Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad ardrethi elusennol
Gallech gael rhyddhad ardrethi elusennol os yw鈥檆h eiddo鈥檔 cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol yn bennaf.
I fod yn gymwys, mae鈥檔 rhaid bod yr eiddo鈥檔 cael ei ddefnyddio gan y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
-
elusen, neu ymddiriedolwyr elusen
-
clwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC)
Ni allwch gael rhyddhad ardrethi elusennol a rhyddhad ardrethi busnesau bach ar yr un pryd. Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu pa fath o ryddhad yr ydych yn gymwys i gael.
Os yw鈥檙 eiddo鈥檔 cael ei ddefnyddio gan elusen neu ymddiriedolwyr elusen
Mae鈥檔 bosibl y bydd eich awdurdod lleol yn gofyn am dystiolaeth i brofi bod eich eiddo鈥檔 cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol 鈥� er enghraifft, rhif cofrestru鈥檆h elusen neu dystiolaeth o statws elusennol.
Dysgwch ragor am sefydlu elusen, neu ei chofrestru.
Os yw鈥檙 eiddo鈥檔 cael ei ddefnyddio gan glwb chwaraeon amatur cymunedol
I fod yn gymwys, mae鈥檔 rhaid i鈥檆h sefydliad fod wedi鈥檌 gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) fel clwb chwaraeon amatur cymunedol.
Dysgwch ragor am gofrestru fel clwb chwaraeon amatur cymunedol.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Mae rhyddhad ardrethi elusennol yn tynnu hyd at 80% oddi ar eich bil ardrethi busnes.
Mae鈥檔 bosibl y bydd eich cyngor lleol yn gallu ychwanegu at y gostyngiad, fel na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes. Gelwir hyn yn 鈥榬hyddhad dewisol鈥�.
Sut i gael rhyddhad ardrethi elusennol
Cynghorau lleol sy鈥檔 rheoli鈥檙 rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi elusennol
-
cael gwybod a all y cyngor ychwanegu at y gostyngiad gan ddefnyddio rhyddhad dewisol, fel na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes
-
gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal 芒 rhyddhad ardrethi elusennol
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu鈥檙 swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi鈥檌 么l-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os:
-
yw鈥檆h eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i鈥檆h eiddo a fyddai鈥檔 cynyddu ei werth 鈥� er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw鈥檔 symud i safle gwahanol
Os yw swm y rhyddhad ardrethi elusennol yr ydych yn gymwys i鈥檞 gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu鈥檆h cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o鈥檙 diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi elusennol, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi elusennol, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi elusennol
Mae鈥檔 bosibl eich bod yn dal i allu cael rhyddhad dewisol os ydych yn sefydliad di-elw neu鈥檔 sefydliad gwirfoddol. Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol i gael gwybod.
Mae鈥檔 bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw鈥檙 canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i鈥檞 cael.