Treth ar log ar gynilion

Sgipio cynnwys

Faint o dreth rydych yn ei thalu

Gall y rhan fwyaf o bobl ennill ychydig o log ar eu cynilion heb dalu treth.

Mae鈥檆h lwfansau ar gyfer ennill llog cyn i chi orfod talu treth arno yn cynnwys eich:

  • Lwfans Personol

  • cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion

  • Lwfans Cynilion Personol

Rydych yn cael y lwfansau hyn bob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar eich incwm arall.

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu cael amcangyfrif o swm y dreth y mae鈥檔 rhaid i chi ei dalu ar log o鈥檆h cynilon.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Lwfans Personol

Gallwch ddefnyddio鈥檆h Lwfans Personol i ennill llog sy鈥檔 rhydd o dreth os nad ydych wedi defnyddio鈥檙 cwbl ar eich cyflog, eich pensiwn neu ar unrhyw incwm arall.

Cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion

Efallai y byddwch hefyd yn cael hyd at 拢5,000 o log sy鈥檔 rhydd o dreth. Dyma鈥檆h cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion.

Y mwyaf rydych yn ei ennill o incwm arall (er enghraifft, eich cyflog neu bensiwn), y lleiaf y bydd eich cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion.

Os yw鈥檆h incwm arall yn 拢17,570 neu鈥檔 fwy

Nid ydych yn gymwys ar gyfer y gyfradd gychwynnol hon ar gyfer cynilion os yw eich incwm arall yn 拢17,570 neu鈥檔 fwy.

Os yw eich incwm arall yn llai na 拢17,570

Mae eich cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion ar gael hyd at uchafswm o 拢5,000. Mae pob 拢1 o incwm arall dros eich Lwfans Personol yn gostwng eich cyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion gan 拢1.

Enghraifft

Rydych yn ennill cyflog o 拢16,000 ac rydych yn cael 拢200 o log ar eich cynilion.

Eich Lwfans Personol yw 拢12,570. Caiff ei ddefnyddio gan y 拢12,570 cyntaf o鈥檆h cyflog.

Mae鈥檙 拢3,430 sy鈥檔 weddill o鈥檆h cyflog (拢16,000 llai 拢12,570) yn gostwng eich cyfradd gychwynnol ar gyfer eich cynilion o 拢3,430.

Eich cyfradd gychwynnol ar gyfer y cynilion sy鈥檔 weddill yw 拢1,570 (拢5,000 llai 拢3,430). Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu treth ar eich llog o gynilion gwerth 拢200.

Lwfans Cynilion Personol

Efallai y byddwch hefyd yn cael hyd at 拢1,000 o log sy鈥檔 rhydd o dreth, yn dibynnu ar eich band Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg). Dyma eich Lwfans Cynilion Personol.

I gyfrifo鈥檆h band treth, ychwanegwch yr holl log rydych wedi鈥檌 gael ar eich incwm arall.聽

Band Treth Incwm Lwfans Cynilion Personol
Cyfradd sylfaenol 拢1,000
Cyfradd uwch 拢500
Cyfradd ychwanegol 拢0

Llog a gaiff ei gwmpasu gan eich lwfans

Mae鈥檆h lwfans yn berthnasol i log o鈥檙 canlynol:

  • cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu

  • cyfrifon cynilo ac undeb credyd

  • ymddiriedolaethau unedol, ymddiriedolaethau buddsoddi a chwmn茂au buddsoddi penagored

  • benthyca cymar-i-gymar

  • cronfeydd ymddiriedolaeth

  • yswiriant diogelu taliadau (PPI)

  • bondiau gan gwmn茂au neu lywodraeth

  • taliadau blwydd-dal bywyd

  • rhai contractau yswiriant bywyd

Nid yw cynilion mewn cyfrifon sy鈥檔 rhydd o dreth fel Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) a rhai cyfrifon yn cyfrif tuag at eich lwfans.

Llog ar gyfrifon ar y cyd

Os oes gennych gyfrif ar y cyd, bydd llog yn cael ei rannu鈥檔 gyfartal rhwng deiliaid y cyfrif. Cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych o鈥檙 farn y dylai gael ei rannu鈥檔 wahanol i hynny.

Os ewch dros eich lwfans

Rydych yn talu treth ar unrhyw log dros eich lwfans ar eich cyfradd arferol o Dreth Incwm.

Os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, rhowch wybod am unrhyw log a enillwyd ar gynilion arni.

Mae angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad os yw eich cyflog o gynilion a buddsoddiadau dros 拢10,000. Gwiriwch a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad os nad ydych yn si诺r.

Os ydych yn gyflogedig neu鈥檔 cael pensiwn

Bydd CThEF yn newid eich cod treth er mwyn i chi dalu鈥檙 dreth yn awtomatig. Er mwyn penderfynu ar eich cod treth, bydd CThEF yn amcangyfrif faint o log y byddwch yn ei gael ar gyfer y flwyddyn gyfredol drwy edrych ar faint a gawsoch yn y flwyddyn flaenorol.

Bydd CThEF yn anfon llythyr cyfrifiad treth ac yn rhoi gwybod i chi a oes gennych ordaliad neu dandaliad treth.

Os na chewch lythyr erbyn 31 Mawrth 2025, mae鈥檔 rhaid i chi gysylltu 芒 CThEF cyn gynted 芒 phosibl i osgoi cosb.

Os nad ydych yn gyflogedig, peidiwch 芒 chael pensiwn a pheidiwch 芒 llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn rhoi gwybod i CThEF faint o log a gawsoch ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi dalu treth a sut i鈥檞 thalu.

Os ydych eisoes wedi talu treth ar eich incwm o gynilion

Gallwch adhawlio鈥檙 dreth a dalwyd ar eich llog ar gynilion os oedd yn is na鈥檆h lwfans. Mae鈥檔 rhaid i chi adhawlio鈥檆h treth o fewn 4 blynedd ar 么l diwedd y flwyddyn dreth berthnasol.

Gallwch hawlio drwy鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn llenwi un.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dysgwch sut i hawlio ad-daliad.