Treth ar ddifidendau

Sgipio cynnwys

Gwirio a oes angen i chi dalu treth ar ddifidendau

Efallai y cewch daliad difidend os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni.聽

Gallwch ennill rhywfaint o incwm o ddifidendau bob blwyddyn heb orfod talu treth.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut rydym yn codi treth ar ddifidendau

Nid ydych yn talu treth ar unrhyw incwm o ddifidendau sydd o fewn eich Lwfans Personol (swm yr incwm y gallwch ei ennill bob blwyddyn heb orfod talu treth arno).聽

Cewch lwfans o ran difidendau bob blwyddyn hefyd. Dim ond unrhyw incwm o ddifidendau sydd dros y lwfans o ran difidendau y mae angen i chi dalu treth arno.聽

Nid ydych yn talu treth ar ddifidendau o gyfranddaliadau mewn ISA.

Lwfans o ran difidendau

Blwyddyn dreth Lwfans o ran difidendau
6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025 拢500
6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 拢1,000
6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023 拢2,000
6 Ebrill 2021 i 5 Ebrill 2022 拢2,000

Faint o dreth rydych yn ei thalu

Mae faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar ddifidendau sydd dros y lwfans o ran difidendau鈥檔 dibynnu ar eich band Treth Incwm.

Band treth Cyfradd dreth ar ddifidendau sydd dros y lwfans
Cyfradd sylfaenol 8.75%
Cyfradd uwch 33.75%
Cyfradd ychwanegol 39.35%

I gyfrifo鈥檆h band treth, adiwch gyfanswm eich holl incwm o ddifidendau at eich incwm arall. Efallai y byddwch yn talu treth ar fwy nag un gyfradd.

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu cael amcangyfrif o faint o dreth y mae angen i chi ei thalu ar y difidendau y byddwch yn eu cael.

Enghraifft

Yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025, rydych yn cael 拢3,000 o ddifidendau ac rydych yn ennill cyflog o 拢29,570.鈥�

Mae hyn yn rhoi cyfanswm o 拢32,570 o incwm i chi.鈥�

Mae gennych Lwfans Personol o 拢12,570. Tynnwch y ffigur hwn oddi wrth gyfanswm eich incwm i adael yr incwm trethadwy, sef 拢20,000.鈥�

Dyma鈥檙 band treth ar y gyfradd sylfaenol, felly byddech yn talu:鈥�

  • treth o 20% ar gyflog o 拢17,000鈥�

  • dim treth ar 拢500 o ddifidendau, oherwydd y lwfans o ran difidendau

  • treth o 8.75% ar 拢2,500 o ddifidendau

Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF

Os oes gennych daliadau difidend sydd dros eich Lwfans Personol a鈥檆h lwfans o ran difidendau sydd heb ei ddefnyddio, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am y rhain.