Cyfraddau Treth Incwm a Lwfansau Personol
Cyfraddau a lwfansau cyfredol
Bydd faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu ym mhob blwyddyn dreth yn dibynnu ar y canlynol:
-
faint o鈥檆h incwm sydd dros eich Lwfans Personol
-
faint o鈥檆h incwm sydd ym mhob haen dreth
Mae rhywfaint o incwm yn rhydd o dreth.
Y flwyddyn dreth bresennol yw o 06 Ebrill 2024 hyd at 05 Ebrill 2025.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Eich Lwfans Personol sy鈥檔 rhydd o dreth
拢12,570 yw鈥檙 Lwfans Personol safonol, sef faint o incwm fyddwch chi ddim yn gorfod talu treth arno.
Mae鈥檔 lleihau os yw鈥檆h incwm dros 拢100,000. Am bob 拢2 rydych yn ennill dros 拢100,000, rydych yn colli 拢1 o鈥檆h Lwfans Personol sy鈥檔 rhydd o dreth.
Lwfans Person Dall
Mae鈥檔 bosibl y gallwch ennill mwy cyn i chi ddechrau talu Treth Incwm os ydych yn hawlio Lwfans Person Dall (yn agor tudalen Saesneg). Mae鈥檙 lwfans rhydd o dreth hwn yn cael ei ychwanegu at eich Lwfans Personol.
Cyfraddau a haenau Treth Incwm
Mae鈥檙 tabl yn dangos y cyfraddau treth rydych yn eu talu ym mhob haen os oes gennych Lwfans Personol safonol o 拢12,570.
Mae haenau treth incwm yn wahanol os ydych yn byw yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg).
Haen | Incwm trethadwy | Cyfradd dreth |
---|---|---|
Lwfans Personol | Hyd at 拢12,570聽 | 0% |
Cyfradd sylfaenol | 拢12,571 i 拢50,270 | 20% |
Cyfradd uwch | 拢50,271 i 拢125,140 | 40% |
Cyfradd ychwanegol | dros 拢125,140 | 45% |
Gallwch hefyd weld y cyfraddau a鈥檙 haenau heb y Lwfans Personol (yn agor tudalen Saesneg). Chewch chi ddim Lwfans Personol ar incwm trethadwy dros 拢125,140.
Os ydych yn gyflogedig neu鈥檔 cael pensiwn
Gwiriwch eich Treth Incwm i weld:
-
eich Lwfans Personol a鈥檆h cod treth
-
faint o dreth rydych wedi鈥檌 thalu yn y flwyddyn dreth gyfredol
-
faint rydych yn debygol o鈥檌 thalu am weddill y flwyddyn
Lwfansau eraill
Mae gennych lwfansau rhydd o dreth ar gyfer:
-
incwm difidend, os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni
Efallai fod gennych hefyd lwfansau rhydd o dreth ar gyfer:
-
eich 拢1,000 cyntaf o incwm a gewch o ganlyniad i hunangyflogaeth - dyma eich 鈥榣wfans masnachu鈥�
-
eich 拢1,000 cyntaf o incwm a gewch o eiddo a rowch ar osod (oni bai eich bod yn defnyddio鈥檙 Cynllun Rhentu Ystafell)
Gallwch weld a ydych yn gymwys ar gyfer y lwfansau masnachu ac eiddo (yn agor tudalen Saesneg).
Rydych yn talu treth ar unrhyw log, difidendau neu incwm sydd dros eich lwfansau.
Talu llai o Dreth Incwm
Efallai byddwch yn gallu hawlio rhyddhad Treth Incwm os ydych yn gymwys ar gyfer hynny.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Efallai byddwch yn gallu hawlio Lwfans Priodasol i leihau treth eich partner os yw鈥檆h incwm chi鈥檔 llai na鈥檙 Lwfans Personol safonol.
Os nad ydych yn hawlio Lwfans Priodasol a chawsoch chi neu鈥檆h partner eich geni cyn 6 Ebrill 1935, efallai byddwch yn gallu hawlio Lwfans P芒r Priod.