Rhyddhad ardrethi busnes
Ardaloedd menter
Os ydych yn dechrau busnes, neu鈥檔 ei symud i ardal fenter, gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.
Cymhwystra
Bydd p鈥檜n a ydych yn gymwys i gael rhyddhad, a faint y byddwch yn ei gael, yn dibynnu ar y canlynol:
-
rheolau鈥檙 cyngor lleol ar gyfer yr ardal fenter
-
pryd y sefydlwyd yr ardal fenter
-
pryd y gwnaethoch ddechrau鈥檆h busnes, neu ei symud i鈥檙 ardal fenter
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Y cyngor sy鈥檔 cyfrifo sut mae鈥檙 rhyddhad yn cael ei roi ar waith. Gallech gael rhyddhad gwerth hyd at 拢55,000 pob blwyddyn, dros 5 mlynedd.
Sut i gael rhyddhad ardal fenter
i wneud y canlynol:
-
gwirio a yw鈥檔 cynnig rhyddhad ardrethi busnes
-
cael gwybod sut i鈥檞 gael
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol i wirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal 芒 rhyddhad ardal fenter.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu鈥檙 swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi鈥檌 么l-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os:
-
yw鈥檆h eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i鈥檆h eiddo a fyddai鈥檔 cynyddu ei werth 鈥� er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw鈥檔 symud i safle gwahanol
Os bydd swm y rhyddhad ardal fenter yr ydych yn gymwys i鈥檞 gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu鈥檆h cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o鈥檙 diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardal fenter, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardal fenter, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardal fenter
Mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw鈥檙 canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i鈥檞 cael.