Casgliad

Cadw gwartheg, buail a byfflos yng Nghymru a Lloegr

Y rheolau a鈥檙 prosesau mae鈥檔 rhaid i geidwaid gwartheg eu dilyn er mwyn sicrhau bod modd olrhain gwartheg drwy'r amser.

Ceidwad gwartheg yw unrhyw un sy鈥檔 gyfrifol am wartheg, buail neu fyfflos naill ai dros dro neu鈥檔 barhaol.

Gall hyn gynnwys:

  • ffermwyr
  • pobl sy鈥檔 rhedeg marchnadoedd da byw, meysydd sioeau a chanolfannau crynhoi lloi
  • cludwyr
  • y rhai sy鈥檔 prynu a gwerthu gwartheg
  • pobl sy鈥檔 rhedeg lladd-dai a gwalfeydd

Rhaid i geidwaid gwartheg yng Nghymru neu Loegr ddilyn y rheolau a鈥檙 prosesau hyn i sicrhau bod modd olrhain gwartheg, buail neu fyfflos drwy鈥檙 amser.

Mae鈥檙 rhain yn ofynion cyfreithiol i helpu i atal clefydau a chyfyngu clefydau. Os na fyddwch yn eu dilyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai, neu gallech gael eich erlyn.

Mae鈥檙 rheolau鈥檔 wahanol ar gyfer:

I gael cyngor, cysylltwch 芒 Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

(webpage in English).

Sicrhau cysylltiad tir dros dro (TLA) neu rif daliad dros dro

Efallai y bydd angen ichi gael rhif cysylltiad tir dros dro (TLA) neu rif daliad dros dro er mwyn cysylltu鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau lle byddwch chi鈥檔 cadw gwartheg gyda鈥檆h rhif daliad. Mae鈥檔 rhaid ichi wneud hyn:聽聽 - os yw鈥檆h rhif daliad wedi鈥檌 gofrestru i鈥檆h cyfeiriad cartref (er enghraifft, am nad ydych chi鈥檔 berchen ar unrhyw dir lle byddwch chi鈥檔 cadw gwartheg) os ydych chi鈥檔 defnyddio tir ychwanegol dros dro i gadw gwartheg (er enghraifft, eich bod yn rhentu cae neu adeilad ychwanegol am lai na blwyddyn)

Cofrestru fel ceidwad gwartheg

Ar 么l ichi gofrestru鈥檆h tir, rhaid ichi gael marc buches. Rhaid hefyd ichi gofrestru fel ceidwad gwartheg gyda GSGP er mwyn ichi allu cofrestru genedigaethau gwartheg a rhoi gwybod iddyn nhw am symudiadau a marwolaethau.

Cadwch eich manylion cofrestredig yn gyfredol

Rhaid ichi gysylltu 芒鈥檙 RPA, APHA a GSGP os bydd eich manylion yn newid ar 么l ichi gofrestru gyda nhw. Mynnwch ragor o wybodaeth ynghylch pryd a gysylltu 芒 nhw a sut.

Tagio clustiau: cael tagiau clust newydd neu amnewid tagiau

Sut i gael tagiau clust swyddogol newydd neu dagiau amnewid gan gyflenwyr sydd wedi鈥檜 cymeradwyo. Mae hefyd yn cynnwys sut i roi adborth ar dagiau clust, bandiau pigwrn neu folysau.

Cadw cofrestr daliad

Rhaid ichi gofnodi genedigaethau, symudiadau a marwolaethau gwartheg mewn cofrestr daliad (sydd hefyd yn cael ei galw鈥檔 gofrestr buches). Rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn a phryd i鈥檞 diweddaru.

Genedigaethau gwartheg: beth i鈥檞 wneud ar 么l i lo gael ei eni

Yr hyn mae鈥檔 rhaid ichi ei wneud pan fydd lloi鈥檔 cael eu geni, gan gynnwys y codau brid swyddogol gwartheg i鈥檞 defnyddio wrth gofrestru genedigaeth.

Cael pasbort gwartheg

Sut i gael pasbort gwartheg newydd neu drwydded symud ar gyfer gwartheg y gwrthodwyd pasbort iddyn nhw. Mae hefyd yn cynnwys sut i gael taflenni parhad ar gyfer pasbortau llawn a labeli cod bar i adnabod eich daliad.

Beth i'w wneud pan fyddwch chi鈥檔 symud gwartheg

Yr hyn mae angen ichi ei wybod er mwyn symud gwartheg yn 么l ac ymlaen i ddaliad, naill ai dros dro neu鈥檔 barhaol. Mae hyn yn cynnwys anfon gwartheg i farchnad neu i gael eu lladd.

Gwartheg wedi'u mewnforio neu wartheg sy鈥檔 cael eu symud i Gymru a Lloegr

Yr hyn mae angen ichi ei wneud ar 么l i chi fewnforio neu symud gwartheg i Gymru neu Loegr, gan gynnwys pasbortau a鈥檙 rheolau ynghylch tagio clustiau.

Allforio gwartheg neu symud gwartheg allan o Gymru neu Loegr

Yr hyn mae angen ichi ei wneud wrth allforio neu symud gwartheg allan o Gymru neu Loegr, gan gynnwys pasbort a鈥檙 rheolau ynghylch tagio clustiau.

Marwolaethau gwartheg: beth i'w wneud pan fydd gwartheg yn marw ar eich daliad neu鈥檔 cael eu lladd

Yr hyn mae angen ichi ei wneud pan fydd gwartheg yn marw ar eich daliad a phan fyddwch chi鈥檔 anfon gwartheg i gael eu lladd. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn mae鈥檔 rhaid i weithredwyr lladd-dai ei gofnodi a rhoi gwybod amdano wrth ladd anifeiliaid.

Defnyddio System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein a Gwasanaethau Gwe SOG

Defnyddiwch SOG Ar-lein i gofrestru genedigaethau gwartheg a rhoi gwybod am symudiadau a marwolaethau i GSGP. Mae rhoi gwybod am y digwyddiadau hyn yn ofyniad cyfreithiol. Gallwch hefyd ddefnyddio meddalwedd fferm gydnaws i roi gwybod am symudiadau gwartheg ac i gofrestru genedigaethau a marwolaethau i GSGP drwy ddefnyddio Gwasanaethau Gwe SOG.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2022