Canllawiau

Sut i sefydlu elusen (CC21a)

Beth mae'n ei olygu i fod yn elusen a beth i'w wneud os mai sefydlu elusen yw'r dewis gorau i chi.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sut i sefydlu elusen (CC21a)

Cam 1: penderfynu ai elusen yw鈥檙 dewis iawn

Mae elusennau鈥檔 bodoli i roi budd i鈥檙 cyhoedd. Oherwydd hyn, mae elusennau yn:

  • talu llai o drethi busnes
  • cael
  • cael rhai mathau o grantiau a chyllid

Ond mae elusennau wedi鈥檜 cyfyngu o ran yr hyn y gallant ei wneud a sut y maen nhw鈥檔 gweithio. Er enghraifft, mae鈥檔 rhaid i elusennau:

  • ddilyn y gyfraith elusennau, sy鈥檔 cynnwys dweud wrth y Comisiwn Elusennau a鈥檙 cyhoedd am eu gwaith
  • gwneud pethau sy鈥檔 elusennol yn 么l y gyfraith yn unig
  • cael eu rhedeg gan ymddiriedolwyr nad ydynt yn cael budd personol fel arfer o鈥檙 elusen
  • bod yn annibynnol - gall elusennau weithio gyda sefydliadau eraill ond mae鈥檔 rhaid iddynt wneud penderfyniadau annibynnol sy鈥檔 dangos sut y maent yn cyflawni eu dibenion elusennol

Gofyniad cyfreithiol

Yn 么l y gyfraith, os ydych chi鈥檔 sefydlu elusen mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais i鈥檞 chofrestru gyda鈥檙 Comisiwn Elusennau os yw鈥檔 sefydliad corfforedig elusennol (SCE) neu os yw ei hincwm blynyddol yn fwy na 拢5,000 oni bai ei bod yn fath penodol o elusen nad oes rhaid iddi gofrestru. Bydd y comisiwn yn gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth os yw鈥檔 canfod elusen sydd heb gofrestru ond a ddylai fod wedi cofrestru.

Os nad yw鈥檆h elusen yn SCE ac mae鈥檆h incwm o dan 拢5,000 nid oes rhaid i chi gofrestru gyda鈥檙 comisiwn. Ond gallwch chi wneud cais i Gyllid a Thollau E M i gydnabod eich sefydliad fel un elusennol er mwyn i chi allu hawlio treth yn 么l ar bethau fel cyfraniadau Cymorth Rhodd.

Gwnewch yn si诺r y gall eich math chi o sefydliad fod yn elusen. Mae ystod eang o sefydliadau dielw a mentrau cymdeithasol: nid yw pob un o鈥檙 rhain yn elusennau.

Er enghraifft, ni all cwmni buddiannau cymunedol neu sefydliad sydd wedi cofrestru 芒 Chyllid a Thollau EM fel clwb chwaraeon amatur cymunedol fod yn elusen.

Gwnewch yn si诺r na fydd bod yn elusen yn eich rhwystro rhag gwneud yr hyn rydych chi am ei wneud. Er enghraifft:

Dewisiadau eraill i sefydlu elusen newydd

Mae dros 160,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr a llawer mwy o elusennau anghofrestredig. Mae鈥檔 cymryd llawer o waith i sefydlu a rhedeg elusen. Fel dewis arall, gallech chi wneud y canlynol:

Gweithio gydag elusen sydd eisoes yn bodoli

Gallech chi gysylltu ag elusen sy鈥檔 bodoli i weld a fyddai modd i chi gydweithio.

Defnyddiwch y gwasanaethau hyn i gael hyd i gyfleoedd i fod yn ymddiriedolwr a chyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal chi:

Sefydlu cronfa a enwir yn lle elusen

Bydd rhai elusennau yn caniat谩u i chi sefydlu cronfa a enwir os ydych chi am godi arian ar gyfer digwyddiad un-tro megis trychineb.

Mae hyn yn arbed yr amser a鈥檙 ymdrech o sefydlu a rhedeg elusen ac yna ei chau ar 么l iddi fodloni鈥檙 angen gwreiddiol. Yn dibynnu ar yr elusen, gallwch ddweud i ble rydych chi am i鈥檙 arian fynd.

Sefydlu menter gymdeithasol anelusennol

Mae 鈥榤enter gymdeithasol鈥� yn fusnes sydd ag amcanion cymdeithasol, amgylcheddol neu gymunedol a gall gael dibenion anelusennol.

Cam 2: penderfynu ar ddiben eich elusen

Os ydych chi鈥檔 dewis sefydlu elusen, dechreuwch drwy benderfynu beth fydd ei diben. 鈥楧iben鈥� eich elusen yw鈥檙 hyn y cafodd yr elusen ei sefydlu i鈥檞 gyflawni - y rheswm pam y mae鈥檔 bodoli.

Gall eich elusen gael mwy nag un diben ond ni all gael unrhyw ddibenion sydd heb fod yn elusennol.

Mae dibenion eich elusen yn bwysig oherwydd:

  • maen nhw鈥檔 helpu鈥檙 Comisiwn Elusennau i benderfynu a yw鈥檆h sefydliad yn elusen Cyllid a Thollau EM i benderfynu a yw鈥檔 gymwys i gael rhyddhad treth
  • maen nhw鈥檔 esbonio i鈥檙 bobl sy鈥檔 rhedeg, cefnogi neu鈥檔 cael budd o鈥檆h elusen beth mae鈥檙 elusen yn ei wneud a phwy y mae鈥檔 ei helpu
  • gall eich elusen wneud pethau sy鈥檔 cyflawni ei dibenion yn unig

Gofyniad cyfreithiol

Mae鈥檔 rhaid i chi redeg eich elusen mewn ffordd sy鈥檔 gyson 芒鈥檌 dibenion ac sy鈥檔 cefnogi ei dibenion.

Dibenion elusennol: y gyfraith

I fod yn elusen yng Nghymru a Lloegr, mae鈥檔 rhaid i bopeth y mae wedi鈥檌 sefydlu i鈥檞 gyflawni fod yn elusennol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob un o鈥檌 dibenion:

Dylech fod yn ymwybodol nad yw popeth sy鈥檔 rhoi budd i鈥檙 gymuned neu sy鈥檔 achos da yn elusennol.

Rhoi diben eich elusen mewn geiriau

Dylai diben eich elusen ddweud:

  • beth fydd canlyniadau ei gwaith
  • ble fydd y canlyniadau hyn yn digwydd
  • sut y bydd yn cyflawni鈥檙 canlyniadau hyn
  • pwy fydd yn cael budd o鈥檙 canlyniadau hyn

Er enghraifft:

鈥淓r budd y cyhoedd, lleddfu effeithiau a chynorthwyo pobl mewn angen (beth) mewn unrhyw ran o鈥檙 byd (ble) sy鈥檔 dioddef rhyfel neu drychineb naturiol neu anffawd (pwy) yn arbennig drwy roi cymorth meddygol iddynt (sut)鈥�

Rhestrwch y pethau y gall ymddiriedolwyr eu gwneud i helpu鈥檙 elusen i gyflawni ei dibenion (鈥榩werau鈥�) ar wah芒n - casgliadau codi arian, er enghraifft.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Sut i ysgrifennu dibenion elusennol.

Cam 3: dewis strwythur elusen

Pan fyddwch wedi penderfynu ar ddiben eich elusen, mae鈥檔 rhaid i chi benderfynu beth fydd strwythur sefydliadol eich elusen.

Mae pedwar prif fath o strwythur elusen:

  • sefydliad corfforedig elusennol (SCE)
  • cwmni cyfyngedig drwy warant
  • cymdeithas anghorfforedig
  • ymddiriedolaeth

Mae鈥檔 bwysig eich bod yn dewis y strwythur iawn ar gyfer eich elusen sy鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檙 ffordd y bydd eich elusen yn gweithredu. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Mathau o elusennau: sut i ddewis strwythur (CC22a).

Cam 4: ysgrifennu dogfen lywodraethol

Dogfen lywodraethol eich elusen yw鈥檙 ddogfen gyfreithiol sy鈥檔 creu鈥檙 elusen ac mae鈥檔 dweud sut y dylid ei rhedeg drwy nodi:

  • ei henw
  • ei dibenion elusennol (鈥榓mcanion鈥�)
  • beth y gall ei wneud i gyflawni ei dibenion (鈥榩werau鈥�), megis benthyca arian
  • pwy sy鈥檔 ei rhedeg (鈥榶mddiriedolwyr鈥�) a phwy all fod yn aelod ohoni (os yw鈥檔 briodol)
  • sut y caiff cyfarfodydd eu cynnal
  • faint o ymddiriedolwyr i鈥檞 penodi a sut
  • unrhyw reolau ynghylch talu ymddiriedolwyr, buddsoddiadau a dal tir
  • a all yr ymddiriedolwyr newid y ddogfen lywodraethol, gan gynnwys ei hamcanion elusennol (鈥榙arpariaethau diwygio鈥�)
  • sut i gau鈥檙 elusen (鈥榙arpariaethau diddymu鈥�)

I gael rhagor o wybodaeth am ysgrifennu, defnyddio a newid dogfennau llywodraethol, darllenwch: Sut i ysgrifennu eich dogfen lywodraethol (CC22b).

Cam 5: dewis enw

Mae enw eich elusen yn bwysig. Dyma鈥檆h brand, yr hyn y bydd pobl yn ei gofio pan fyddant yn penderfynu gwneud rhodd neu鈥檔 ystyried gwirfoddoli.

Fel ymddiriedolwyr, rydych chi鈥檔 gyfrifol am ddewis enw eich elusen chi. Os ydych chi鈥檔 cofrestru鈥檆h elusen gydag enw sy鈥檔 gamarweiniol neu enw sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan elusen arall, gall y Comisiwn Elusennau eich gorfodi i鈥檞 newid. Bydd eich elusen yn gyfrifol am unrhyw gostau sy鈥檔 codi.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch: Sut i ddewis enw elusen.

Cam 6: cael hyd i ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr elusen yw鈥檙 bobl sy鈥檔 gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw鈥檔 ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu鈥檔 aelodau pwyllgor.

Eich ymddiriedolwyr elusen yw鈥檙 bobl fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i redeg yr elusen pan gaiff ei sefydlu. Maen nhw鈥檔 gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol.

Fel ymddiriedolwr, mae鈥檔 rhaid i chi redeg eich elusen gyda chymaint o ofal ag y byddech yn ei ddefnyddio i reoli eich busnes eich hun. Mae hynny鈥檔 golygu sicrhau ei bod yn ddiddyled, yn cael ei rhedeg yn dda ac yn bodloni鈥檙 anghenion y cafodd ei sefydlu i鈥檞 bodloni.

Dylech recriwtio digon o ymddiriedolwyr i gael y sgiliau a鈥檙 profiad sydd eu hangen arnoch. Dylai dogfen lywodraethol eich elusen ddweud faint o ymddiriedolwyr i鈥檞 penodi. Mae鈥檙 Comisiwn Elusennau yn argymell fod gennych o leiaf dri ymddiriedolwr heb gysylltiad na pherthynas 芒鈥檌 gilydd gydag amrywiaeth dda o sgiliau.

Er enghraifft, pobl sydd:

  • 芒 sgiliau arbenigol megis codi arian neu gyllid
  • 芒 chysylltiadau cymunedol a allai helpu i ddenu gwirfoddolwyr
  • yn deall neu鈥檔 adlewyrchu anghenion y bobl y mae鈥檆h elusen yn eu helpu

I gael rhagor o wybodaeth am recriwtio ymddiriedolwyr, darllenwch Ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr.

Cam 7: cyllido gwaith eich elusen

Dechreuwch godi arian ar gyfer eich elusen pan fydd wedi鈥檌 sefydlu.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 arian rydych yn ei godi i鈥檆h elusen gael ei ddal yn ddiogel a chael ei gyfrif amdano yn briodol.

Oni bai bod eich elusen yn fath penodol o elusen nad oes rhaid iddi gofrestru, mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais i gofrestru eich elusen gyda鈥檙 Comisiwn Elusennau pan fydd ganddi incwm o fwy na 拢5,000. Os yw鈥檆h elusen yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE) mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais i鈥檞 chofrestru beth bynnag fo鈥檌 hincwm.

Canllawiau ar sut i godi arian ar gyfer eich elusen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Tachwedd 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon