Anfon gwartheg i'w lladd
Yr hyn mae angen ichi ei wneud wrth anfon gwartheg, buail neu fyfflos i ladd-dy.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Cyn ichi anfon anifeiliaid i鈥檞 lladd mewn lladd-dy trwyddedig, rhaid gwneud yn si诺r bod pob anifail:
- wedi鈥檌 dagio鈥檔 gywir 芒 thag sylfaenol a thag eilaidd
- 芒鈥檙 pasbort gwartheg cywir ganddo
Heb y rhain, gall anifail gael ei wrthod gan y lladd-dy.
Chewch chi ddim anfon anifeiliaid i ladd-dy os ydyn nhw:
- heb basport am fod hwnnw wedi cael ei wrthod
- wedi鈥檜 geni cyn 1996
Chaiff yr anifeiliaid hyn ddim mynd i mewn i鈥檙 gadwyn fwyd. Darllenwch y canllawiau ar wartheg heb basbortau.
Chewch chi ddim anfon anifeiliaid i鈥檞 lladd chwaith os oes gennych chi gyfyngiadau symud ar eich buches, er enghraifft, oherwydd bod twbercwlosis buchol (TB) wedi鈥檌 ganfod yn eich buches.
Yr hyn mae angen ichi ei gofnodi a rhoi gwybod amdano
Wrth anfon anifeiliaid i鈥檞 lladd mae鈥檔 rhaid ichi:
- ddiweddaru cofrestr eich daliad o fewn 36 awr
- rhoi gwybod bod anifeiliaid wedi鈥檜 symud oddi ar eich daliad i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) o fewn 3 diwrnod
Rhaid ichi gymryd y camau hyn er mwyn i鈥檙 gwartheg allu cael eu holrhain. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau.
Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, cael llai o daliadau cymhorthdal neu gael eich erlyn.
Gall lladd-dy roi gwybod am y symudiadau oddi ar eich daliad ar eich rhan. Ond fel y ceidwad, chi sy鈥檔 dal yn gyfrifol am sicrhau bod GSGP wedi cael yr wybodaeth o fewn y terfynau amser ar gyfer rhoi gwybod am symudiadau.
Updates to this page
-
Updated to include information about when you cannot send cattle to slaughter, the legal requirement to carry out cattle tracing tasks and the consequences for not completing the tasks.
-
This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.
-
First published.