Cofrestru fel ceidwad gwartheg gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Sut i gofrestru neu ail-gofrestru eich daliad gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP), beth sy'n digwydd nesaf a beth i'w wneud os bydd eich manylion yn newid.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Cyn ichi symud gwartheg, buail neu fyfflos i鈥檆h daliad, rhaid i chi gofrestru鈥檆h rhif newydd neu鈥檆h rhif wedi鈥檌 ailagor rhif daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg) gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP). Y rheswm am hyn yw er mwyn ichi allu:
- cofrestru genedigaethau a chael pasbortau gwartheg
- rhoi gwybod am symudiadau gwartheg i GSGP
- rhoi gwybod am farwolaethau gwartheg i GSGP
O dan y gyfraith mae鈥檔 rhaid ichi wneud hyn fel bod modd olrhain gwartheg i atal clefydau a chyfyngu clefydau.
Darllenwch ragor am yr hyn mae鈥檔 rhaid ichi ei wneud wrth gadw gwartheg, buail a byfflos.
Sut i gofrestru
Llenwch y ffurflen hon a鈥檌 hanfon drwy鈥檙 ebost at bcmsenquiries@rpa.gov.uk. Defnyddiwch 鈥楥ofrestru fel ceidwad gwartheg鈥� fel pennawd pwnc eich neges.
Gallwch gofrestru dros y ff么n os yw鈥檔 well gennych
GSGP
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Yr hyn y bydd GSGP yn ei wneud
Bydd GSGP yn eich cofrestru fel ceidwad gwartheg ac yn anfon y canlynol atoch:
- llythyr yn cadarnhau bod eich manylion ar gronfa ddata eu System Olrhain Gwartheg (SOG)
- labeli cod bar i鈥檞 defnyddio mewn pasbortau
Fe gewch chi鈥檙 canlynol hefyd:
- rhif cyfeirnod i鈥檞 ddefnyddio wrth greu cyfrif
- cyfrinair ar gyfer Gwasanaethau Gwe SOG fel y gallwch ddefnyddio meddalwedd fferm a gymeradwywyd (tudalen gwe yn Saesneg)
Gallwch ddefnyddio鈥檙 rhain i gofrestru genedigaethau gwartheg a rhoi gwybod am symudiadau a marwolaethau ar-lein.
Yr hyn mae angen ei wneud nesaf
Rhaid ichi ddweud wrth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) hefyd eich bod yn bwriadu cadw gwartheg a rhoi eich rhif daliad (tudalen gwe yn Saesneg) iddyn nhw.
Y rheswm am hyn yw er mwyn i APHA anfon nod buches atoch i adnabod y gwartheg sy鈥檔 cael eu geni ar eich daliad. Hyd yn oed os nad ydych chi鈥檔 bwriadu magu lloi, mae鈥檔 dal yn angenrheidiol ichi gael nod buches er mwyn cydymffurfio 芒鈥檙 gyfraith.
Gwybodaeth am sut i gofrestru gydag APHA a chael nod buches.
Os bydd unrhyw beth yn newid
Rhaid ichi roi gwybod i GSGP ac APHA os bydd unrhyw newidiadau yn eich manylion cofrestredig.
Rhaid ichi roi gwybod i鈥檙 Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) hefyd am unrhyw newidiadau yn y manylion a roesoch wrth wneud cais am eich rhif daliad.
Gwybodaeth am sut i ddiweddaru manylion eich daliad.