Cyfrifon, rhoddion a threuliau

Rhaid i chi gadw cyfrifon a dilyn y rheolau ar gyfer rhoddion a threuliau os ydych chi鈥檔 gweithredu fel dirprwy i rywun arall. Rhaid i chi hefyd gofnodi鈥檙 trafodion yn eich adroddiad dirprwy blynyddol.

Cyfrifon

Fel dirprwy eiddo a materion ariannol, rhaid i chi gadw cop茂au o:

  • gyfriflenni banc
  • contractau ar gyfer gwasanaethau neu grefftwyr
  • derbynebau
  • llythyrau a negeseuon e-bost am eich gweithgareddau fel dirprwy

Rhoddion

Bydd eich gorchymyn llys yn dweud a allwch brynu anrhegion neu roi rhoddion neu arian ar ran yr unigolyn arall, gan gynnwys rhoddion i elusennau. Bydd hefyd yn dweud a oes terfyn blynyddol ar faint o arian y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer rhoddion.

Rhaid i roddion fod yn rhesymol. Mae angen i chi sicrhau nad yw unrhyw roddion yn lleihau lefel y gofal y gall yr unigolyn rydych chi鈥檔 ddirprwy iddynt ei fforddio.

Rhaid i chi wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod os ydych eisiau gwneud rhodd mawr untro at ddibenion Treth Etifeddiant, er enghraifft.

Treuliau

Gallwch hawlio treuliau am bethau y mae鈥檔 rhaid i chi eu gwneud i gyflawni eich r么l fel dirprwy, er enghraifft galwadau ff么n, costau postio a theithio. Ni allwch hawlio:

  • costau teithio ar gyfer ymweliadau cymdeithasol
  • am yr amser a dreulir yn cyflawni eich dyletswyddau (oni bai eich bod yn ddirprwy proffesiynol, er enghraifft cyfreithiwr)

Efallai y gofynnir i chi baratoi adroddiad manwl o鈥檙 hyn y gwnaethoch ei wario. Bydd rhaid i chi dalu鈥檙 arian yn 么l os bydd Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn canfod bod eich treuliau yn afresymol. Efallai y byddant yn gofyn i鈥檙 llys eich atal rhag bod yn ddirprwy os ydynt yn credu eich bod wedi bod yn anonest.