Osgoi ymholiadau gan Gofrestrfa Tir EM: cyfyngiadau yn y gofrestr
Awgrymiadau a fideo ar sut i osgoi ymholiadau am gyfyngiadau yn y gofrestr.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Awgrymiadau
Ni allwn gwblhau cofrestriad os nad yw鈥檙 dystiolaeth a gyflwynir gennych yn bodloni gofynion y cyfyngiad. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth bellach os bydd ei hangen arnom.
Er enghraifft, oes angen cydsyniad yn benodol ar gyfyngiad? Os oes, ni allwn weithredu ar dystysgrif trawsgludwr.
Os ydych yn cyflwyno cyfyngiadau yn y gofrestr, gwnewch yn siwr eich bod:
- yn defnyddio ffurf safonol o gyfyngiad bob tro lle bo hynny鈥檔 bosibl. Gweler Atodlen 4 o Reolau Cofrestru Tir 2003
- yn gwirio鈥檙 hyn sy鈥檔 ofynnol ac yn gwneud trefniadau mewn da bryd i gael y dystiolaeth honno, oherwydd gall sicrhau cydsyniad ar gyfer 鈥楥yfyngiad Cwmni Rheoli鈥� achosi oedi sylweddol
- yn meddwl yn ofalus, wrth ddrafftio gweithredoedd, a oes angen cyfyngiad mewn gwirionedd, ac os oes, sut y dylid ei eirio:
- a yw cydsyniad neu dystysgrif yn ofynnol?
- ar gyfer pa fathau o warediadau?
- pwy ddylai ddarparu鈥檙 cydsyniad neu鈥檙 dystysgrif honno?
- os oes ffurf safonol o gyfyngiad, a ydych yn gwneud cais am yr un cywir?
- yn dilyn y cyngor ar y ffurflenni
Enghraifft:
Gall cyfyngiad y cydberchnogion achosi problemau. Rydym yn cael nifer o geisiadau lle nad oes tystiolaeth ynghylch sut bydd cyd-denantiaid yn dal y tir. Gallwch osgoi hyn trwy ddilyn y cyngor ar y ffurflenni a chwblhau, er enghraifft, panel 10 o Ffurflen TR1 鈥� Trosglwyddiad o鈥檙 cyfan. Gallwch ddefnyddio Ffurflen JO hefyd.
- dylech gynnwys tystiolaeth nad oes unrhyw fuddion ymddiried eraill
Enghraifft:
Os bydd angen ichi dynnu cyfyngiad 鈥榗ydberchnogion鈥� i ffwrdd yn ddiweddarach, bydd angen cais ffurfiol i ddileu鈥檙 cyfyngiad, ynghyd 芒 thystiolaeth nad oes angen y cyfyngiad mwyach.
Gwyliwch y fideo
Gwybodaeth bellach
Darllenwch ragor o wybodaeth yn y canlynol: