Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad ardrethi gwledig
Gallech gael rhyddhad ardrethi gwledig os yw鈥檆h busnes mewn ardal wledig gymwys sydd 芒 phoblogaeth o dan 3,000.
Mae鈥檔 rhaid bod y canlynol hefyd yn wir am eich busnes:
- dyma鈥檙 unig siop gyffredinol, siop fwyd neu swyddfa bost yn y pentref, gyda gwerth ardrethol o hyd at 拢8,500
- dyma鈥檙 unig dafarndy neu orsaf betrol yn y pentref, gyda gwerth ardrethol o hyd at 拢12,500
Os oes mwy nag un busnes yn yr ardal, gall y ddau ohonynt wneud cais ar yr amod eu bod yn wahanol fathau o fusnes 鈥� er enghraifft, tafarndy a siop fwyd.
Mae鈥檔 rhaid bod yr eiddo wedi鈥檌 feddiannu.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes os yw鈥檆h busnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig.
Sut i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Cynghorau lleol sy鈥檔 rheoli鈥檙 rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych mewn ardal wledig gymwys 鈥� bydd gan y cyngor restr o ardaloedd cymwys a mapiau o鈥檙 ardaloedd hynny
-
gwirio a yw鈥檆h math o fusnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu鈥檙 swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi鈥檌 么l-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os:
-
yw鈥檆h eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i鈥檆h eiddo a fyddai鈥檔 cynyddu ei werth 鈥� er enghraifft, adeiladu estyniad neu waith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw鈥檔 symud i safle gwahanol
Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig, fel arfer bydd angen i chi dalu鈥檆h cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o鈥檙 diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi gwledig, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi gwledig, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael.
Os ydych o鈥檙 farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir
Gallwch herio gwerth ardrethol eich eiddo gyda鈥檙 VOA. Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud hyn.
Os daeth eich rhyddhad ardrethi gwledig i ben ar 么l 1 Ebrill 2023
Mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cefnogi busnesau bach os daeth eich rhyddhad ardrethi gwledig i ben oherwydd yr ailbrisiad diwethaf ar 1 Ebrill 2023.
Dysgwch ragor am y cynllun cefnogi busnesau bach.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes.
Er enghraifft, os yw鈥檙 canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Mae鈥檔 bosibl eich bod hefyd wedi eich eithrio rhag talu ardrethi busnes ar dir ac adeiladau amaethyddol.
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i鈥檞 cael.