Ymddiriedolaethau a Threth Etifeddiant

Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddiant ar yst芒d person (ei arian a鈥檌 eiddo) pan fydd yn marw.

Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus ar 40% ar unrhyw beth sydd dros y trothwy - ond mae yna gyfradd is, sef 36%, os yw ewyllys y person yn gadael mwy na 10% o鈥檌 yst芒d i elusen.

Gall Treth Etifeddiant hefyd fod yn berthnasol pan eich bod yn fyw os ydych yn trosglwyddo peth o鈥檆h yst芒d i mewn i ymddiriedolaeth.

Pryd mae Treth Etifeddiant yn ddyledus

Y prif sefyllfaoedd lle mae Treth Etifeddiant yn ddyledus yw:

Yr hyn yr ydych yn talu Treth Etifeddiant arno

Rydych yn talu Treth Etifeddiant ar 鈥榚iddo perthnasol鈥� (yn agor tudalen Saesneg) - asedion megis arian, cyfranddaliadau, tai neu dir. Mae hyn yn cynnwys yr asedion yn y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau.

Mae yna rai achlysuron pan efallai na fydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant - er enghraifft pan fo鈥檙 ymddiriedolaeth yn cynnwys eiddo wedi鈥檌 eithrio (yn agor tudalen Saesneg).

Rheolau arbennig

Mae rhai mathau o ymddiriedolaethau yn cael eu trin yn wahanol ar gyfer Treth Etifeddiant.

Ymddiriedolaethau gwag

Gyda鈥檙 rhain, mae asedion mewn ymddiriedolaeth yn cael eu cadw yn enw ymddiriedolwr, ond maent yn mynd yn uniongyrchol i鈥檙 buddiolwr, sydd 芒 hawl i asedion ac incwm yr ymddiriedolaeth.

Gall trosglwyddiadau i mewn i ymddiriedolaethau gwag hefyd fod wedi鈥檜 heithrio rhag Treth Etifeddiant, cyn belled 芒 bod y person sy鈥檔 gwneud y trosglwyddiad dal yn fyw 7 mlynedd ar 么l gwneud y trosglwyddiad.

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Yn yr ymddiriedolaethau hyn, mae gan y buddiolwr hawl i incwm yr ymddiriedolaeth wrth iddo gael ei gynhyrchu - gelwir hyn yn 鈥榝uddiant mewn meddiant鈥�.

Nid oes Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu ar asedion a drosglwyddwyd i mewn i鈥檙 math hwn o ymddiriedolaeth cyn 22 Mawrth 2006.

Gall y t芒l Treth Etifeddiant bob 10 mlynedd fod yn ddyledus ar asedion a drosglwyddwyd ar neu ar 么l 22 Mawrth 2006.

Yn ystod oes yr ymddiriedolaeth, nid oes Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu cyn belled 芒 bod yr ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau i fod yn 鈥榝uddiant鈥� y buddiolwr.

Rhwng 22 Mawrth 2006 a 5 Hydref 2008:

  • gall buddiolwyr ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant drosglwyddo鈥檜 buddiant mewn meddiant i fuddiolwyr eraill, megis eu plant
  • gelwid hyn yn gwneud 鈥榖uddiant cyfresol trosiannol鈥�
  • does dim Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu yn y sefyllfa hon

O 5 Hydref 2008 ymlaen:

  • ni all buddiolwyr ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant drosglwyddo鈥檜 buddiant fel buddiant cyfresol trosiannol
  • os yw buddiant yn cael ei drosglwyddo ar 么l y dyddiad hwn, mae鈥檔 bosibl y bydd t芒l o 20% a th芒l Treth Etifeddiant bob 10 mlynedd yn daladwy oni bai ei fod yn ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl

Os ydych yn etifeddu ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant oddi wrth rywun sydd wedi marw, nid oes Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu ar achlysur 10 mlynedd. Yn lle hynny, bydd treth o 40% yn ddyledus pan fyddwch yn marw.

Os sefydlwyd yr ymddiriedolaeth gan ewyllys

Efallai y bydd rhywun yn gofyn bod rhai o鈥檜 hasedion, neu eu hasedion i gyd, yn cael eu rhoi i mewn i ymddiriedolaeth. Gelwir hyn yn 鈥榶mddiriedolaeth ewyllys鈥�.

Rhaid i gynrychiolydd personol yr ymadawedig sicrhau bod yr ymddiriedolaeth wedi鈥檌 chreu yn y ffordd gywir, a bod yr holl drethi yn cael eu talu, a rhaid i鈥檙 ymddiriedolwyr sicrhau bod Treth Etifeddiant yn cael ei thalu ar unrhyw daliadau yn y dyfodol.

Os yw鈥檙 ymadawedig wedi trosglwyddo asedion i mewn i ymddiriedolaeth cyn iddo farw

Os ydych yn prisio yst芒d rhywun sydd wedi marw, bydd angen i chi gael gwybod p鈥檜n a ydyw wedi gwneud unrhyw drosglwyddiadau yn ystod y 7 mlynedd cyn iddo farw. Os yw wedi gwneud hynny, ac mae wedi talu Treth Etifeddiant o 20%, bydd angen i chi dalu 20% ychwanegol o鈥檙 yst芒d.

Hyd yn oed os nad oedd Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu ar y trosglwyddiad, mae鈥檔 dal yn rhaid i chi ychwanegu ei werth at yst芒d y person pan fyddwch yn ei phrisio at ddibenion Treth Etifeddiant.

Ymddiriedolaethau ar gyfer plant dan oed mewn profedigaeth

Plentyn dan oed mewn profedigaeth yw person o dan 18 oed sydd wedi colli o leiaf un rhiant neu lys riant. Pan fo ymddiriedolaeth wedi鈥檌 chreu ar gyfer plentyn dan oed mewn profedigaeth, nid oes taliadau Treth Etifeddiant os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • mae鈥檙 asedion yn yr ymddiriedolaeth wedi鈥檜 neilltuo ar gyfer y plentyn dan oed mewn profedigaeth yn unig
  • mae鈥檔 cael hawl llwyr i鈥檙 asedion erbyn iddo droi鈥檔 18 oed

Gall ymddiriedolaeth ar gyfer plentyn dan oed mewn profedigaeth gael ei chreu fel ymddiriedolaeth 18 i 25 oed - nid yw鈥檙 t芒l bob 10 mlynedd yn berthnasol. Fodd bynnag, dyma鈥檙 prif wahaniaethau:

  • rhaid i鈥檙 buddiolwr gael hawl llwyr i鈥檙 asedion yn yr ymddiriedolaeth erbyn iddo droi鈥檔 25 oed
  • pan fo鈥檙 buddiolwr rhwng 18 oed a 25 oed, gall taliadau ymadael Treth Etifeddiant fod yn berthnasol

Ymddiriedolaethau ar gyfer buddiolwyr sy鈥檔 anabl

Nid oes t芒l bob 10 mlynedd na th芒l ymadael ar y math hwn o ymddiriedolaeth, cyn belled 芒 bod yr ased yn aros yn yr ymddiriedolaeth ac yn parhau i fod yn 鈥榝uddiant鈥� y buddiolwr.

Hefyd, nid oes rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant wrth drosglwyddo asedion i mewn i ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl cyn belled 芒 bod y person sy鈥檔 gwneud y trosglwyddiad dal yn fyw 7 mlynedd ar 么l gwneud y trosglwyddiad.

Talu Treth Etifeddiant

Rydych yn talu Treth Etifeddiant drwy ddefnyddio ffurflen IHT100.

Os ydych yn prisio yst芒d rhywun sydd wedi marw, efallai y bydd angen i chi brisio asedion eraill ar wah芒n i ymddiriedolaethau i weld a oes Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Rhagor o help a gwybodaeth

Mae yna arweiniad mwy manwl ar ymddiriedolaethau a Threth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Cysylltwch 芒 CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol os oes angen help arnoch.