Canllawiau

Cofnodi a rhoi gwybod am wartheg sy'n cael eu lladd mewn lladd-dy

Rhaid i weithredwyr lladd-dai gofnodi symudiadau unrhyw wartheg i'r lladd-dy, rhoi gwybod am eu marwolaeth a dychwelyd y pasbort gwartheg.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Os ydych chi鈥檔 rhedeg lladd-dy, rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg i鈥檆h lladd-dy, a鈥檙 ffaith eu bod nhw wedi cael eu lladd.

Mae angen ichi wneud hyn o fewn terfynau amser gwahanol

Pan fydd yr anifeiliaid yn cyrraedd eich lladd-dy, mae鈥檔 rhaid ichi:

  • cofnodi鈥檙 symudiad yng nghofrestr eich daliad o fewn 36 awr
  • cofnodi鈥檙 symudiad a rhoi gwybod amdano i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) o fewn 3 diwrnod

Ar 么l i鈥檙 anifeiliaid gael eu lladd, o fewn 7 diwrnod mae鈥檔 rhaid ichi:

  • rhoi gwybod am y marwolaethau i GSGP
  • dychwelyd y pasbortau i GSGP
  • diweddaru cofrestr eich daliad 芒 dyddiadau鈥檙 marwolaethau

Diwrnod 1 yw鈥檙 diwrnod ar 么l i鈥檙 anifail gael ei ladd.

Ceidwad y gwartheg sy鈥檔 gyfrifol am anfon y gwaith papur angenrheidiol gyda鈥檙 gwartheg. Bwriad y gwaith papur hwn yw rhoi gwybod am symudiad y gwartheg ar ffaith eu bod nhw wedi鈥檜 lladd.

Rhaid ichi gyflawni鈥檙 holl weithredoedd hyn er mwyn i鈥檙 gwartheg allu cael eu holrhain. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau

Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech gael eich erlyn.

Rhoi gwybod am farwolaethau ar-lein

Rhowch wybod am farwolaeth anifail cofrestredig drwy ddefnyddio鈥檙 . Os ydych chi鈥檔 defnyddio鈥檆h meddalwedd lladd-dy eich hun, cewch ddefnyddio honno i anfon y data i GSGP.

I roi gwybod am nifer o farwolaethau, gallwch uwchlwytho ffeil o symudiadau a marwolaethau i SOG Ar-lein. Os nad ydych yn si诺r sut i wneud hyn, cysylltwch 芒 GSGP.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: [email protected]
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ff么n a rhifau ff么n

Rhoi gwybod am farwolaethau dros y ff么n

Os oes gan yr anifeiliaid dagiau clust swyddogol y Deyrnas Unedig, gallwch roi gwybod am eu marwolaethau nhw ar linell ff么n hunanwasanaeth SOG.

Llinell ff么n hunanwasanaeth SOG
Ff么n (Cymraeg): 0345 011 1213
Ff么n (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr y dydd, 7 diwrnod
Costau ff么n a rhifau ff么n

Rhoi gwybod am farwolaethau drwy鈥檙 post

Llenwch fanylion y farwolaeth ar basbort yr anifail a鈥檌 anfon i GSGP. Rhaid iddo gyrraedd o fewn 7 diwrnod ar 么l y farwolaeth.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Cofnodi manylion y farwolaeth

Yn achos pasbortau tudalen sengl - os ydych chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth ar-lein neu dros y ff么n ar y pasbort, does dim angen ichi lenwi manylion y farwolaeth. Ticiwch y blwch i ddweud eich bod chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth.

Yn achos pasbortau ar ffurf llyfr sieciau - llenwch fanylion y farwolaeth ar y pasbort.

Yn achos pasbortau glas a gwyrdd neu dystysgrifau cofrestru - stampiwch y dyddiad a鈥檙 man lladd ar y pasbort.

Mae鈥檔 rhaid hefyd ichi gofnodi dyddiad y farwolaeth yng nghofrestr eich daliad o fewn 7 diwrnod.

Dogfennau mae鈥檔 rhaid ichi eu dychwelyd i GSGP

Rhaid i鈥檙 dogfennau gyrraedd o fewn 7 diwrnod ar 么l i鈥檙 anifeiliaid gael eu lladd.

Rhaid ichi anfon:

  • pasbortau neu dystysgrifau cofrestru鈥檙 anifeiliaid, neu鈥檙 ddau, os yw鈥檔 gymwys
  • copi o鈥檙 ddalen ladd ar gyfer pob diwrnod

Mae GSGP yn darparu amlenni wedi鈥檜 talu ymlaen llaw i ddychwelyd pasbortau a chop茂au o ddalenni lladd. Cysylltwch 芒 GSGP os oes arnoch chi angen rhagor o amlenni neu ddalenni.

Gallwch hefyd gael eich cymeradwyo i ddefnyddio gwasanaeth llarpio i ddinistrio pasbortau gwartheg. Cysylltwch 芒 GSGP i gael gwybod sut i gael eich cymeradwyo. Bydd rhaid ichi ddilyn y rheolau o hyd er mwyn cofnodi a rhoi gwybod am y marwolaethau.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost:[email protected]
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ff么n a rhifau ff么n

Arolygiadau adnabod

Bydd milfeddyg swyddogol (OV) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn archwilio 10% o鈥檙 gwartheg sy鈥檔 mynd drwy ladd-dai. Y rheswm am hyn yw er mwyn gwneud yn si诺r eich bod chi鈥檔 gwirio dogfennau adnabod yr anifeiliaid yn gywir. Mae鈥檙 detholiad yn cael ei wneud ar hap.

I wneud hyn, bydd ar yr FSA angen pasbortau鈥檙 anifeiliaid.

Os oes problemau yngl欧n ag adnabod anifail neu basbort anifail, bydd yr OV yn ymchwilio. Ni chaniateir lladd yr anifail nes i鈥檙 broblem gael ei datrys.

Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad wrth roi gwybod am farwolaeth

Rhowch wybod am unrhyw wallau i GSGP mewn ysgrifen cyn gynted ag y byddwch yn dod yn ymwybodol o鈥檙 broblem.

Gallwch chi naill ai:

  • anfon neges yn eich cyfrif , neu
  • anfon neges ebost neu lythyr at GSGP

Esboniwch y broblem a chofiwch gynnwys:

  • eich
  • rhifau swyddogol y tagiau clust

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost: [email protected]

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Tachwedd 2022 show all updates
  1. Content has been reviewed for accuracy and reformatted. New information includes the legal requirement to follow these rules, how to correct errors, and the cattle keeper鈥檚 responsibility to send the correct paperwork to the slaughterhouse.

  2. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon