Treth Incwm: rhagarweiniad
Trosolwg
Treth a dalwch ar eich incwm yw Treth Incwm. Nid oes rhaid i chi dalu treth ar bob math o incwm.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Rydych yn talu treth ar bethau fel:
- arian a enillir gennych o gyflogaeth
- elw a wneir gennych os ydych yn hunangyflogedig, gan gynnwys o wasanaethau rydych yn eu gwerthu drwy wefannau neu apiau 鈥� gallwch wirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn
- rhai budd-daliadau鈥檙 Wladwriaeth
- y rhan fwyaf o bensiynau, gan gynnwys pensiynau鈥檙 Wladwriaeth, pensiynau cwmni, pensiynau personol a blwydd-daliadau ymddeol
- incwm rhent (oni bai eich bod yn landlord sy鈥檔 byw yn yr eiddo a鈥檆h bod yn cael llai na鈥檙 terfyn ar gyfer y Cynllun Rhentu Ystafell (yn agor tudalen Saesneg))
- buddiannau a gewch yn sgil eich swydd
- incwm o ymddiriedolaeth
- llog ar gynilion sydd dros eich lwfans cynilion
Nid ydych yn talu treth ar bethau fel:
- y 拢1,000 cyntaf o鈥檙 incwm a gewch o ganlyniad i hunangyflogaeth 鈥� dyma eich 鈥榣wfans masnachu鈥�
- y 拢1,000 cyntaf o incwm a gewch o eiddo a rowch ar osod (yn agor tudalen Saesneg) (oni bai eich bod yn defnyddio鈥檙 Cynllun Rhentu Ystafell (yn agor tudalen Saesneg))
- incwm o gyfrifon sydd wedi鈥檜 heithrio rhag treth, fel Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) a Thystysgrifau Cynilion Cenedlaethol
- difidendau o gyfranddaliadau cwmni o dan eich lwfans difidendau
- rhai budd-daliadau鈥檙 Wladwriaeth
- gwobrau bondiau premiwm neu鈥檙 Loteri Genedlaethol
- rhent a gewch gan letywr yn eich cartref sy鈥檔 is na鈥檙 terfyn ar gyfer y Cynllun Rhentu Ystafell (yn agor tudalen Saesneg)
Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch yn gwerthu eitemau neu鈥檔 rhoi eiddo ar osod (er enghraifft drwy wefannau arwerthu neu apiau rhentu tymor byr), gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Rhyddhadau a lwfansau Treth Incwm
Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn y DU yn cael Lwfans Personol o incwm sy鈥檔 rhydd o dreth. Dyma swm yr incwm y gallwch ei gael cyn talu treth.
Yn ogystal, gellir gostwng swm y dreth a delir gennych, drwy gyfrwng rhyddhadau treth os ydych yn gymwys i鈥檞 cael.