Cael tagiau clust swyddogol newydd i wartheg neu amnewid tagiau
Sut i archebu tagiau clust swyddogol gwartheg, beth i'w wneud os yw鈥檆h anifail heb dag, os yw ei dagiau wedi'u difrodi neu os yw wedi'i dagio'n anghywir.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Rhaid i鈥檙 holl wartheg gael tagiau clust swyddogol i helpu i adnabod pob anifail. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau
Os na fyddwch yn dilyn y rheolau ar dagiau clust, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai neu gallech gael eich erlyn.
Rhaid prynu tagiau clust oddi wrth gyflenwr sydd wedi鈥檌 gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).
Yn achos yr holl wartheg sy鈥檔 cael eu geni yng Nghymru a Lloegr neu sy鈥檔 cael eu mewnforio o鈥檙 tu allan i鈥檙 UE, rhaid i鈥檙 tagiau clust ddangos y canlynol yn glir:
- logo鈥檙 goron
- cod y wlad (UK)
- nod y fuches
- rhif tag clust swyddogol 芒 6 digid
Yn achos gwartheg sy鈥檔 cael eu mewnforio o鈥檙 UE neu eu symud o Ogledd Iwerddon mae yna reolau gwahanol yngl欧n 芒 thagiau clust.
Os ydych chi yn allforio gwartheg i鈥檙 UE neu鈥檔 eu symud i Ogledd Iwerddon, mae angen ichi ddilyn rheolau ychwanegol yngl欧n 芒 thagiau clust.
Chewch chi ddim symud anifeiliaid oddi ar eich daliad heb dagiau clust swyddogol. Chewch chi ddim ailddefnyddio tagiau clust na rhifau tag clust swyddogol ar anifeiliaid gwahanol.
Rhaid i bob anifail gadw鈥檙 un rhif tag clust swyddogol gydol ei oes, oni bai eu bod naill ai:
- wedi鈥檜 geni neu wedi鈥檜 mewnforio i Brydian Fawr (Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban) cyn 1998
- wedi鈥檜 mewnforio i Brydain Fawr o鈥檙 tu allan i鈥檙 UE (bydd yr anifeiliaid hyn yn cael ac yn cadw rhif tag clust swyddogol newydd yn y Deyrnas Unedig ar 么l cyrraedd)
Bydd arnoch chi angen stoc o dagiau clust wedi鈥檜 cymeradwyo i鈥檞 defnyddio pan fydd lloi鈥檔 cael eu geni ar eich daliad. Darllenwch y canllawiau tagio ynghylch beth i鈥檞 wneud ar 么l i lo gael ei eni.
Cael tagiau newydd
Rhaid ichi archebu tagiau clust oddi wrth gyflenwyr wedi鈥檜 cymeradwyo sydd wedi鈥檜 cofrestru gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).
Chwilio am gyflenwyr tagiau clust sydd wedi鈥檜 cymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).
Bydd angen ichi roi鈥檙 canlynol i鈥檙 cyflenwr:
- eich nod buches
- eich rhif daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg)
Bydd y cyflenwr yn defnyddio鈥檙 wybodaeth hon i greu rhifau tag clust swyddogol ar gyfer eich tagiau.
Yna bydd y cyflenwr yn anfon y tagiau printiedig atoch i鈥檞 gosod ar eich anifeiliaid.
Ceisiwch archebu鈥檙 nifer o dagiau clust rydych chi鈥檔 credu y bydd arnoch ei angen mewn blwyddyn. Storiwch unrhyw dagiau clust sydd heb eu defnyddio yn ddiogel.
Amnewid tagiau sydd wedi鈥檜 colli, wedi鈥檜 difrodi, yn eisiau neu鈥檔 anghywir
Os oes angen ichi amnewid tagiau sydd wedi鈥檜 colli neu wedi鈥檜 difrodi, cysylltwch 芒 chyflenwr tagiau clust sydd wedi鈥檌 gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg) i archebu un newydd.
Rhaid ichi archebu a gosod tagiau newydd o fewn 28 diwrnod ar 么l sylwi bod y tag wedi鈥檌 golli neu wedi鈥檌 ddifrodi.
Os bydd anifail rydych chi鈥檔 ei brynu yn cyrraedd gydag un tag yn eisiau, cysylltwch 芒 chyflenwr wedi鈥檌 gymeradwyo i gael un newydd.
Chewch chi ddim symud yr anifail oddi ar eich daliad nes bod y tag newydd wedi鈥檌 osod.
Peidiwch 芒 derbyn unrhyw anifail i鈥檆h daliad os yw鈥檔 cyrraedd heb unrhyw dagiau neu os ydych chi鈥檔 credu bod rhywbeth o鈥檌 le ar y tagiau. Cysylltwch 芒 GSGP i gael cyngor.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener 8:30am i 5pm
Costau ff么n a rhifau ff么n
Anifeiliaid wedi鈥檜 geni neu wedi鈥檜 mewnforio cyn 1998
Os oes angen ichi amnewid tag clust swyddogol sydd wedi鈥檌 golli, wedi鈥檌 ddifrodi, neu yn eisiau ar gyfer anifail a gafodd ei eni neu ei fewnforio cyn 1998, rhaid ichi gael tag newydd gan gyflenwr sydd wedi鈥檌 gymeradwyo.
Gallwch chi gael:
- tag sengl yn dangos y rhif tag clust swyddogol gwreiddiol
- tag sengl yn dangos rhif tag clust swyddogol newydd
- set o 2 dag yn dangos rhif tag clust swyddogol newydd
Os cewch chi rif tag clust swyddogol newydd
Rhaid ichi gofnodi鈥檙 rhif tag clust swyddogol newydd yng nghofrestr eich daliad o fewn 36 awr ar 么l tagio鈥檙 anifail
O fewn 14 diwrnod ar oll tagio鈥檙 anifail, rhaid ichi anfon y canlynol at GSGP:
- pasbort yr anifail, os oes un ganddo
- tystysgrif cofrestru鈥檙 anifail, os oes un ganddo
- rhif y tag clust swyddogol newydd
Bydd GSGP yn newid y manylion ac yn rhoi pasbort newydd.
Rheolau ar dagio clustiau gwartheg sy鈥檔 cael eu mewnforio, eu symud neu eu hallforio
Mae鈥檔 rhaid ichi gael y pasbort gwartheg a鈥檙 tagiau clust perthnasol ar gyfer pob anifail. Dilynwch y canllawiau ar y canlynol:
- cofrestru gwartheg rydych chi wedi鈥檜 mewnforio neu wedi鈥檜 symud i Gymru neu Loegr
- beth i鈥檞 gofnodi a rhoi gwybod amdano pan fyddwch chi yn allforio neu鈥檔 symud gwartheg o Gymru neu Loegr
Rhoi adborth ynghylch tagiau clust
Gallwch roi adborth i GSGP ynghylch tagiau clust a chyflenwyr a gymeradwywyd.
Mae adborth yn cynnwys unrhyw broblemau sydd gennych yngl欧n 芒 thagiau clust fel:
- heintiau mewn gwartheg
- cyfraddau colli
- perfformiad
- toriadau
- darllenadwyedd
Bydd GSGP yn gwirio鈥檙 adborth hwn ac fe allen nhw weithredu arno. Llenwch y ffurflen adborth neu mynnwch ffurflen gan eich cyflenwr.
Updates to this page
-
Consolidated 2 pages of ear tagging guidance into one and clarified the rules. Moved information about ear tagging rules when importing and exporting cattle onto the 188体育 pages about importing and exporting cattle.
-
This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.
-
Updated with guidance on how to comply with rules from 1 January.
-
Changed the layout of approved eartags
-
The list of approved cattle ear tag manufacturers has been updated.
-
Updated version of cattle eartag list added
-
Updated the BCMS email address on the eartag feedback form.
-
New Ear Tag manufacturer list added.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
New cattle ear tag list added
-
Version 51 of cattle list added
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
updated eartag list added
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
Updated ear tag suppliers
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
Updated cattle ear tag manufacturers list
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The list of approved cattle ear tag manufactures has been updated
-
Updated list of suppliers and the official tags they supply
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved list of suppliers of cattle ear tags has been updated.
-
The approved Cattle Ear tag supplier list has been updated.
-
Updated list of new or replacement official ear tags for cattle
-
New version of Cattle Ear tag list added.
-
Updated list of cattle ear tag suppliers
-
Updated list of cattle ear tags
-
Update to list for official ear tags suppliers
-
Updated list of cattle ear tag suppliers
-
Updated the eartag feedback form
-
Eartag list updated
-
updated version of ear tags list published
-
Updated version of Cattle Ear Tags list published
-
First published.