Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Sut mae ISAs yn gweithio
Mae 4 math o Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA):
- ISA arian parod
- ISA stociau a chyfranddaliadau
- ISA cyllid arloesol
- ISA gydol oes (yn agor tudalen Saesneg)
Nid ydych yn talu treth ar:
- llog ar arian mewn ISA
- incwm neu enillion cyfalaf o fuddsoddiadau mewn ISA
Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth, nid oes angen i chi ddatgan unrhyw log, incwm nac enillion cyfalaf ar yr ISA.
Rhoi arian mewn ISA
Bob blwyddyn dreth, gallwch gynilo hyd at 拢20,000 mewn un cyfrif neu rannu鈥檙 lwfans ar draws sawl cyfrif. Mae鈥檙 flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill.
Dim ond mewn un ISA Gydol Oes y gallwch ei dalu mewn blwyddyn dreth. Yr uchafswm y gallwch ei dalu yw 拢4,000.
Enghraifft
Gallech gynilo 拢15,000 mewn ISA arian parod, 拢2,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau a 拢3,000 mewn ISA cyllid arloesol mewn un flwyddyn dreth.
Enghraifft
Gallech gynilo 拢11,000 mewn ISA arian parod, 拢2,000 mewn ISA stociau a chyfranddaliadau, 拢3,000 mewn ISA cyllid arloesol a 拢4,000 mewn ISA Gydol Oes mewn un flwyddyn dreth.
Enghraifft
Gallech gynilo 拢10,000 mewn un ISA arian parod, 拢3,000 mewn ISA arian parod arall a 拢7,000 mewn stociau ISA a chyfranddaliadau mewn un flwyddyn dreth.
Ni fydd eich ISAs yn cau pan fydd y flwyddyn dreth yn dod i ben. Byddwch yn cadw鈥檆h cynilion ar sail ddi-dreth cyhyd 芒鈥檆h bod yn cadw鈥檙 arian yn eich cyfrifon.
Beth allwch ei gynnwys yn eich ISAs
Gall ISAs arian parod gynnwys:
- cynilion mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu
- rhai cynnyrch Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg)
Gall ISAs stociau a chyfranddaliadau gynnwys:
- cyfranddaliadau mewn cwmn茂au
- ymddiriedolaethau unedol a chronfeydd buddsoddi
- bondiau corfforaethol
- bondiau鈥檙 llywodraeth
Chewch chi ddim trosglwyddo unrhyw gyfranddaliadau nad ydynt yn rhan o ISA rydych chi eisoes yn berchen arnynt i ISA oni eu bod yn dod o gynllun cyfranddaliadau gweithiwr (yn agor tudalen Saesneg).
Gall ISAs Gydol Oes gynnwys naill ai:
- arian parod
- stociau a chyfranddaliadau
Gall ISAs cyllid arloesol gynnwys:
- benthyciadau cymar-i-gymar - benthyciadau sy鈥檔 cael eu rhoi i bobl neu i fusnesau eraill heb ddefnyddio banc
- 鈥榙yledebau cyllido torfol鈥� - buddsoddi mewn busnes drwy brynu ei ddyled
- cronfeydd lle mae鈥檙 cyfnod rhybudd neu adbrynu yn golygu na ellir eu dal mewn ISA stociau a chyfranddaliadau
Ni allwch drosglwyddo unrhyw drefniadau yr ydych eisoes wedi鈥檜 gwneud neu fuddsoddiadau sydd gennych eisoes mewn ISA cyllid arloesol.
Os oes gennych gwestiynau am y rheolau treth ar gyfer ISAs, gallwch ffonio Llinell Gymorth ISA (yn agor tudalen Saesneg).