Sut y cyfrifir eich ardrethi

Mae ardrethi busnes yn seiliedig ar ‘werth ardrethol� eich eiddo.

Amcangyfrif gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw hwn o’r hyn y bydd yn ei gostio ar 1 Ebrill 2021 i rentu eiddo am flwyddyn.

Sut i amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.

Mae’n bosibl y bydd eich bil yn cael ei ostwng os yw’ch eiddo yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os neu os .

Os ydych yn credu bod eich cyfraddau’n anghywir

Os ydych chi’n credu bod eich cyfraddau’n anghywir, defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod y canlynol i’r VOA:

  • bod angen newid manylion eich eiddo (megis maint arwynebedd llawr a pharcio)

  • bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel yn eich barn chi

Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth o ran rhentu

Efallai y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth o ran rhentu mewn perthynas â’ch eiddo, a hynny er mwyn iddi allu cyfrifo’i werth ardrethol.

Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio os oes angen rhagor o amser arnoch i anfon eich gwybodaeth o ran rhentu.