Llenwi ffurflenni ID1 ac ID2
Canllaw ar lenwi ffurflenni ID1: Tystysgrif hunaniaeth ar gyfer unigolyn preifat, ac ID2: Tystysgrif hunaniaeth ar gyfer corff corfforedig.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Tystiolaeth hunaniaeth
Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer unrhyw barti (a鈥檙 sawl sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais os yw鈥檔 wahanol) sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Rhaid i鈥檙 dystiolaeth fod ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 a rhaid i bob person unigol sy鈥檔 barti i鈥檙 trafodion uchod sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol eu llenwi. Mae鈥檙 gofyniad hwn yn gymwys i unigolion preifat a chyrff corfforaethol fel cwmn茂au.
Mae鈥檙 ddwy ffurflen ar gael i鈥檞 llwytho i lawr yn rhad ac am ddim o鈥檔 gwefan neu trwy ffonio鈥檔 cymorth i gwsmeriaid. Rhaid i ddwy ran y ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 a gyflwynir i gefnogi cais gael eu dyddio a鈥檜 llofnodi dim mwy na thri mis cyn adeg y cyflwyno.
Nid yw ffurflenni ID1 ac ID2 wedi eu llenwi yn agored i鈥檙 cyhoedd eu harchwilio ac fel rheol ni all person wneud cais am gopi swyddogol ohonynt. Ceir darpariaethau arbennig yn Rheolau Cofrestru Tir 2003 i ganiat谩u archwiliad gan unigolion penodol, mewn rhai sefyllfaoedd sy鈥檔 gysylltiedig ag achosion llys, ansolfedd ac ymchwiliadau rhwymedigaeth treth. Rydym yn gobeithio y byddwch yn deall pam y mae angen tystiolaeth hunaniaeth arnom. Er y gall y gofyniad hwn ymddangos yn faich, credwn ei fod yn hanfodol i helpu i frwydro yn erbyn lladrad hunaniaeth a thwyll. Mae ein gofynion yn debyg i鈥檙 gwiriadau hunaniaeth a wneir gan sefydliadau eraill, gan gynnwys banciau.
Rhybudd am dwyll
Os oes gofyniad i gadarnhau hunaniaeth neu i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth, ac rydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu鈥檔 gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu鈥檔 gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu鈥檙 risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni鈥檙 trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a鈥檙 uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu鈥檙 ddau.
Pryd ac ar gyfer pwy y bydd angen cadarnhad o hunaniaeth ar Gofrestrfa Tir EF
Mae angen cadarnhad o hunaniaeth arnom ar gyfer y mathau o drafodion a鈥檙 bobl a ddangosir yn y tabl canlynol, yn ogystal 芒鈥檙 unigolyn sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais, os yw鈥檔 wahanol. Gweler hefyd yr eithriadau a grybwyllir islaw鈥檙 tabl.
Gofynion cadarnhau hunaniaeth
Cais | Unigolion y mae cadarnhad o hunaniaeth yn ofynnol ar eu cyfer |
---|---|
Trosglwyddo tir neu drosglwyddo morgais (p鈥檜n ai yw am arian ai peidio. Mae hefyd yn cynnwys trosglwyddiadau i benodi neu ddiswyddo ymddiriedolwr a chydsyniadau gan gynrychiolwyr personol | Trosglwyddwr (gwerthwr), Trosglwyddai (prynwr), unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran y gwerthwr neu鈥檙 prynwr, unrhyw gynrychiolydd personol |
Prydles (p鈥檜n ai yw am arian ai peidio) | Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran y landlord neu鈥檙 tenant |
Ildio prydles gofrestredig: cais i gau鈥檙 teitl prydlesol (yn cynnwys ildio trwy drosglwyddiad a thrwy weithredu鈥檙 gyfraith) | Landlord, Tenant, unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran y landlord neu鈥檙 tenant |
Morgais (arwystl): o dir cofrestredig neu dir digofrestredig ar gofrestriad cyntaf gorfodol | Rhoddwr benthyg (arwystlai), Cymerwr benthyg (arwystlwr) unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg neu鈥檙 cymerwr benthyg |
Rhyddhau morgais ar bapur ar ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 | Rhoddwr benthyg |
Mae cofrestriad cyntaf gorfodol yn esbonio pryd bydd cais am gofrestriad cyntaf yn orfodol | Gwerthwr neu landlord, Prynwr neu denant, unrhyw atwrnai sy鈥檔 gweithredu ar ran yr uchod |
Cofrestriad cyntaf gwirfoddol ond dim ond lle collwyd y gweithredoedd ac nid yw鈥檙 ceisydd yn drawsgludwr neu鈥檔 gorff corfforaethol adnabyddus a gollodd y gweithredoedd eu hunain | Ceisydd am gofrestriad cyntaf fel perchennog y tir, gan gynnwys lle mai cynrychiolydd personol yw鈥檙 ceisydd, unrhyw atwrnai ar gyfer y ceisydd |
Newid enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd | Yr unigolyn sy鈥檔 newid ei enw (yn ei enw newydd) |
Newid cyfeiriad | Yr unigolyn sy鈥檔 newid ei gyfeiriad |
Eithriadau
Ceir rhai eithriadau, a nodir yn llawn yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr. Y prif eithriadau sy鈥檔 effeithio ar geisiadau a anfonir gan rai nad ydynt yn drawsgludwyr lle nad oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom ar gyfer rhai neu bob parti yw:
- prydles neu arwystl sy鈥檔 cael ei nodi鈥檔 unig yn y gofrestr
- ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf oni bai bod y gweithredoedd teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio
Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth chwaith ar gyfer rhai part茂on sydd eisoes yn gorfod anfon tystiolaeth o鈥檜 penodiad atom. Mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr mewn methdaliad, datodwyr a dirprwyon Ddeddf Iechyd Meddwl (mae rhestr lawn ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwyr). Mae鈥檙 eithriad hwn yn berthnasol pan fyddant yn bart茂on i weithred, a phan fyddant yn anfon y cais o dan sylw atom eu hunain hefyd.
Sylwer er hynny bod cadarnhad o hunaniaeth yn ofynnol o hyd ar gyfer y buddiolwr o dan gydsyniad neu鈥檙 trosglwyddai o dan drosglwyddiad, a hefyd ar gyfer unrhyw unigolyn sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais (oni bai mai ef/hi yw鈥檙 ymddiriedolwr mewn methdaliad ac ati, fel y cyfeirir ato yn y paragraff uchod). Mae hyn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle y mae鈥檙 tir eisoes yn gofrestredig a hefyd lle gwneir cais am gofrestriad cyntaf gorfodol. Yn ychwanegol at yr uchod, nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom lle nad yw gwir werth y tir o dan sylw yn y gwarediad yn uwch na 拢6,000.
Llenwi ffurflenni ID1 ac ID2
Rhaid i unigolion preifat lenwi ffurflen ID1 a rhaid i gyrff corfforaethol lenwi ffurflen ID2.
Pan fydd parti i drafodiad yn cynnwys mwy nag un person, rhaid i bob un ohonynt lenwi ffurflen ID ar wah芒n a chyflwyno tystiolaeth o鈥檜 hunaniaeth.
Mae鈥檙 enghreifftiau canlynol yn helpu i ddangos pryd y mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ac ar gyfer pwy.
- mae cymydog A yn gwerthu rhan o鈥檌 ardd gefn i Gymydog B. Nid oes un ohonynt yn defnyddio trawsgludwr ac mae鈥檙 ddau yn unigolion preifat. Mae Cymydog B wedyn yn cyflwyno鈥檙 cais i gofrestru.
Mae angen ffurflenni ID1 ar wah芒n arnom gan Gymydog A fel y trosglwyddwr a Chymydog B fel y trosglwyddai.
- Mae C yn morgeisio ei heiddo i D, sy鈥檔 gwneud cais i gofrestru鈥檙 morgais. Nid oes un ohonynt yn defnyddio trawsgludwr ac mae鈥檙 ddau yn unigolion preifat.
Mae angen ffurflenni ID1 ar wah芒n arnom gan C fel cymerwr benthyg a D fel rhoddwr benthyg.
- mae E ac F yn trosglwyddo eu heiddo trwy rodd i G. Mae H yn cyflwyno鈥檙 cais i gofrestru ar ran G. Mae pob un yn unigolion preifat.
Bydd angen ffurflenni ID1 ar wah芒n arnom ar gyfer E ac F fel cyd-drosglwyddwyr, G fel y trosglwyddai a H fel yr unigolyn sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais.
- mae J, cwmni, yn rhyddhau morgais ac yn rhoi DS1 ar bapur i K, unigolyn preifat. Mae K yn cyflwyno鈥檙 rhyddhau ar gyfer cofrestru.
Bydd angen ffurflen ID2 ar gyfer J arnom a ffurflen ID1 ar gyfer K.
- mae L yn gwerthu ei d欧 i M ond yn penodi atwrnai N i gyflawni鈥檙 trosglwyddiad. Mae M yn cyflwyno鈥檙 cais i gofrestru. Unigolion preifat yw L, M ac N.
Bydd angen ffurflenni ID1 ar wah芒n arnom ar gyfer L, M ac N.
Pa rannau o鈥檙 ffurflen i鈥檞 llenwi
Rhaid ichi lenwi adran A.
Rhaid i Adran B gael ei llenwi gan drawsgludwr, Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig neu Ymarferydd Profiant Trwyddedig (a reoleiddir gan Gyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig).
Cadarnhau hunaniaeth
Gallwch gael eich hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan:
- drawsgludwr
- Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig
- Ymarferydd Profiant Trwyddedig (a reoleiddir gan Gyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig)
- pobl sy鈥檔 gweithio mewn proffesiwn penodol.
Efallai bydd trawsgludwyr, Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol Siartredig neu Ymarferyddion Profiant yn codi t芒l am y gwasanaeth hwn. Gweler adran 9 o gyfarwyddyd ymarfer 67 am restr lawn o broffesiynau a dderbynnir a鈥檙 ffurflenni sy鈥檔 ofynnol ar gyfer cadarnhau gan berson nad yw鈥檔 drawsgludwr.
Bydd angen ichi gymryd y dystiolaeth hunaniaeth a grybwyllir yn adran B3 ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 gyda chi, ynghyd 芒 llun pasbort a dynnwyd yn ystod y tri mis diwethaf (bydd angen dau gopi o鈥檙 llun arnoch os ydych yn mynd i drawsgludwr, oherwydd bydd angen copi ar gyfer eu cofnodion). Rhaid i鈥檙 llun gael ei argraffu ar bapur ffotograffig a rhaid bod eich wyneb i鈥檞 weld yn glir. Gall ffurflenni hunaniaeth gael eu gwrthod os nad yw hyn yn wir.
Os yw trawsgludwr yn cadarnhau eich hunaniaeth ac yna rydych yn cyflwyno鈥檆h cais trwy鈥檙 post, gallwn wneud gwiriadau ychwanegol i fodloni ein hunain bod popeth mewn trefn.
Er mwyn dod o fewn diffiniad trawsgludwr yn rheol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003 rhaid i unigolyn gael ei awdurdodi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 i ddarparu gwasanaethau trawsgludo; i bob pwrpas rhaid iddynt gael tystysgrif ymarfer. Os gwneir y cadarnhau gan unigolyn sydd wedi nodi鈥檔 glir ar y ffurflen ID ei fod wedi ymddeol neu nad yw鈥檔 ymarfer, mae鈥檔 debygol y caiff ymholiad ei godi. Ni all paragyfreithwyr gadarnhau hunaniaeth chwaith gan nad ydynt yn dod o fewn diffiniad rheol 217A o drawsgludwr. Nid yw pob Swyddog Gweithredol Cyfreithiol Siartredig ac Ymarferydd Profiant Trwyddedig yn drawsgludwr, ond mae Cofrestrfa Tir EF wedi cytuno y gall y rhain gadarnhau hunaniaeth at ddibenion cofrestru tir.
Cadarnhau hunaniaeth pobl sy鈥檔 byw dramor
Pan fo person yn preswylio dramor ac nid yw鈥檔 bosibl i鈥檞 hunaniaeth gael ei chadarnhau gan drawsgludwr y DU, dylai adran B ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 gael ei llenwi a鈥檌 llofnodi gan gyfreithiwr neu notari cyhoeddus sy鈥檔 gymwys i ymarfer yn y wlad y mae鈥檙 unigolyn yn byw ynddi. Dylai鈥檙 ffurflen gael ei diwygio i gynnwys cadarnhad o鈥檙 wlad y mae鈥檙 cyfreithiwr neu鈥檙 notari cyhoeddus yn gymwys i ymarfer ynddi, cadarnhad eu bod yn gymwys i ymarfer ac enw a chyfeiriad y corff gyda鈥檙 hwn y maent yn gofrestredig i ymarfer.
Bydd ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 yn ofynnol bob amser. Ni ellir defnyddio鈥檙 opsiwn yn ffurflenni AP1, FR1 a DS2 y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth rhywun.
Cadarnhau hunaniaeth gan swyddog sy鈥檔 gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU sy鈥檔 gweithredu dramor
Pan fydd aelod o luoedd arfog y DU yn gwasanaethu dramor, gall gael ei hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan swyddog sydd hefyd yn gwasanaethu dramor gydag ef. Yn y sefyllfa hon, rhaid i鈥檙 cadarnh盲wr ddarparu ei rif pasbort.
Gofynion hunaniaeth lle mae dau neu ragor o geisiadau yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd
Os ydych yn bwriadu cyflwyno dau neu ragor o geisiadau ar yr un pryd, ac yn yr un swyddfa, a鈥檙 un bobl yw鈥檙 part茂on gyfer y ceisiadau hynny (sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol), dim ond un set o dystiolaeth hunaniaeth ar gyfer pob un o鈥檙 part茂on hynny ar gyfer yr holl geisiadau y mae鈥檔 rhaid ei darparu.
Os bydd y part茂on yn y ceisiadau (sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol) yn wahanol, bydd tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer pob parti ar wah芒n.
Eiddo lle nad yw鈥檙 gwir werth dros 6,000
Nid oes yn rhaid ichi gadarnhau hunaniaeth y rheiny sy鈥檔 ymwneud 芒 thrafodion lle nad yw gwir werth y tir sy鈥檔 destun y gwarediad dros 拢6,000. Yn yr achosion hyn gallwch yn lle hynny gyflwyno tystysgrif gan rywun sy鈥檔 gymwys i roi prisiadau eiddo yn cadarnhau gwerth y tir, er enghraifft gwerthwr tai, arolygwr tir, prisiwr tir ac eiddo neu arwerthwr sy鈥檔 dal cymhwyster gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig neu ryw berson arall sydd 芒 chymhwyster tebyg.
Gallwch ddarparu tystiolaeth hunaniaeth o hyd os yw鈥檔 well gennych, ac rydym hefyd yn cadw鈥檙 hawl i fynnu tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID2, mewn unrhyw achos penodol.
Trefniadau llythyr cyfleuster
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cyhoeddi 鈥榣lythyrau cyfleuster鈥� ar gyfer nifer gyfyngedig o bobl sy鈥檔 ymwneud yn rheolaidd 芒 Chofrestrfa Tir EF. Mae鈥檙 rhain yn eithrio鈥檙 unigolion hyn o鈥檔 gofynion hunaniaeth arferol. Rhaid amg谩u copi o鈥檙 llythyr cyfleuster gydag unrhyw gais lle mae angen cadarnhad o hunaniaeth fel arfer, yn lle ffurflen ID1 neu ffurflen ID2.
Dim ond lle nad yw gwerth yr eiddo鈥檔 uwch na 拢100,000 y gellir defnyddio llythyr cyfleuster.
Ar hyn o bryd, mae Cofrestrfa Tir EF yn derbyn ceisiadau am lythyrau cyfleuster a fydd yn ddilys am gyfnod o 12 mis. Os caiff llythyr cyfleuster ei adnewyddu ar 么l y 12 mis, bydd cyflwyno ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 pellach yn ofynnol.
Cymorth pellach yn ofynnol
Os oes angen cymorth pellach arnoch oherwydd eich cyflwr neu amgylchiadau, cysylltwch 芒 ni.
Anfon eich ffurflenni
Anfonwch y ffurflen(ni) wedi ei llenwi i鈥檔 Canolfan Dinasyddion 鈥� gweler cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.
Updates to this page
-
Guidance amended as a result of amendments to form ID3 and the withdrawal of form ID4.
-
The guidance has been amended as CLC-regulated licensed probate practitioners can now verify identity on forms ID1 and ID2.
-
Following a review of our practice, a personal representative who assents or transfers land has been removed from the exception status and must now provide evidence of identity with any such application.
-
Amended to reflect our current identity policy which is contained in practice guide 67.
-
Updated to reflect our current identity policy.
-
The guidance has been amended as we will currently accept forms ID1 and ID2 dated up to 6 months before lodgement.
-
We've added a link to practice guide 67a: temporary changes to HM Land Registry鈥檚 evidence of identity requirements. The guide provides information on how to verify your identity for land registration purposes during the coronavirus (COVID-19) outbreak. We've also updated the 'Facility letter arrangements' section to advise we're not accepting applications for new facility letters until further notice.
-
CILEx Conveyancing Practitioners, Chartered Legal Executive Conveyancing Practitioners, Chartered Legal Executives and officers of the UK armed forces for members of the UK armed forces serving overseas can now also verify identity.
-
First published.