Pwy all wneud cais i fod yn ddirprwy

Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy os ydych chi鈥檔 18 oed neu鈥檔 h欧n. Fel arfer, mae dirprwyon yn berthnasau agos neu鈥檔 ffrindiau i鈥檙 unigolyn sydd angen help i wneud penderfyniadau.

Os ydych eisiau gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol, mae angen i chi feddu ar y sgiliau i wneud penderfyniadau ariannol i rywun arall.

Gall y llys benodi 2 ddirprwy neu fwy ar gyfer yr un unigolyn.

Pan fydd mwy nag un dirprwy

Pan fyddwch yn gwneud cais, dywedwch wrth y llys sut byddwch yn gwneud penderfyniadau os nad chi yw鈥檙 unig ddirprwy. Bydd hyn naill ai:

  • gyda鈥檆h gilydd (鈥榙irprwy ar y cyd鈥�), sy鈥檔 golygu bod rhaid i鈥檙 holl ddirprwyon gytuno ar y penderfyniad
  • ar wah芒n neu gyda鈥檆h gilydd (鈥榓r y cyd ac yn unigol鈥�), sy鈥檔 golygu y gall dirprwyon wneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain neu gyda dirprwyon eraill

Mathau eraill o ddirprwy

Mae rhai pobl yn cael eu talu i weithredu fel dirprwyon, er enghraifft cyfrifwyr, cyfreithwyr neu gynrychiolwyr awdurdod lleol.

Gall y Llys Gwarchod benodi dirprwy arbenigol (a elwir yn 鈥榙dirprwy panel鈥�) o restr o gwmn茂au cyfreithiol ac elusennau cymeradwy os nad oes unrhyw un arall ar gael.