Cofnodi a rhoi gwybod am wartheg sy'n cael eu hallforio neu eu symud allan o Gymru neu Loegr
Yr hyn mae'n rhaid i geidwaid gwartheg yng Nghymru a Lloegr ei gofnodi a rhoi gwybod amdano wrth allforio neu symud gwartheg, gan gynnwys y rheolau ynghylch tagio clustiau.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dim ond os yw鈥檙 canlynol yn wir y cewch chi allforio neu symud gwartheg allan o Gymru neu Loegr:
- eu bod nhw wedi鈥檜 geni, wedi鈥檜 mewnforio neu wedi鈥檜 symud i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu鈥檙 Alban) ar 么l 1 Awst 1996
- bod ganddyn nhw basbort dilys (tudalen sengl neu ddull llyfr sieciau) gyda hanes cyflawn eu symudiadau
- bod ganddyn nhw ddau dag clust swyddogol, un yn y naill glust a鈥檙 llall, yn dangos yr un rhif tag clust swyddogol 鈥� rhaid ichi gael y rhain gan gyflenwr tagiau clust a gymeradwywyd
- nad ydyn nhw o dan unrhyw gyfyngiadau symud
Ni chewch allforio gwartheg byw i鈥檞 pesgi na鈥檜 lladd. Mae hyn yn berthnasol i deithiau o Brydain Fawr neu drwy Brydain Fawr i unrhyw le y tu allan i鈥檙 DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
Fe allwch chi ddal i allforio gwartheg byw at ddibenion eraill, er enghraifft ar gyfer bridio a chystadlu. Rhaid i chi fodloni鈥檙 gofynion cyfreithiol ynghylch diogelu lles anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo.
Pan fyddwch chi鈥檔 symud gwartheg i鈥檙 Alban o Gymru neu Loegr, dilynwch y rheolau ar gofnodi a rhoi gwybod am symud gwartheg oddi ar eich daliad.
Mae yna reolau a phrosesau eraill i鈥檞 dilyn pan fyddwch chi鈥檔 allforio neu鈥檔 symud gwartheg, er enghraifft cyfnodau cwarantin. Darllenwch ragor am y canlynol:
- allforio neu symud gwartheg (tudalen gwe yn Saesneg)
- Symud nwyddau yn 么l ac ymlaen i Ogledd Iwerddon (tudalen gwe yn Saesneg)
Yr hyn mae鈥檔 rhaid ichi ei gofnodi a rhoi gwybod amdano
Mae鈥檔 rhaid ichi:
- diweddaru cofrestr eich daliad o fewn 36 awr ar 么l i鈥檙 anifail adael eich daliad
- rhoi gwybod am y symudiad oddi ar eich daliad i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) o fewn 3 diwrnod
Os ydych chi鈥檔 symud gwartheg i Ogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, anfonwch gopi o鈥檙 dystysgrif iechyd allforio (tudalen gwe yn Saesneg) i GSGP o fewn 7 diwrnod.
Os ydych chi鈥檔 allforio i鈥檙 UE neu unrhyw wlad arall y tu allan i鈥檙 Deyrnas Unedig, anfonwch gopi o鈥檙 dystysgrif iechyd allforio (tudalen gwe yn Saesneg) a鈥檙 pasbort gwartheg i GSGP o fewn 7 diwrnod.
Rhowch label cod bar gyda rhif daliad (CPH) y daliad y mae鈥檙 anifail yn cael ei symud neu ei allforio ohono ar bob dogfen y byddwch chi鈥檔 ei hanfon i GSGP. Neu fel arall fe gewch chi ysgrifennu鈥檆h rhif daliad ar y dogfennau.
Os yw鈥檙 daliad wedi cael ei gymeradwyo fel canolfan grynhoi, defnyddiwch rif daliad (CPH) y ganolfan grynhoi.
Postiwch eich dogfennau i:
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Rheolau ynghylch tagio clustiau er mwyn allforio gwartheg i鈥檙 UE neu eu symud i Ogledd Iwerddon
Rhaid ichi dagio鈥檙 holl wartheg rydych chi鈥檔 bwriadu eu hallforio i鈥檙 UE neu eu symud i Ogledd Iwerddon 芒 dau dag clust swyddogol 鈥� un yn y naill glust a鈥檙 llall.
Rhaid i鈥檙 ddau dag clust gynnwys rhif tag clust swyddogol yr anifail.
Rhaid ichi archebu tagiau clust gan gyflenwr a gymeradwywyd (tudalen gwe yn Saesneg).
Y rheolau ynghylch tagio clustiau ar gyfer gwledydd eraill
Rhaid i wartheg sy鈥檔 cael eu hallforio y tu allan i鈥檙 UE neu鈥檙 Deyrnas Unedig hefyd gael dau dag clust swyddogol, un yn y naill glust a鈥檙 llall, yn dangos yr un rhif tag clust swyddogol.
Os oes gan y wlad maen nhw鈥檔 cael eu hallforio iddi ofynion gwahanol yngl欧n 芒 thagiau clust, fe fydd y tagiau鈥檔 cael eu newid ar 么l cyrraedd.
Mae鈥檔 dal yn rhaid ichi ddilyn y rheolau ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.
Allforio cynhyrchion gwartheg
Mae yna reolau gwahanol i鈥檞 dilyn pan fyddwch yn allforio neu鈥檔 symud cynhyrchion anifeiliaid, fel cig neu gelatin, allan o Gymru neu Loegr.
Darllenwch y canllawiau ar sut i allforio neu symud bwyd, diod a chynhyrchion amaethyddol (tudalen gwe yn Saesneg).
Updates to this page
-
Following paragraphs added due to new legislation from 22 July 2024: 'You cannot export live cattle for fattening or slaughter. This applies to journeys from or through Great Britain to anywhere outside the UK, Channel Islands or Isle of Man.聽 You can still export live cattle for other purposes, for example for breeding and competitions. You must meet legal requirements to protect animal welfare during transport.'
-
Guidance updated as there is no longer a requirement to have a third ear tag when exporting cattle to the EU or moving them to Northern Ireland.
-
Page updated with new rule 'It is against the law to export from Great Britain cattle for slaughter, or for fattening for slaughter.' Also text deleted due to change in retagging rules when exporting.
-
Clarified what you need to do when exporting cattle or moving them to Northern Ireland. Added a link to general rules on exporting.
-
This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.
-
Links to Bovine-CON (consignor confirmation of loading) form and list of identification numbers (Bovine-SCH) removed.
-
Added section to explain that as a result of the UK exiting the EU, the tagging requirements for cattle that are exported from or moved out of GB to an EU Country or Northern Ireland have changed from 1 January.
-
First published.