Gwneud cais i fod yn ddirprwy lles personol

Bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi pob un o鈥檙 canlynol:

Rhaid i chi enwi o leiaf 3 unigolyn yn eich cais sy鈥檔 adnabod yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt. Er enghraifft, eu perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg.

Efallai na fydd y llys yn derbyn eich cais os na fyddwch yn anfon y ffurflen 鈥榓sesu galluedd鈥� (COP3).

Os na allwch gael asesiad, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi datganiad tyst (COP24) i egluro pam rydych chi鈥檔 meddwl nad oes gan yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais ar ei gyfer alluedd meddyliol.

Dylech gadw copi o bob ffurflen rydych yn ei llenwi.

Ble i anfon eich ffurflenni

Anfonwch y ffurflenni, gan gynnwys 2 gopi o鈥檙 ffurflen gais (COP1), i鈥檙 Llys Gwarchod gyda siec am y ffi gwneud cais.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Dweud wrth y bobl a enwir yn eich cais

Bydd y llys yn anelu at anfon copi wedi鈥檌 stampio o鈥檆h cais atoch o fewn wythnos i鈥檞 gael. Golyga hyn bod eich cais yn cael ei ystyried (mae wedi鈥檌 鈥榞ychwyn鈥�). Anfonir llythyr atoch yn egluro beth i鈥檞 wneud nesaf.

Cyn pen 14 diwrnod i鈥檙 cais gael ei gychwyn, rhaid i chi ddweud (a elwir weithiau鈥檔 鈥榗yflwyno鈥�) wrth y bobl ganlynol:

  • yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
  • o leiaf 3 o鈥檙 bobl a enwir yn eich cais fel rhai sydd 芒 diddordeb, er enghraifft perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg yr unigolyn

Os na allwch ddweud wrth 3 o bobl, yna dylech anfon datganiad tyst (COP24).

Dweud wrth yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt

Rhaid i chi neu鈥檆h cynrychiolydd ymweld 芒鈥檙 unigolyn a dweud wrthynt:

  • pwy sy鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
  • bod eu gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei gwestiynu
  • beth fyddai cael dirprwy yn ei olygu iddynt
  • ble i gael cyngor os ydynt eisiau trafod y cais

Yn ystod yr ymweliad rhowch iddynt:

Dweud wrth bobl sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h cais

Rhaid i chi ddweud wrth 3 o bobl a enwir ar eich cais ei fod wedi鈥檌 gychwyn.

Anfonwch atynt:

Gallwch ddweud wrthynt am y cais:

  • drwy鈥檙 post i鈥檞 cyfeiriad cartref
  • drwy e-bost
  • wyneb yn wyneb

Cadarnhau eich bod wedi dweud wrth bobl (鈥榗yflwyno rhybudd鈥�)

Cyn pen 7 diwrnod ar 么l cyflwyno鈥檙 dogfennau, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi鈥檙 ffurflenni perthnasol (a elwir weithiau鈥檔 鈥榯ystysgrifau cyflwyno鈥�) i gadarnhau eich bod wedi dweud wrth:

Anfonwch nhw gyda鈥檌 gilydd i鈥檙 Llys Gwarchod.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Ar 么l i鈥檆h cais gael ei adolygu

Ni fydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais tan 14 diwrnod ar 么l i chi ddweud wrth y bobl eraill sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cais er mwyn rhoi cyfle iddynt ei wrthwynebu.

Yna bydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais ac yn dweud wrthych:

  • os yw eich cais wedi鈥檌 gymeradwyo neu ei wrthod
  • os ydych angen sefydlu bond diogelwch cyn y gellir eich penodi
  • os oes rhaid ichi ddarparu mwy o wybodaeth i gefnogi eich cais, er enghraifft, adroddiad gan y gwasanaethau cymdeithasol
  • os yw鈥檔 mynd i drefnu gwrandawiad i gael mwy o wybodaeth, er enghraifft, os yw rhywun wedi gwrthwynebu鈥檙 cais

Os gofynnir ichi fynychu gwrandawiad

Fe gewch hysbysiad o wrandawiad a fydd yn nodi dyddiad y gwrandawiad os bydd y llys yn penderfynu bod angen cynnal un. Mae鈥檔 rhaid i chi ymweld 芒鈥檙 unigolyn yr ydych eisiau fod yn ddirprwy iddynt a dweud wrthynt amdano:

  • o fewn 14 diwrnod ichi gael yr hysbysiad
  • o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad

Rhowch ffurflen hysbysiad o achos (COP14) wedi鈥檌 llenwi iddynt. Defnyddiwch y nodiadau canllaw i鈥檞 llenwi.

Rhaid i chi egluro y gallant gysylltu 芒 staff y Llys Gwarchod i gael cyngor a chymorth.

Y Llys Gwarchod
[email protected]
Rhif ff么n: 0300 456 4600
Gwybodaeth am gost galwadau

Pan fyddwch wedi dweud wrthynt, anfonwch dystysgrif cyflwyno (COP20A) i鈥檙 Llys Gwarchod o fewn 7 diwrnod.

Bydd rhaid i chi dalu ffi os bydd y llys yn gwneud penderfyniad terfynol yn y gwrandawiad.

Mae鈥檙 canllawiau yn egluro beth i鈥檞 ddisgwyl mewn gwrandawiad Y Llys Gwarchod.