Gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol

Dilynwch y camau hyn i ddod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol neu i gymryd lle dirprwy sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod:

  1. Dywedwch wrth yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt a gofynwch iddynt lenwi鈥檙 ffurflenni perthnasol.

  2. Dywedwch wrth o leiaf 3 unigolyn sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h cais a gofynnwch iddynt lenwi鈥檙 ffurflenni perthnasol.

  3. Llenwch y ffurflenni sy鈥檔 weddill.

  4. Cyflwynwch y ffurflenni ar-lein neu eu hanfon drwy鈥檙 post.

Dweud wrth yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt

Rhaid i chi neu鈥檆h cynrychiolydd ymweld 芒鈥檙 unigolyn a dweud wrthynt:

  • pwy sy鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
  • bod eu gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei gwestiynu
  • beth fyddai cael dirprwy yn ei olygu iddynt
  • ble i gael cyngor os ydynt eisiau trafod y cais

Yn ystod yr ymweliad mae鈥檔 rhaid i chi roi iddynt:

  • y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) - bydd angen i chi lenwi adrannau hysbysu鈥檙 ffurflen ac fe allan nhw lenwi鈥檙 adran gydnabod os ydynt yn gallu
  • ffurflen gydnabod (COP5) - os ydynt yn gallu, bydd angen iddynt lenwi鈥檙 ffurflen hon os ydynt am wrthwynebu鈥檙 cais neu ddarparu tystiolaeth yn ei erbyn
  • unrhyw ddogfennau eraill sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檆h cais

Os ydynt yn gallu, dylent lenwi鈥檙 ffurflen o fewn 14 diwrnod. Os nad ydynt yn gallu, yna fe allwch anfon y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) yn 么l gyda鈥檙 adrannau hysbysu鈥檔 unig wedi鈥檜 llenwi.

Dweud wrth bobl sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h cais

Rhaid i chi ddweud wrth o leiaf 3 unigolyn sy鈥檔 adnabod yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt am eich cais. Er enghraifft, perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg yr unigolyn.

Os ydych chi鈥檔 cymryd drosodd gan ddirprwy sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod, dylai un o鈥檙 bobl rydych chi鈥檔 dweud wrthynt fod yr unigolyn hwnnw (os yw hynny鈥檔 bosibl).

Anfonwch atynt:

Gallwch ddweud wrthynt:

  • drwy鈥檙 post i鈥檞 cyfeiriad cartref
  • drwy e-bost
  • wyneb yn wyneb

Os na allwch ddweud wrth 3 o bobl, yna dylech anfon datganiad tyst (COP24) i鈥檙 Llys Gwarchod gyda鈥檆h ffurflenni eraill.

Mae angen iddynt ddychwelyd y ffurflenni i chi o fewn 14 diwrnod iddynt eu cael. Os na fyddwch wedi cael y ffurflenni ar 么l 14 diwrnod, yna gallwch wneud cais hebddynt.

Ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi

Mae鈥檙 ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar p鈥檜n a ydych yn cyflwyno鈥檙 ffurflenni ar-lein neu drwy鈥檙 post.

Mae鈥檔 rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflenni o fewn 3 mis ichi ddweud wrth y bobl sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h cais. Os na fyddwch yn gwneud hyn, yna bydd rhaid i chi ail-ddechrau鈥檙 broses.

Dylech gadw copi o bob ffurflen rydych yn ei llenwi ar gyfer eich cofnodion.

Mae angen i bob ceisydd lenwi:

Efallai na fydd y llys yn derbyn eich cais os na fyddwch yn anfon y ffurflen 鈥榓sesu galluedd鈥� (COP3).

Os na allwch gael asesiad, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi datganiad tyst (COP24) i egluro pam rydych chi鈥檔 meddwl nad oes gan yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais ar ei gyfer alluedd meddyliol.

Os ydych chi鈥檔 cymryd drosodd gan ddirprwy arall

Gallwch wneud cais i gymryd drosodd gan ddirprwy sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod, er enghraifft oherwydd ni allant barhau 芒鈥檜 dyletswyddau mwyach neu os ydych chi鈥檔 meddwl na ddylent fod yn ddirprwy mwyach. Dylech egluro pam rydych eisiau cymryd drosodd ganddynt yn eich cais.

Gall y dirprwy presennol wrthwynebu cael ei ddisodli drwy lenwi ffurflen gydnabod (COP5).

Os ydych yn cyflwyno ffurflenni ar-lein

Os bu i鈥檆h cynrychiolydd hysbysu鈥檙 unigolyn am eich cais, yna bydd angen i chi gyflwyno y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep).

Os bu ichi hysbysu鈥檙 unigolyn am eich cais eich hun, yna nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw ffurflenni ychwanegol.

Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy鈥檙 post

Bydd angen i chi hefyd anfon:

Cyflwyno eich ffurflenni ar-lein

Byddwch angen cerdyn debyd neu gredyd i dalu鈥檙 ffi. Mwy o wybodaeth am faint fydd angen i chi dalu.

Cyflwyno eich ffurflenni drwy鈥檙 post

Anfonwch y ffurflenni i鈥檙 Llys Gwarchod gyda siec am y ffi gwneud cais. Mwy o wybodaeth am faint fydd angen i chi dalu.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Ar 么l i chi wneud cais

Bydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais ac yn dweud wrthych:

Gan amlaf, ni chynhelir gwrandawiad ar gyfer ceisiadau i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol. Os bydd un, yna bydd rhaid i chi dalu ffi. Darganfyddwch faint fyddwch angen talu.

Mae鈥檙 canllawiau yn egluro beth i鈥檞 ddisgwyl mewn gwrandawiad y Llys Gwarchod.

Os bydd angen help neu gymorth arnoch

Gallwch gysylltu 芒鈥檙 Llys Gwarchod.

Y Llys Gwarchod
[email protected]
Rhif ff么n: 0300 456 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau