Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad caledi
Gall cynghorau ddefnyddio rhyddhad caledi i ostwng neu ganslo鈥檆h bil ardrethi busnes.
Er mwyn rhoi鈥檙 rhyddhad hwn i chi, bydd yn rhaid i鈥檆h cyngor lleol gytuno 芒鈥檙 canlynol:
-
byddech yn wynebu trafferthion ariannol heb y rhyddhad hwn
-
mae rhoi rhyddhad caledi i chi er budd pobl leol
Mae鈥檔 bosibl y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth i brofi鈥檆h sefyllfa ariannol, neu i ddangos sut mae鈥檆h busnes o fudd i鈥檙 gymuned leol.
Sut i gael rhyddhad caledi
Cynghorau lleol sy鈥檔 rheoli鈥檙 rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol ac esboniwch eich sefyllfa er mwyn gallu gwneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys a faint y gallwch ei gael
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad caledi
-
gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal 芒 rhyddhad caledi, neu yn lle hynny
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu鈥檙 swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi鈥檌 么l-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os:
-
nad ydych yn wynebu trafferthion ariannol mwyach
-
yw鈥檆h trafferthion ariannol wedi gwaethygu, a鈥檆h bod o鈥檙 farn bod angen mwy o ryddhad caledi arnoch
Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad caledi, fel arfer bydd angen i chi dalu鈥檆h cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o鈥檙 diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad caledi
Mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw鈥檙 canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i鈥檞 cael.