Cofrestru 芒 SOG Ar-lein i gynrychioli ceidwaid gwartheg fel asiant
Yr hyn y mae'n rhaid i asiant ei wneud er mwyn cyfathrebu 芒'r System Olrhain Gwartheg ar ran ceidwad gwartheg, buail neu fyfflos.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Gall ceidwaid gwartheg benodi asiantau i weithredu ar eu rhan, gan gynnwys eu hawdurdodi i ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y System Olrhain Gwartheg. Cyn y gallwch weithredu fel asiant a defnyddio i roi gwybod am enedigaethau, marwolaethau a symudiadau ar ran ceidwad gwartheg, mae angen i chi gofrestru鈥檔 asiant
Mae鈥檔 rhaid i chi gwblhau ffurflenni cytundeb ar gyfer pob un o鈥檆h cleientiaid, a chael cysylltiad cleient er mwyn i chi allu gweld eu cofnodion drwy SOG Ar-lein.
Cwblhau鈥檙 broses cofrestru asiant ar gyfer SOG Ar-lein
Gallwch
neu ofyn am ffurflen drwy:- ffonio llinell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) ar 0345 050 1234 (llinell Gymraeg: 0345 050 3456)
- anfon neges e-bost i [email protected]
Cwblhewch y ffurflen gais a鈥檌 dychwelyd i GSGP yn y cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd GSGP yn cofrestru eich manylion ar gronfa ddata鈥檙 System Olrhain Gwartheg (SOG) ac yn anfon llythyr atoch gyda鈥檆h Rhif Adnabod Asiant unigryw a llythyr ar wah芒n gyda rhif cyfeirnod ar gyfer SOG Ar-lein.
Er mwyn defnyddio SOG Ar-lein, mae angen i chi .
Cofrestru i weld cofnodion cleientiaid
Cyn y gallwch weithredu ar ran eich cleient, mae鈥檔 rhaid i chi鈥檆h dau gwblhau鈥檙 ffurflen gais ar gyfer awdurdodi asiant i weld cofnodion ar SOG Ar-lein. Gallwch:
- ffonio llinell gymorth GSGP ar 0345 050 1234 (llinell Gymraeg: 0345 050 3456)
- anfon neges e-bost i [email protected]
Mae鈥檔 rhaid i chi a鈥檆h cleient lofnodi a dyddio鈥檙 ffurflen a鈥檌 dychwelyd i GSGP yn y cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd GSGP yn creu cydberthynas (cysylltiad) ar gronfa ddata SOG rhyngoch chi fel yr asiant, a鈥檆h cleient o dan rif y daliad. Bydd wedyn yn anfon llythyrau atoch er mwyn cadarnhau y gallwch ddechrau gweithredu ar ran eich cleient.