Treth Incwm: rhagarweiniad
Gwirio eich bod yn talu'r swm cywir
Gallwch weld a ydych yn talu鈥檙 swm cywir o Dreth Incwm ar-lein. Ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025), gallwch wneud y canlynol:
- gwirio鈥檆h taliadau Treth Incwm
- cyfrifo swm y Dreth Incwm y dylech fod yn ei thalu (yn agor tudalen Saesneg)
Gallwch hefyd:
- gwirio swm y Dreth Incwm a dalwyd gennych y llynedd (6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024)
- amcangyfrif swm y Dreth Incwm y dylech fod wedi talu yn ystod blwyddyn flaenorol (yn agor tudalen Saesneg)
Os na allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaethau hyn, gallwch wirio eich bod wedi talu鈥檙 dreth gywir drwy gysylltu 芒 CThEF neu drwy gael help gan gyfrifydd (yn agor tudalen Saesneg).
Mae yna ffordd wahanol o newid Ffurflen Dreth Hunanasesiad.