈥榤andadu鈥� incwm i鈥檙 buddiolwr. Mae hyn yn golygu bod yr incwm yn mynd yn syth i鈥檙 buddiolwr yn hytrach na mynd drwy鈥檙 ymddiriedolwyr.

Os bydd hyn yn digwydd, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 buddiolwr ei gynnwys ar ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad a thalu treth arno.

Ymddiriedolaethau gwag

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag, chi sy鈥檔 gyfrifol am dalu treth ar incwm ohoni.

Mae angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Nid yw鈥檙 swm rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau, sef 拢500, yn berthnasol, ond efallai y bydd modd i chi ddefnyddio鈥檆h Lwfans Personol.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, mae鈥檔 rhaid i chi erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsoch yr incwm.

Ymddiriedolaethau pan fo buddiant gan setlwr

Mae鈥檙 setlwr yn gyfrifol am Dreth Incwm ar yr ymddiriedolaethau hyn, hyd yn oed os nad yw peth o鈥檙 incwm yn cael ei dalu allan iddo. Fodd bynnag, caiff y Dreth Incwm ei thalu gan yr ymddiriedolwyr fel y maent yn cael yr incwm.

  1. Mae鈥檙 ymddiriedolwyr yn talu Treth Incwm ar incwm yr ymddiriedolaeth drwy lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Yst芒d.

  2. Maent yn rhoi datganiad i鈥檙 setlwr o鈥檙 holl incwm a鈥檙 cyfraddau treth a godir arno.

  3. Mae鈥檙 setlwr yn rhoi gwybod i CThEF am y dreth y mae鈥檙 ymddiriedolwyr wedi鈥檌 thalu ar ei ran ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Mae鈥檙 gyfradd Treth Incwm yn ddibynnol ar ba fath o ymddiriedolaeth yw鈥檙 ymddiriedolaeth pan fo buddiant gan setlwr.

Mathau eraill o ymddiriedolaethau

Mae rheolau arbennig ar gyfer ymddiriedolaethau rhieni ar gyfer plant, ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy鈥檔 agored i niwed ac ymddiriedolaethau lle nad yw鈥檙 ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth. Gelwir y rhain yn ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl (yn agor tudalen Saesneg).

Os mai chi yw鈥檙 buddiolwr

Yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth ac ar eich incwm, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio peth o鈥檙 Dreth Incwm yn 么l.

Os mai chi yw鈥檙 ymddiriedolwr

Gallwch gael help wrth lenwi鈥檙 Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Yst芒d (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o help arnoch

Mae arweiniad mwy manwl ar ymddiriedolaethau a Threth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Cysylltwch 芒 CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen help arnoch.