Eiddo eithriedig

Mae rhai eiddo wedi鈥檌 eithrio rhag ardrethi busnes.

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer y canlynol:

  • adeiladau a thir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol, gan gynnwys ffermydd pysgod

  • adeiladau a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant neu er lles pobl anabl

  • neuaddau eglwys neu adeiladau sydd wedi鈥檜 cofrestru ar gyfer addoli crefyddol cyhoeddus

Mae gofynion cyfreithiol llym ar gyfer yr eithriadau hyn. Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i wirio a yw鈥檆h eiddo wedi鈥檌 eithrio rhag ardrethi busnes.

Os ydych o鈥檙 farn y dylai鈥檆h eiddo fod wedi鈥檌 eithrio

Gallwch roi gwybod i鈥檙 VOA eich bod o鈥檙 farn y dylai鈥檆h eiddo fod wedi鈥檌 eithrio gan ddefnyddio鈥檆h cyfrif prisio ardrethi busnes.

Os yw鈥檙 VOA yn penderfynu bod eich eiddo wedi鈥檌 eithrio, ni fydd angen i chi dalu ardrethi busnes ar yr eiddo, oni bai bod eich busnes neu鈥檆h safle yn newid.

Os bydd newid yn eich amgylchiadau

Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu鈥檙 swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi鈥檌 么l-ddyddio yn eich bil.

Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os:

  • yw鈥檆h eiddo yn dod yn wag

  • ydych yn cael eiddo arall

  • ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i鈥檆h eiddo a fyddai鈥檔 cynyddu ei werth 鈥� er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu

  • yw natur eich busnes yn newid, neu os yw鈥檔 symud i safle gwahanol

Os yw鈥檙 newid yn golygu nad yw鈥檆h eiddo wedi鈥檌 eithrio mwyach, fel arfer bydd angen i chi dalu鈥檆h cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o鈥檙 diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid.

Os nad yw鈥檆h eiddo wedi鈥檌 eithrio rhag ardrethi busnes

Mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes.

Er enghraifft, os oes gennych siop ar eich eiddo amaethyddol, mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys i gael y canlynol:

Mae鈥檔 bosibl eich bod hefyd yn gymwys os yw鈥檙 canlynol yn wir:

Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i鈥檞 cael.