Canllawiau

Symud gwartheg: yr hyn mae angen i geidwaid gwartheg ei wybod

Beth yw symudiad gwartheg, beth mae angen ichi ei wneud cyn symud gwartheg, a phryd na chewch chi symud gwartheg.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae yna reolau mae鈥檔 rhaid ichi eu dilyn pan fyddwch chi鈥檔 symud gwartheg yn 么l ac ymlaen i鈥檆h daliad.

Rhaid ichi gymryd yr holl gamau hyn er mwyn i鈥檙 gwartheg allu cael eu holrhain bob amser. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau

Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai neu gallech gael eich erlyn.

Beth yw daliad

Eich daliad yw鈥檙 tir a鈥檙 adeiladau rydych chi鈥檔 eu defnyddio i gadw gwartheg (ac unrhyw dda byw arall). Mae鈥檙 Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn rhoi rhif unigryw i bob daliad ar sail y sir, y plwyf a鈥檙 daliad. Efallai y bydd gan fusnes da byw fwy nag un daliad a mwy nag un rhif daliad.

Gall un daliad gynnwys y tir a鈥檙 adeiladau o fewn 10 milltir i鈥檙 brif fan lle rydych chi鈥檔 cadw gwartheg. Bydd angen ichi roi manylion am bob lleoliad lle byddwch ci鈥檔 cadw gwartheg (ac unrhyw dda byw eraill) pan fyddwch chi鈥檔 gwneud cais am rif daliad (tudalen gwe yn Saesneg).

Beth yw symudiad gwartheg

Mae symud gwartheg, buail neu fyfflos yn 么l ac ymlaen i鈥檆h daliad yn cael ei alw鈥檔 鈥榮ymudiad鈥�.

Mae symudiad yn digwydd unrhyw bryd y bydd anifeiliaid yn cael eu symud yn 么l ac ymlaen i鈥檆h daliad. Gall hyn gynnwys eu symud nhw:

  • yn 么l ac ymlaen i ddaliad neu fferm wahanol
  • i鈥檆h daliad chi pan fyddwch chi鈥檔 prynu neu鈥檔 mewnforio anifeiliaid
  • o鈥檆h daliad chi pan fyddwch chi鈥檔 gwerthu neu鈥檔 allforio anifeiliaid
  • i ladd-dy
  • yn 么l ac ymlaen i faes sioe neu farchnad

Cyn ichi symud gwartheg

Os dyma鈥檙 tro cyntaf ichi gadw gwartheg, mae鈥檔 rhaid ichi:

  1. Awneud cais am rif daliad gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) - tudalen gwe yn Saesneg - byddwch yn cael rhif daliad ar gyfer eich daliad.
  2. Sicrhau nod buches gan - tudalen gwe yn Saesneg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i鈥檞 ddefnyddio ar dagiau clust i adnabod gwartheg
  3. Cofrestru gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) 鈥� er mwyn ichi gofrestru genedigaethau a marwolaethau a chael pasbortau gwartheg

Cadw cofrestr daliad

Bydd angen ichi gadw cofrestr daliad i gofnodi genedigaethau, marwolaethau a symudiadau gwartheg. Rhaid ichi ddiweddaru hon bob tro y byddwch yn symud gwartheg yn 么l ac ymlaen i鈥檆h daliad.

Darllen y 鈥榯rwyddedau cyffredinol鈥� ar gyfer symud gwartheg

Dylech chi ddarllen a dilyn amodau鈥檙 苍别耻鈥檙 drwydded gyffredinol ar gyfer symud gwartheg yn Lloegr (tudalen gwe yn Saesneg). Mae鈥檙 trwyddedau鈥檔 nodi鈥檙 gofynion cyfreithiol yngl欧n 芒 symud gwartheg.

Pan fyddwch chi鈥檔 symud gwartheg yng Nghymru a Lloegr

Rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg er mwyn i鈥檙 gwartheg allu cael eu holrhain bob amser.

Mae angen ichi sicrhau bod gan unrhyw anifail yr hoffech ei symud:

Mae鈥檔 rhaid ichi hefyd:

  • diweddaru cofrestr eich daliad o fewn 36 awr
  • cofnodi鈥檙 symudiad i鈥檆h daliad ym mhasbort yr anifail o fewn 36 awr ar 么l iddo gyrraedd
  • cofnodi dyddiad y symudiad oddi ar y daliad ym mhasbort yr anifail cyn iddo adael y daliad
  • rhoi gwybod am y symudiad i GSGP o fewn 3 diwrnod

Darllenwch y canllawiau ar sut i gofnodi symudiadau gwartheg a rhoi gwybod amdanyn nhw.

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am symudiadau pan fyddwch chi鈥檔 mewnforio neu鈥檔 symud gwartheg o Ogledd Iwerddon i Gymru a Lloegr.

Pryd nad oes rhaid ichi adrodd a chofnodi symudiadau gwartheg

Does dim rhaid ichi adrodd a chofnodi symudiadau gwartheg o fewn 10 milltir i鈥檙 brif fan lle rydych chi鈥檔 eu cadw nhw:

  • os yw鈥檙 tir 苍别耻鈥檙 adeiladau wedi鈥檜 cofrestru o dan eich rhif daliad - gallwch gysylltu 芒鈥檙 RPA i鈥檞 hychwanegu os byddwch chi鈥檔 eu defnyddio鈥檔 barhaol (am fwy na blwyddyn)
  • os na fydd y gwartheg yn cymysgu 芒 da byw rhywun arall

Asiantaeth Taliadau Gwledig
Ff么n (llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra): 03000 200 301
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau 聽

Os ydych chi鈥檔 defnyddio tir neu adeiladau ychwanegol dros dro o fewn 10 milltir i鈥檙 brif fan lle rydych chi鈥檔 cadw gwartheg, gallwch gael cysylltiad tir dros dro. Mae hyn yn cysylltu鈥檙 tir 苍别耻鈥檙 adeiladau 芒鈥檆h rhif daliad, sy鈥檔 golygu nad oes rhaid ichi adrodd a chofnodi symudiadau.

Yr unig adeg y cewch chi wneud hyn yw:聽

  • os ydych chi鈥檔 bwriadu defnyddio鈥檙 tir 苍别耻鈥檙 adeiladau am lai na blwyddyn
  • os na fydd y gwartheg yn cymysgu 芒 da byw rhywun arall

Gwartheg heb basbortau

Chewch chi ddim symud unrhyw wartheg, buail neu fyfflos byw heb basport llawn. Darllenwch beth i鈥檞 wneud os nad oes gan eich gwartheg basport.

Gwartheg wedi鈥檜 geni yn y Deyrnas Unedig cyn Awst 1996

Bydd angen ichi gael trwydded symud er mwyn symud gwartheg sydd wedi鈥檜 geni neu wedi鈥檜 magu yn y Deyrnas Unedig cyn Awst 1996.

Os oes yna gyfyngiadau symud ar eich buches

Rhaid ichi ddilyn unrhyw gyfyngiadau symud sydd wedi鈥檜 gosod ar eich buches gyfan neu ar anifeiliaid unigol.

Os bydd cyfyngiad yn cael ei roi ar waith, fe gewch chi hysbysiad a fydd yn dweud beth sydd angen ichi ei wneud i ddod 芒鈥檙 cyfyngiadau i ben ac unrhyw derfynau amser.

Y rheol ar wahardd symud

Mae鈥檙 rheol ar wahardd symud yn helpu i leihau lledaeniad clefydau heintus. Mae鈥檔 gymwys i symudiadau gwartheg, defaid, geifr a moch.

Os byddwch chi鈥檔 symud gwartheg, defaid, neu eifr i鈥檆h tir o ddaliad gwahanol, am 6 diwrnod wedyn chewch chi ddim symud unrhyw un neu ragor o鈥檙 canlynol oddi ar eich daliad:

  • gwartheg
  • defaid
  • geifr
  • moch

Os byddwch chi鈥檔 symud moch i鈥檆h tir o ddaliad gwahanol, chewch chi ddim symud:

  • unrhyw wartheg, defaid neu eifr oddi ar eich daliad am 6 diwrnod
  • unrhyw foch oddi ar eich daliad am 20 diwrnod

Diwrnod 1 yw鈥檙 diwrnod ar 么l i鈥檙 anifeiliaid gyrraedd.

Enghraifft Os bydd buwch yn cyrraedd ar ddydd Llun, dydd Mawrth yw diwrnod 1 a dydd Sul yw diwrnod 6. Cewch symud anifeiliaid o bob rhywogaeth oddi ar eich daliad ar ddiwrnod 7 鈥� sef y dydd Llun canlynol.

Does dim rhaid ichi ddilyn y rheol ar wahardd symud os ydych chi鈥檔 symud anifeiliaid yn uniongyrchol i gael eu lladd, gan gynnwys i farchnad da byw coch (marchnad lladd yn unig).

Mae yna eithriadau eraill. Darllenwch y canllawiau yngl欧n 芒 phryd y gallech gael eich eithrio rhag dilyn y rheolau ar wahardd symud (tudalen gwe yn Saesneg).

Os oes arnoch chi angen help neu gyngor, cysylltwch 芒 llinell gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra a dewiswch opsiwn APHA.

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
Ebost: [email protected]
Ff么n (Llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra): 03000 200 301
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ff么n a rhifau ff么n

Cyfyngiadau symud pan fydd clefyd yn digwydd

Gall cyfyngiadau symud gael eu gosod ar fuchesi pan fydd amheuaeth o glefyd neu pan fydd clefyd wedi鈥檌 gadarnhau, fel twbercwlosis buchol (TB) neu ffliw adar.

Gallech gael dirwy neu gael eich erlyn os byddwch yn symud gwartheg tra bo cyfyngiad symud ar waith oherwydd clefyd.

Darllenwch y canllawiau ar yr hyn mae鈥檔 rhaid ichi ei wneud:

Pan fyddwch yn symud gwartheg yn 么l ac ymlaen i鈥檙 Alban

I symud gwartheg o Gymru neu Loegr yn 么l ac ymlaen i鈥檙 Alban, rhaid ichi ddilyn y rheolau ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.

Pan fyddwch chi鈥檔 mewnforio gwartheg neu鈥檔 eu symud o Ogledd Iwerddon

Pan fyddwch yn mewnforio gwartheg neu鈥檔 eu symud o Ogledd Iwerddon i Gymru a Lloegr, symudiadau i鈥檆h daliad fydd y rhain. Mae鈥檙 hyn mae angen ichi ei wneud yn dibynnu ar o ble mae鈥檙 anifeiliaid yn dod.

Rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru gwartheg sy鈥檔 cael eu mewnforio neu eu symud o Ogledd Iwerddon i Gymru a Lloegr.

Pan fyddwch chi鈥檔 symud gwartheg i Ogledd Iwerddon neu鈥檔 eu hallforio i wlad arall

Pan fyddwch chi鈥檔 symud gwartheg i Ogledd Iwerddon neu鈥檔 eu hallforio i wlad arall o Gymru a Lloegr bydd y rhain yn symudiadau oddi ar eich daliad. Mae鈥檙 hyn mae angen ichi ei wneud yn dibynnu ar i ble mae鈥檙 anifeiliaid yn mynd.

Rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wartheg sy鈥檔 cael eu hallforio o Brydain Fawr neu鈥檔 cael eu symud i Ogledd Iwerddon.

Anfon gwartheg i gael eu lladd

Mae anfon eich gwartheg i gael eu lladd yn symudiad oddi ar eich daliad. Darllenwch y canllawiau ar beth i鈥檞 wneud pan fyddwch chi yn anfon gwartheg i gael eu lladd.

Rhaid i weithredwyr lladd-dai gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg i鈥檞 daliad nhw. Os ydych chi鈥檔 weithredwr lladd-dy, darllenwch y canllawiau ar yr hyn mae鈥檔 rhaid ichi ei wneud i gofnodi a rhoi gwybod am farwolaethau gwartheg mewn lladd-dy.

Symud gwartheg yn 么l ac ymlaen i faes sioe neu farchnad

Pan fyddwch chi鈥檔 symud eich gwartheg i faes sioe neu farchnad mae鈥檔 rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am y symudiad oddi ar eich daliad.

Os daw eich gwartheg yn 么l i鈥檆h daliad, neu os byddwch chi鈥檔 prynu gwartheg yn y farchnad mae鈥檔 rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am y symudiad i鈥檆h daliad hefyd.

Rhaid i ysgrifennydd y maes sioe neu weithredwr y farchnad gofnodi a rhoi gwybod am y symudiad i鈥檞 daliad nhw a鈥檙 symudiad oddi arno pan fydd y gwartheg yn cael eu gwerthu neu eu dychwelyd i鈥檙 daliad y daethon nhw ohono.

Darllenwch y canllawiau ar sut i gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.

Symud lloi i鈥檙 farchnad

Chewch chi ddim mynd 芒 llo dan 12 wythnos oed i鈥檙 farchnad fwy na dwywaith mewn unrhyw gyfnod o 28 diwrnod. Os ewch chi 芒 llo i鈥檙 farchnad am yr eildro o fewn 28 diwrnod mae鈥檔 rhaid ichi fod 芒 dogfennau ysgrifenedig gyda chyfeiriad y farchnad flaenorol a鈥檙 dyddiad yr aeth y llo yno.

Rhaid i weithredwyr y farchnad wirio nad yw llo wedi bod mewn marchnad fwy na dwywaith yn ystod y 28 diwrnod blaenorol. Os yw鈥檙 llo wedi bod yno fwy na dwywaith, rhaid i鈥檙 gweithredwr gofnodi:

  • cyfeiriad y farchnad - hyd yn oed os yr un farchnad yw hi
  • y dyddiad 苍别耻鈥檙 dyddiadau roedd y llo yn y farchnad

Gwartheg ar goll neu wedi鈥檜 dwyn

Darllenwch y canllawiau ar beth i鈥檞 wneud os bydd unrhyw un neu ragor o鈥檆h gwartheg yn cael eu colli neu eu dwyn a beth i鈥檞 wneud os cewch chi nhw yn 么l.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Rhagfyr 2023 show all updates
  1. Added information on when you do not need to report and record cattle movements.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon