Pan gewch eich penodi

Anfonir 鈥榞orchymyn llys鈥� atoch yn dweud wrthych beth y gallwch ac na allwch ei wneud fel dirprwy. Pan fyddwch wedi鈥檌 gael, gallwch ddechrau gweithredu ar ran yr unigolyn.

Anfonir y gorchymyn llys atoch:

  • cyn gynted ag y cewch eich penodi - os ydych chi鈥檔 ddirprwy lles personol
  • ar 么l i chi sefydlu bond diogelwch - os ydych chi鈥檔 ddirprwy eiddo a materion ariannol a bod y llys wedi gofyn i chi wneud hyn

Bydd angen gorchymyn llys ar wah芒n arnoch cyn y gallwch:

Gwiriwch y gorchymyn llys. Os oes unrhyw gamgymeriadau, lawrlwythwch a llenwch ffurflen COP9 gyda鈥檙 manylion a鈥檌 hanfon i鈥檙 llys cyn pen 21 diwrnod ar 么l ichi gael y gorchymyn llys. Nid oes unrhyw ffi i鈥檞 thalu.

Dweud wrth bobl a sefydliadau eich bod yn ddirprwy

Fe gewch gop茂au swyddogol o鈥檙 gorchymyn llys i鈥檞 hanfon at fanciau a chymdeithasau adeiladu, er enghraifft. Mae鈥檙 rhain yn profi eich bod yn gweithredu ar ran yr unigolyn arall. Pan anfonwch gopi swyddogol, gofynnwch iddo gael ei ddychwelyd.

Gallwch archebu cop茂au ychwanegol o鈥檙 gorchymyn llys trwy ysgrifennu at y Llys Gwarchod. Maent yn costio 拢5 yr un.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Dechrau rheoli cyfrif banc

Cyn y gallwch reoli cyfrif, rhaid i chi ddangos i鈥檙 banc:

  • y gorchymyn llys gwreiddiol, neu gopi swyddogol ohono
  • prawf o鈥檆h enw, er enghraifft eich pasbort neu鈥檆h trwydded yrru
  • prawf o鈥檆h cyfeiriad, er enghraifft bil nwy, trydan neu dreth y cyngor, neu lythyr gan adran o鈥檙 llywodraeth
  • prawf o enw neu gyfeiriad yr unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt - os nad yw鈥檙 manylion yr un fath 芒 manylion y cyfrif banc

Cyfrifon Swyddfa Cronfeydd Llys

Os oes gan yr unigolyn rydych chi鈥檔 dirprwy ar ei gyfer arian mewn cyfrif Swyddfa Cronfeydd Llys, anfonir gwybodaeth atoch yngl欧n 芒 sut i gael mynediad ato.

Gallwch hefyd wneud cais i agor cyfrif gyda鈥檙 Swyddfa Cronfeydd Llys os ydych chi鈥檔 ddirprwy eiddo a materion ariannol a鈥檌 fod er budd gorau鈥檙 unigolyn.

Cofnodi eich penderfyniadau a鈥檆h trafodion

Gallwch gychwyn eich adroddiad dirprwy blynyddol i gofnodi eich penderfyniadau a鈥檆h trafodion, fel talu biliau.