Ardrethi busnes

Printable version

1. Trosolwg

Mae ardrethi busnes yn cael eu codi ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig, megis:

  • siopau
  • swyddfeydd
  • tafarndai
  • warysau
  • ´Ú´Ú²¹³Ù°ùï´Ç±ð»å»å
  • llety gwyliau neu dai gwesteion

Mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes os ydych yn defnyddio adeilad, neu ran o adeilad, at ddibenion annomestig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ymdrinnir ag ardrethi busnes mewn ffordd wahanol os yw’r canlynol yn berthnasol:

Yr hyn sydd i’w dalu a phryd

Bob blwyddyn, bydd eich cyngor lleol yn anfon bil ardrethi busnes atoch ym mis Chwefror neu ym mis Mawrth. Mae hyn ar gyfer y flwyddyn dreth ddilynol. Gallwch hefyd amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.

Gallwch gael help gydag ardrethi busnes gan:

  • eich cyngor, os oes gennych gwestiynau am eich bil
  • asiantaeth y Swyddfa Brisio, os ydych yn credu bod eich ‘gwerth ardretholâ€� yn anghywir

Cynlluniau rhyddhad

Mae’n bosibl y gallwch ostwng eich bil drwy gael rhyddhad ardrethi busnes gan eich cyngor lleol. Weithiau, mae hyn yn digwydd yn awtomatig, ond efallai y bydd angen i chi wneud cais.

Mae’r broses hon yn ddibynnol ar y canlynol:

Pwy sydd ddim yn gorfod talu

Mae rhai eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi busnes, er enghraifft adeiladau fferm neu leoedd a ddefnyddir er lles pobl anabl.

Os ydych yn berchen ar stabl

Fel arfer mae angen i chi dalu ardrethi busnes ar eich stablau, oni bai eich bod yn defnyddio’ch ceffylau ar gyfer ffermio.

Os yw’ch stablau yn eich gardd, gallwch dalu Treth Gyngor yn lle ardrethi busnes. Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i wirio pa un y dylech ei thalu.

2. Sut y cyfrifir eich ardrethi

Mae ardrethi busnes yn seiliedig ar ‘werth ardrethol� eich eiddo.

Amcangyfrif gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw hwn o’r hyn y bydd yn ei gostio ar 1 Ebrill 2021 i rentu eiddo am flwyddyn.

Sut i amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.

Mae’n bosibl y bydd eich bil yn cael ei ostwng os yw’ch eiddo yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os neu os .

Os ydych yn credu bod eich cyfraddau’n anghywir

Os ydych chi’n credu bod eich cyfraddau’n anghywir, defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod y canlynol i’r VOA:

  • bod angen newid manylion eich eiddo (megis maint arwynebedd llawr a pharcio)

  • bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel yn eich barn chi

Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth o ran rhentu

Efallai y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth o ran rhentu mewn perthynas â’ch eiddo, a hynny er mwyn iddi allu cyfrifo’i werth ardrethol.

Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio os oes angen rhagor o amser arnoch i anfon eich gwybodaeth o ran rhentu.

3. Ailbrisiad

Wrth ailbrisio, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru gwerth ardrethol eiddo busnes i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo.

Daeth yr ailbrisiad diweddaraf i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werthoedd ardrethol o 1 Ebrill 2021.

Gallwch ddod o hyd i’ch prisiad ardrethi busnes ar-lein.

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os neu os .

Yr hyn sy’n digwydd yn ystod ailbrisiad

Wrth ailbrisio:

Mae hyn yn golygu nad yw newid yn eich gwerth ardrethol bob amser yn golygu y bydd newid yn eich bil.

Er mwyn sicrhau bod eich prisiadau yn gywir, ³¾²¹±ð‵µ bosibl y bydd y VOA yn gofyn i chi am fanylion rhent a phrydles ar gyfer eich eiddo.

Cael rhyddhad ardrethi busnes

Mae’n bosibl y gallwch gael gostyngiad gan eich cyngor lleol os ydych yn gymwys i gael rhyddhad rhag ardrethi busnes.

Er enghraifft, ³¾²¹±ð‵µ bosibl y gallech gael:

4. Help gydag ardrethi busnes

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael gostyngiad gan eich cyngor lleol ar eich ardrethi busnes os ydych yn gymwys ar gyfer un neu fwy o gynlluniau rhyddhad ardrethi busnes.

I gael help gyda gwerth ardrethol eich eiddo, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

I gael help gyda’ch bil ardrethi busnes (er enghraifft i dalu fesul rhandaliad) neu ryddhad ardrethi, cysylltwch â’ch cyngor.

Cael cyngor proffesiynol

Gallwch hefyd gael help gan syrfëwr trethu cymwys drwy un o’r sefydliadau canlynol:

Mae’n bosibl y codir tâl arnoch am unrhyw gyngor a gewch gan syrfëwr trethu o’r cychwyn cyntaf.

Gallwch gael cyngor gan sefydliad sy’n rhan o . Mae 30 munud cyntaf yr alwad ymgynghorol yn rhad ac am ddim.

5. Os yw’ch busnes neu safle yn newid

Gallai’ch ardrethi busnes newid os:

  • rydych yn symud neu’n gwneud newidiadau i’ch safle
  • mae natur eich busnes yn newid
  • rydych yn is-osod rhan o’ch eiddo
  • rydych yn cyfuno 2 eiddo neu fwy yn 1

Rhowch wybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.

Mae ardrethi busnes yn cael eu trin yn wahanol os neu os .

Os yw’ch safle yn cael ei effeithio gan darfiad lleol

Mae’n bosibl y byddwch yn cael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes os bydd digwyddiad lleol difrifol yn effeithio ar eich safle (megis llifogydd, gwaith adeiladu neu waith ffordd).

Rhowch wybod i’r VOA am newidiadau.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newidiadau gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.

6. Gweithio gartref

Fel rheol, nid oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer busnes sy’n cael ei redeg o’r cartref os ydych:

  • yn defnyddio rhan fach o’ch cartref ar gyfer eich busnes, er enghraifft os ydych yn defnyddio ystafell wely fel swyddfa
  • yn gwerthu nwyddau drwy’r post

Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ardrethi busnes yn ogystal â Threth Gyngor os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’ch eiddo yn rhannol yn fusnes ac yn rhannol ddomestig, er enghraifft os ydych yn byw uwchben eich siop
  • rydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i bobl sy’n ymweld â’ch eiddo
  • rydych yn cyflogi pobl eraill i weithio yn eich eiddo
  • rydych wedi gwneud newidiadau i’ch cartref ar gyfer eich busnes, er enghraifft trosi garej yn siop trin gwallt

Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i gael gwybod a ddylech fod yn talu ardrethi busnes. Yn yr Alban, cysylltwch â’ch . Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r .

7. Tafarndai a masnach drwyddedig

Os ydych yng Nghymru a Lloegr, Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n cyfrifo’ch gwerth ardrethol gan ddefnyddio ‘trosiant cynaliadwy teg�. Dyma’r lefel flynyddol o fasnach (heb gynnwys TAW) y mae disgwyl i’ch tafarn ei chyflawni os yw’n cael ei rhedeg mewn ffordd resymol o effeithlon. Mae’n seiliedig ar y canlynol:

  • y math o dafarn neu safle trwyddedig
  • yr ardal y mae ynddi
  • gwybodaeth a phatrymau eich masnach
  • y gwasanaethau y ³¾²¹±ð‵µ ei chynnig, er enghraifft bwyd, gemau neu ddangos chwaraeon ar sgrîn
  • faint o rent rydych yn ei dalu
  • unrhyw incwm a wnewch o letya
  • rhenti a throsiant tafarndai eraill

Yna, mae’r VOA yn cymhwyso canran i gyfrifo’r gwerth ardrethol. Cytunir ar y canrannau â grwpiau’r diwydiant, gan gynnwys Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain (British Beer and Pub Association). Gallwch ddod o hyd i’r canrannau yng nghanllaw cymeradwy prisio tafarndai y VOA.

Gallwch ddod o hyd i’ch prisiad ardrethi busnes ar-lein. Os ydych am wirio’r ffigurau y mae’r VOA yn eu defnyddio neu os nad ydych yn cytuno â’r prisiad, gallwch gofrestru neu sefydlu cyfrif prisio ardrethi busnes neu gysylltu â’r VOA.

Rhyddhad ardrethi busnes i dafarndai a masnach drwyddedig

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir am eich busnes:

Os yw’ch safle trwyddedig yn yr Alban

Yn yr Alban, eich asesydd lleol sy’n cyfrifo’ch gwerth ardrethol. os ydych am wirio’r ffigurau ³¾²¹±ð‵µ eu defnyddio neu os nad ydych yn cytuno â’r ffigurau sy’n cael eu defnyddio.

Os yw’ch eiddo trwyddedig yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Gwasanaethau Tir ac Eiddo (LPS) yn cyfrifo’ch ardrethi busnes. .

8. Llety hunanddarpar a llety gwyliau

Bydd p’un a ydych yn talu ardrethi busnes yn dibynnu ar faint o nosweithiau y mae’ch eiddo ar gael i’w osod bob blwyddyn a sawl noson y cafodd ei osod mewn gwirionedd.

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerth ardrethol eich eiddo ar sail ei fath, maint, lleoliad, ansawdd a faint o incwm rydych yn debygol o’i wneud o’i osod.

Mae yna reolau gwahanol neu .

Os yw eich eiddo yn Lloegr

Bydd yn cael ei ardrethu fel eiddo hunanddarpar a’i brisio ar gyfer ardrethi busnes os oedd yr amodau canlynol yn wir dros y 12 mis diwethaf:

  • roedd ar gael i’w osod yn fasnachol am gyfnodau byr am o leiaf 140 noson

  • fe’i gosodwyd mewn gwirionedd am o leiaf 70 noson

Os ydych yn gosod un eiddo yn unig yn Lloegr a bod ei werth ardrethol yn llai na £15,000, efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach.

Os yw eich eiddo yng Nghymru

Bydd yn cael ei ardrethu fel eiddo hunanddarpar a’i brisio ar gyfer ardrethi busnes os oedd yr amodau canlynol yn wir dros y 12 mis diwethaf:

  • roedd ar gael i’w osod yn fasnachol am gyfnodau byr am o leiaf 252 noson

  • fe’i gosodwyd mewn gwirionedd am o leiaf 182 noson

Gwiriwch a ydych yn .

Dywedwch wrth y VOA eich bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes

Os ydych yn talu Treth Gyngor ar eich eiddo hunanddarpar ar hyn o bryd, ond ei fod wedi bodloni’r meini prawf ar gyfer ardrethi busnes, gallwch ddweud wrth y VOA drwy lenwi ffurflen.

Llenwch y ffurflen hon os yw eich eiddo naill ai:

  • yn cael ei brisio fel eiddo domestig ar hyn o bryd ond bellach yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes

  • yn eiddo hunanddarpar newydd sydd wedi bodloni’r meini prawf dros y 12 mis diwethaf ac sy’n gymwys ar gyfer ardrethi busnes

Sut i lenwi’r ffurflen

Mae yna wahanol ffurflenni ar gyfer: