Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Trosolwg
Gallwch gynilo鈥檔 ddi-dreth gyda Chyfrifon Cynilo Unigol (ISAs).
Yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025, 拢20,000 yw鈥檙 mwyaf gallwch ei gynilo mewn ISA
Mae 4 fath o ISA:
- ISAs arian parod
- ISAs stociau a chyfranddaliadau
- ISAs cyllid arloesol
- ISAs gydol oes (yn agor tudalen Saesneg)
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pwy sy鈥檔 cael agor ISA
Mae鈥檔 rhaid i chi fod yn 18 oed neu鈥檔 h欧n i agor ISA. Os ydych yn agor ISA Gydol Oes, mae鈥檔 rhaid i chi fod o dan 40 oed.
Os cawsoch eich geni rhwng 6 Ebrill 2006 a 5 Ebrill 2008, gallwch agor un ISA arian parod cyn i chi droi鈥檔 18 oed.
Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd fod naill ai:
- yn preswylio yn y DU
- yn aelod o鈥檙 lluoedd arfog neu un o weision y Goron (er enghraifft gwasanaeth sifil diplomyddol neu dramor) neu鈥檔 briod neu鈥檔 bartner sifil i鈥檙 unigolyn hwnnw os nad ydych yn byw yn y DU
Does dim modd i chi ddal ISA ar ran rhywun arall.
Gallwch gael ISA ar gyfer Plant Iau (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer plant dan 18 oed.
Agor a rheoli ISA ar ran rhywun sydd heb y galluedd meddyliol i wneud hyn drosto鈥檌 hun
Gallwch wneud cais am ISA a鈥檌 reoli ar ran rhywun os yw鈥檙 canlynol yn wir:
- rydych yn dal p诺er atwrnai arhosol (LPA) ar ei ran
- rydych yn ddirprwy materion ariannol ar ei ran
I wneud cais i fod yn ddirprwy materion ariannol:
- yng Nghymru a Lloegr gwneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod
- yn yr Alban
- yng Ngogledd Iwerddon