Dirprwyon: gwneud penderfyniadau dros rywun sydd heb allu
Ffioedd
Mae鈥檔 rhaid ichi dalu:
- ffi i wneud cais i fod yn ddirprwy
- ffi oruchwylio bob blwyddyn ar 么l i chi gael eich penodi
Efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu i sefydlu 鈥榖ond diogelwch鈥� cyn y gellir eich penodi鈥檔 ddirprwy eiddo a materion ariannol.
Pan fyddwch chi鈥檔 gwneud cais
Rhaid i chi dalu ffi gwneud cais o 拢421.
Os ydych yn cyflwyno鈥檆h ffurflenni drwy鈥檙 post, dylech gynnwys siec yn daladwy i 鈥楪wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF鈥�.
Os ydych yn cyflwyno鈥檆h ffurflenni ar-lein, gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd.
Bydd angen i chi dalu鈥檙 ffi gwneud cais ddwywaith os ydych yn gwneud cais i ddod yn ddau fath o ddirprwy.
Bydd angen i chi hefyd dalu 拢259 os bydd y llys yn penderfynu bod angen i鈥檆h achos gael ei wrando mewn gwrandawiad. Bydd y llys yn dweud wrthych pa bryd fydd angen i chi dalu鈥檙 ffi hon.
Bondiau diogelwch ar gyfer dirprwyon eiddo a materion ariannol
Efallai y bydd rhaid i chi dalu i sefydlu 鈥榖ond diogelwch鈥� cyn y gellir eich penodi鈥檔 ddirprwy eiddo a materion ariannol. Mae hwn yn fath o yswiriant sy鈥檔 amddiffyn arian yr unigolyn rydych chi鈥檔 ddirprwy iddynt.
Nid oes rhaid i chi sefydlu bond os yw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- rydych yn cynrychioli awdurdod lleol
- mae鈥檙 llys yn penderfynu nad yw鈥檔 angenrheidiol, er enghraifft os yw gwerth ystad yr unigolyn yn isel
Os oes angen i chi sefydlu un, fe gewch lythyr gan y llys yn dweud hyn wrthych. Bydd y llythyr yn egluro beth i鈥檞 wneud nesaf.
Byddwch yn sefydlu鈥檙 bond gyda darparwr bond diogelwch. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar:
- werth ystad yr unigolyn rydych chi鈥檔 ddirprwy iddynt
- faint o鈥檜 hystad rydych chi鈥檔 ei reoli
Gallwch ei dalu naill ai:
- gan ddefnyddio arian yr unigolyn
- eich hun - gallwch gael yr arian yn 么l o ystad yr unigolyn ar 么l i chi gael mynediad iddo
Efallai y cewch eich erlyn os byddwch yn camddefnyddio arian yr unigolyn.
Ar 么l i chi gael eich penodi
Rhaid i chi dalu ffi oruchwylio flynyddol yn dibynnu ar ba lefel o oruchwyliaeth sydd ei hangen ar eich dirprwyaeth. Bydd angen ichi dalu:
- 拢320 am oruchwyliaeth gyffredinol
- 拢35 am oruchwyliaeth is - mae hyn yn berthnasol i rai dirprwyon eiddo a materion ariannol sy鈥檔 rheoli llai na 拢21,000
Bydd eich ffi oruchwylio flynyddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn ddyledus ar 31 Mawrth.
Bydd angen i chi hefyd dalu ffi asesu o 拢100 os ydych chi鈥檔 ddirprwy newydd.
Bydd Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dweud wrthych sut a phryd i dalu鈥檆h ffioedd asesu a goruchwylio.
Efallai y gallwch hawlio ad-daliad o鈥檆h ffioedd mewn rhai sefyllfaoedd.
Cael help gyda鈥檆h ffi gwneud cais
Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi gwneud cais yn dibynnu ar:
- y math o ddirprwy rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod
- faint o arian sydd gennych chi neu鈥檙 unigolyn rydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
Math o ddirprwy | Arian pwy fydd yn cael ei asesu |
---|---|
Eiddo a materion ariannol | Nhw |
Lles personol | Chi |
Mae鈥檙 canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am gael help gyda鈥檆h ffioedd.
Gallwch hawlio鈥檙 ffi yn 么l o gronfeydd yr unigolyn rydych am fod yn ddirprwy iddynt os ydych chi鈥檔 gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol.
Ad-delir y ffi os bydd yr unigolyn yn marw cyn pen 5 diwrnod ar 么l i鈥檙 Llys Gwarchod dderbyn y cais.
Help gyda鈥檆h ffioedd goruchwylio
Gallwch wneud cais am esemptiad neu ostyngiad yn y ffi os yw鈥檙 unigolyn rydych chi鈥檔 ddirprwy iddynt yn cael budd-daliadau penodol neu os yw ei incwm yn llai na 拢12,000. Darllenwch y canllawiau a ddaw gyda鈥檙 ffurflen a gwnewch gais os yw鈥檙 unigolyn yn bodloni鈥檙 gofynion. Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.
Os bydd yr unigolyn rydych chi鈥檔 ddirprwy iddynt yn marw, byddwch yn talu鈥檙 ffi oruchwylio am y rhan o鈥檙 flwyddyn pan wnaethoch weithredu fel dirprwy. Er enghraifft, bydd rhaid i chi dalu 拢17.50 os daw eich dirprwyaeth oruchwylio is i ben ar 么l 6 mis.