Llenwi ffurflen ID3
Canllaw ar lenwi ffurflen ID3: tystysgrif hunaniaeth unigolyn preifat
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Tystiolaeth hunaniaeth
Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer unrhyw barti (a鈥檙 sawl sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais os yw鈥檔 wahanol) nad yw wedi ei gynrychiloli鈥檔 gyfreithiol.
Pan fydd hunaniaeth yn cael ei chadarnhau gan rywun yn y proffesiynau awdurdodedig, rhaid i鈥檙 dystiolaeth fod ar ffurflen ID3 a rhaid i bob person unigol sy鈥檔 barti i鈥檙 trafodion uchod nad yw wedi ei gynrychiloli鈥檔 gyfreithiol eu llenwi.
Gellir lawrlwytho ffurflen ID3 yn rhad ac am ddim o鈥檔 gwefan neu trwy ffonio鈥檔 cymorth i gwsmeriaid.
Rhaid i ddwy ran y ffurflen ID3 a gyflwynir i gefnogi cais gael eu dyddio a鈥檜 llofnodi dim mwy na thri mis cyn adeg y cyflwyno.
Nid yw ffurflen ID3 wedi ei llenwi yn agored i鈥檙 cyhoedd eu harchwilio ac fel rheol ni all person wneud cais am gopi swyddogol ohonynt. Ceir darpariaethau arbennig yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 i ganiat谩u archwiliad gan unigolion penodol, mewn rhai sefyllfaoedd sy鈥檔 gysylltiedig ag achosion llys, ansolfedd ac ymchwiliadau rhwymedigaeth treth. Rydym yn gobeithio y byddwch yn deall pam y mae angen tystiolaeth hunaniaeth arnom. Er y gall y gofyniad hwn ymddangos yn faich, credwn ei fod yn hanfodol i helpu i frwydro yn erbyn lladrad hunaniaeth a thwyll. Mae ein gofynion yn debyg i鈥檙 gwiriadau hunaniaeth a wneir gan sefydliadau eraill, gan gynnwys banciau.
Rhybudd am dwyll
Os oes gofyniad i gadarnhau hunaniaeth neu i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth, ac rydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu鈥檔 gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu鈥檔 gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu鈥檙 risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni鈥檙 trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a鈥檙 uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu鈥檙 ddau.
Pryd ac ar gyfer pwy y bydd angen cadarnhad o hunaniaeth ar Gofrestrfa Tir EF
Mae angen cadarnhad o hunaniaeth arnom ar gyfer y mathau o drafodion a鈥檙 bobl a ddangosir yn y tabl canlynol, yn ogystal 芒鈥檙 unigolyn sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais, os yw鈥檔 wahanol. Gweler hefyd yr eithriadau a grybwyllir islaw鈥檙 tabl.
Gofynion cadarnhau hunaniaeth
Cais | Unigolion y mae cadarnhad o hunaniaeth yn ofynnol ar eu cyfer |
---|---|
Trosglwyddo tir neu drosglwyddo morgais (p鈥檜n ai yw am arian ai peidio). Mae hefyd yn cynnwys trosglwyddiadau i benodi neu ddiswyddo ymddiriedolwr a chydsyniadau gan gynrychiolwyr personol | Trosglwyddwr (gwerthwr), Trosglwyddai (prynwr), unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran y gwerthwr neu鈥檙 prynwr, unrhyw gynrychiolydd personol |
Prydles (p鈥檜n ai yw am arian ai peidio) | Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran y landlord neu鈥檙 tenant |
Ildio prydles gofrestredig: cais i gau鈥檙 teitl prydlesol (yn cynnwys ildio trwy drosglwyddiad a thrwy weithredu鈥檙 gyfraith) | Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran y landlord neu鈥檙 tenant |
Morgais (arwystl): o dir cofrestredig neu dir digofrestredig ar gofrestriad cyntaf gorfodol | Rhoddwr benthyg (arwystlai), Cymerwr benthyg (arwystlwr) unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg neu鈥檙 cymerwr benthyg |
Rhyddhau morgais ar bapur ar ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 | Rhoddwr benthyg |
Mae cofrestriad cyntaf gorfodol yn esbonio pryd bydd cais am gofrestriad cyntaf yn orfodol | Gwerthwr neu landlord, Prynwr neu denant, unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran yr uchod |
Cofrestriad cyntaf gwirfoddol ond dim ond lle collwyd y gweithredoedd ac nid yw鈥檙 ceisydd yn drawsgludwr neu鈥檔 gorff corfforaethol adnabyddus a gollodd y gweithredoedd eu hunain | Ceisydd am gofrestriad cyntaf fel perchennog y tir, unrhyw atwrnai ar gyfer y ceisydd |
Newid enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd | Yr unigolyn sy鈥檔 newid ei enw (yn ei enw newydd) |
Newid cyfeiriad | Yr unigolyn sy鈥檔 newid ei gyfeiriad |
Eithriadau
Ceir rhai eithriadau, a nodir yn llawn yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth. Y prif eithriadau sy鈥檔 effeithio ar geisiadau a anfonir gan rai nad ydynt yn drawsgludwyr lle nad oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom ar gyfer rhai neu bob parti yw:
- prydles neu arwystl sy鈥檔 cael ei nodi鈥檔 unig yn y gofrestr
- ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf oni bai bod y gweithredoedd teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio
Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth chwaith ar gyfer rhai part茂on sydd eisoes yn gorfod anfon tystiolaeth o鈥檜 penodiad atom. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr mewn methdaliad, datodwyr a dirprwyon Ddeddf Iechyd Meddwl (mae rhestr lawn ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth). Mae鈥檙 eithriad hwn yn berthnasol pan fyddant yn bart茂on i weithred, a phan fyddant yn anfon y cais o dan sylw atom eu hunain hefyd.
Sylwer er hynny bod cadarnhad o hunaniaeth yn ofynnol o hyd ar gyfer y buddiolwr o dan gydsyniad neu鈥檙 trosglwyddai o dan drosglwyddiad, a hefyd ar gyfer unrhyw unigolyn sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais (oni bai mai ef/hi yw鈥檙 ymddiriedolwr mewn methdaliad ac ati, fel y cyfeirir ato yn y paragraff uchod). Mae hyn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle y mae鈥檙 tir eisoes yn gofrestredig a hefyd lle gwneir cais am gofrestriad cyntaf gorfodol. Yn ychwanegol at yr uchod, nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom lle nad yw gwir werth y tir o dan sylw yn y gwarediad yn uwch na 拢6,000.
Llenwi ffurflen ID3
Pan fydd parti i drafodiad yn cynnwys mwy nag un person, rhaid i bob un ohonynt lenwi ffurflen ID ar wah芒n a chyflwyno tystiolaeth o鈥檜 hunaniaeth.
Mae鈥檙 enghreifftiau canlynol yn helpu i ddangos pryd y mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ac ar gyfer pwy (lle mae rhywun nad yw鈥檔 drawsgludwr yn un o鈥檙 proffesiynau awdurdodedig yn cadarnhau hunaniaeth).
- mae cymydog A yn gwerthu rhan o鈥檌 ardd gefn i Gymydog B. Nid oes un ohonynt yn defnyddio trawsgludwr ac mae鈥檙 ddau yn unigolion preifat. Mae Cymydog B wedyn yn cyflwyno鈥檙 cais i gofrestru.
Mae angen ffurflenni ID3 ar wah芒n arnom gan Gymydog A fel y trosglwyddwr a Chymydog B fel y trosglwyddai.
- Mae C yn morgeisio ei heiddo i D, sy鈥檔 gwneud cais i gofrestru鈥檙 morgais. Nid oes un ohonynt yn defnyddio trawsgludwr ac mae鈥檙 ddau yn unigolion preifat.
Mae angen ffurflenni ID3 ar wah芒n arnom gan C fel cymerwr benthyg a D fel rhoddwr benthyg.
- mae E ac F yn trosglwyddo eu heiddo trwy rodd i G. Mae H yn cyflwyno鈥檙 cais i gofrestru ar ran G. Mae pob un yn unigolion preifat.
Bydd angen ffurflenni ID3 ar wah芒n arnom ar gyfer E ac F fel cyd-drosglwyddwyr, G fel y trosglwyddai a H fel yr unigolyn sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais.
Pa rannau o鈥檙 ffurflen i鈥檞 llenwi
Rhaid ichi lenwi adran 1.
Rhaid i Adran 2 gael ei llenwi gan drawsgludwr neu Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig.
Cadarnhau hunaniaeth
Yn unol 芒鈥檙 cyfarwyddyd a wnaed gan y Prif Gofrestrydd Tir o dan adran 100(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 at ddiben cadarnhau hunaniaeth person, rhaid llenwi ffurflen ID3 bob amser pan fo鈥檙 hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan rywun sy鈥檔 gweithio yn un o鈥檙 proffesiynau awdurdodedig isod.
- Meddyg
- Deintydd
- Cyfrifydd siartredig neu ardystiedig
- Cynghorydd ariannol rheoledig
- Aelod Seneddol
- Aelod o鈥檙 Senedd
Roedd proffesiynau eraill wedi eu cynnwys yn flaenorol ar Ffurflen ID3. Gweler Cyfarwyddyd ymarfer 67 am ragor o wybodaeth.
Gofynion
Ni ddylai ffurflen ID3 fod yn h欧n na 3 mis oed pan gaiff ei chyflwyno gyda chais i gofrestru.
Rhaid bodloni pob un o鈥檙 amodau canlynol.
- Rhaid i鈥檙 person y mae ei hunaniaeth i鈥檞 chadarnhau a鈥檙 cadarnh盲wr feddu ar basbort llawn cyfredol dilys y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
- Rhaid eu bod wedi adnabod ei gilydd ers o leiaf blwyddyn.
- Rhaid iddynt beidio 芒 bod yn perthyn i鈥檞 gilydd mewn unrhyw ffordd.
- Rhaid iddynt beidio 芒 bod yn rhan o鈥檙 un trafodiad.
Yn ogystal:
-
Rhaid i鈥檙 ddau ohonynt ddarparu copi o dudalen manylion personol eu pasbort i Gofrestrfa Tir EF. Sylwer, lle mae鈥檙 cadarnh盲wr yn cadarnhau hunaniaeth mwy nag un person, rhaid iddo ddarparu nifer cyfatebol o gop茂au o鈥檜 tudalen manylion personol i鈥檙 nifer o bobl y mae wedi cadarnhau eu hunaniaeth. Nid yw un copi i bawb yn dderbyniol.
-
Lle bo modd, dylai鈥檙 cadarnh盲wr gynnwys ei rif cofrestru proffesiynol er mwyn galluogi i鈥檙 gwiriadau priodol gael eu gwneud
Gwybodaeth bellach
Gweler hefyd cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth a llenwi ffurflenni ID1 ac ID2 am wybodaeth bellach.
Cymorth pellach yn ofynnol
Os oes angen cymorth pellach arnoch oherwydd eich cyflwr neu amgylchiadau, cysylltwch 芒 ni.
Anfon eich ffurflenni
Anfonwch y ffurflen(ni) wedi ei llenwi i鈥檔 Canolfan Dinasyddion 鈥� gweler cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.
Updates to this page
-
Guidance amended as a result of amendments to form ID3 and the withdrawal of form ID4.
-
Following a review of our practice, a personal representative who assents or transfers land has been removed from the exception status and must now provide evidence of identity with any such application.
-
First published.