Cael cyllid i ddechrau elusen
Gallwch ddechrau codi arian ar gyfer eich elusen pan fydd eich dogfen lywodraethol a'r ymddiriedolwyr yn eu lle.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Cyn i chi ddechrau codi arian
Bydd rhaid i chi brofi y bydd incwm eich elusen dros 拢5,000 bob blwyddyn os ydych am ei chofrestru gyda鈥檙 Comisiwn Elusennau, oni bai ei bod yn sefydliad corfforedig elusennol (SCE) sy鈥檔 rhaid cofrestru beth bynnag fo鈥檌 incwm.
Gallwch godi arian hyd yn oed cyn eich bod yn elusen gofrestredig, ar yr amod eich bod yn egluro nad ydych wedi cofrestru eto. Er enghraifft, gallech godi arian gan y cyhoedd drwy gynnal digwyddiadau neu weithgareddau noddedig.
Darllenwch ganllawiau鈥檙 comisiwn am godi arian mewn modd cyfreithiol a chyfrifol cyn dechrau arni.
Ffynonellau cyllid
Ar wah芒n i gasgliadau a digwyddiadau cyhoeddus, mae ffynonellau eraill o gyllid i elusennau, o weithio gyda chyrff cyhoeddus i godi arian drwy gymynroddion.
Cyllid gan y llywodraeth
Nid yw鈥檙 comisiwn yn cyllido elusennau. Fodd bynnag, mae rhai elusennau鈥檔 cael eu cyllido gan lywodraeth ganol neu lywodraeth leol. Gall y cyllid hwn gael ei roi yn uniongyrchol neu drwy gorff cyllido megis Cyngor y Celfyddydau. Gall elusennau hefyd wneud cais am gontractau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus (gwasanaethau y bydd awdurdodau cyhoeddus yn eu darparu fel rheol neu鈥檔 eu comisiynu eu hunain).
Darllenwch ganllawiau鈥檙 comisiwn i elusennau sy鈥檔 darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Grantiau gan elusennau a sefydliadau preifat eraill
Mae nifer o sefydliadau, fel , yn darparu cyllid neu grantiau i elusennau. Chwiliwch am grantiau drwy ddefnyddio鈥檙 dolenni hyn:
Gallwch ddefnyddio i chwilio am elusennau sy鈥檔 darparu cyllid i elusennau eraill (dewiswch chwiliad manwl am ragor o ddewisiadau).
Ewyllysiau a chymynroddion
Bydd rhai pobl yn sefydlu elusen ar 么l cael swm sylweddol neu annisgwyl o arian, a gall elusennau gael rhoddion mewn ewyllysiau. Gall arian o ewyllysiau a chymynroddion gyfrif tuag at yr incwm 拢5,000 y mae ei angen arnoch i gofrestru elusen nad yw鈥檔 SCE.
Rheoleiddiwr Codi Arian
Os ydych yn bwriadu codi arian o鈥檙 cyhoedd efallai yr hoffech ystyried cofrestru gyda鈥檙 i ddangos eich ymrwymiad i arferion codi arian da .
Cymorth Rhodd
Gall eich elusen ddefnyddio Cymorth Rhodd i gynyddu gwerth rhoddion gan drethdalwyr y DU. Pan fydd pobl yn rhoi drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd, gallwch adennill treth gan Gyllid a Thollau EM. Ar gyfer pob 拢1 a roddir, gallwch hawlio 25 ceiniog ychwanegol. Yn ogystal, o dan gynllun rhodion bach Cymorth Rhodd, mae rhai elusennau鈥檔 gymwys i hawlio taliad ychwanegol ar eu rhoddion arian parod bach. Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi cyngor ar , y cynllun rhoddion bach Cymorth Rhodd a materion treth eraill.
Os nad yw鈥檆h elusen yn SCE ac mae鈥檆h incwm o dan 拢5,000 nid oes rhaid i chi gofrestru gyda鈥檙 comisiwn. Ond gallwch chi wneud cais i Gyllid a Thollau E M i gydnabod eich sefydliad fel un elusennol er mwyn i chi allu hawlio treth yn 么l ar bethau fel cyfraniadau Cymorth Rhodd.