Rhyddhad ardrethi busnes
Rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
Gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden os yw鈥檆h busnes yn cael ei ddefnyddio鈥檔 bennaf fel:
- siop
- bwyty, caffi, bar neu dafarn
- sinema neu leoliad cerddoriaeth
- busnes hamdden neu letygarwch 鈥� er enghraifft, campfa, sba neu westy
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Os ydych yn gymwys, gallech gael 75% oddi ar eich biliau ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn filio 2023 i 2024 (1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024).
Y rhyddhad mwyaf y gallwch ei gael yn ystod pob blwyddyn filio yw 拢110,000 fesul busnes.
Os byddwch yn optio allan o ryddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden ar gyfer y flwyddyn filio 2023 i 2024, ni allwch newid eich meddwl.
Sut i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
Cynghorau lleol sy鈥檔 rheoli鈥檙 rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol i wneud y canlynol:
- gwirio a ydych yn gymwys
- cael gwybod sut i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
- gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal 芒 rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu鈥檙 swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi鈥檌 么l-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os:
- yw鈥檆h eiddo yn dod yn wag
- ydych yn cael eiddo arall
- ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i鈥檆h eiddo a fyddai鈥檔 cynyddu ei werth 鈥� er enghraifft, adeiladu estyniad neu waith adnewyddu
- yw natur eich busnes yn newid, neu os yw鈥檔 symud i safle gwahanol
Os yw swm y rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden yr ydych yn gymwys i鈥檞 gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu鈥檆h cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o鈥檙 diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid.
Os nad ydych yn cael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael
Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden, a鈥檆h bod o鈥檙 farn eich bod yn gymwys i鈥檞 gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
Mae鈥檔 bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw鈥檙 canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i鈥檞 cael.