Ffurflen

Dalen barhau pasbort gwartheg

Gall ceidwaid gwartheg ddefnyddio dalen barhau pan fydd arnyn nhw angen rhagor o le i gofnodi symudiadau mewn pasbort gwartheg.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch Webmaster.RPA@rpa.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Defnyddiwch y ddalen barhau hon i gofnodi symudiadau pan fydd yr adran hanes symudiadau mewn pasbort gwartheg yn llawn.

Rhaid ichi gofnodi鈥檙 dyddiad y mae gwartheg, buail neu fyfflos yn symud yn 么l ac ymlaen i鈥檆h daliad ym mhasbort pob anifail. Y rheswm am hyn yw er mwyn i鈥檙 gwartheg gael eu holrhain bob amser i atal clefydau a rheoli lledaeniad clefydau.

Fe allwch chi:

  • argraffu a defnyddio鈥檙 ddalen barhau hon
  • llungop茂o cefn pasbort un tudalen arall, os oes un gennych chi, lle mae鈥檙 blychau symudiadau yn wag
  • gofyn am ddalen barhau brintiedig gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP)

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ff么n a rhifau ff么n

Sut i ddefnyddio dalen barhau

Mae鈥檙 ddalen barhau yn rhan o鈥檙 pasbort gwartheg swyddogol. Rhaid ichi:

  • ysgrifennu rhif tag clust yr anifail ar y brig
  • atodi鈥檙 ddalen yn ddiogel i鈥檙 pasbort cywir

Rhaid hefyd ichi ddilyn y canllawiau ar sut i gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2022

Argraffu'r dudalen hon