Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad papur newydd lleol
Gallech gael rhyddhad papur newydd lleol os yw鈥檆h eiddo鈥檔 cael ei ddefnyddio fel swyddfa ar gyfer newyddiadurwyr a gohebwyr sy鈥檔 gweithio i bapur newydd lleol.
Ni allwch gael y rhyddhad hwn ar gyfer:
-
cylchgronau
-
papurau newydd ar-lein nad ydynt yn cael eu hargraffu
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Bydd eiddo cymwys yn cael rhyddhad mewn ardrethi busnes ar ffurf gostyngiad gwerth 拢1,500 y flwyddyn.
Gall papur newydd gael y rhyddhad hwn ar gyfer un eiddo yn unig, hyd yn oed os yw鈥檔 defnyddio mwy nag un eiddo fel swyddfa.
Os oes sawl papur newydd lleol yn defnyddio鈥檙 un swyddfa, dim ond un ohonynt sy鈥檔 gallu cael y rhyddhad.
Sut i gael rhyddhad papur newydd lleol
Cynghorau lleol sy鈥檔 rheoli鈥檙 rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad papur newydd lleol
-
gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal 芒 rhyddhad papur newydd lleol
Bydd rhyddhad papurau newydd lleol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. O 1 Ebrill 2025 ymlaen, bydd angen i chi dalu ardrethi busnes yn llawn os nad ydych yn gymwys i gael math arall o ryddhad.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu鈥檙 swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi鈥檌 么l-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os:
-
yw鈥檆h eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i鈥檆h eiddo a fyddai鈥檔 cynyddu ei werth 鈥� er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw鈥檔 symud i safle gwahanol
Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad papur newydd lleol, fel arfer bydd angen i chi dalu鈥檆h cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o鈥檙 diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad papur newydd lleol, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi papur newydd lleol, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad papur newydd lleol
Mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw鈥檙 canlynol yn wir:
-
mae鈥檆h papur newydd yn fusnes bach
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i鈥檞 cael.