Amdanom ni
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant. Fel yr adran wasanaeth cyhoeddus mwyaf y DU mae鈥檔 gweinyddu Pensiwn y Wladwriaeth ac ystod o fudd-daliadau oedran gweithio, anabledd a salwch i tua 20 miliwn o hawlwyr a chwsmeriaid.
Nod DWP yw gwella bywydau bob dydd pobl a鈥檜 helpu i adeiladu gwytnwch ariannol a dyfodol mwy diogel a llewyrchus.
Cyfrifoldebau
Rydym yn gyfrifol am:
-
helpu pobl i symud i mewn i waith a chefnogi鈥檙 rhai sydd eisoes mewn gwaith i symud ymlaen, gyda鈥檙 nod o gynyddu cyfranogiad cyffredinol y gweithlu
-
helpu pobl i gynllunio a chynilo ar gyfer bywyd diweddarach, tra鈥檔 darparu rhwyd ddiogelwch i鈥檙 rhai sydd ei hangen nawr
-
darparu gwasanaethau effeithiol, effeithlon ac arloesol i鈥檙 miliynau o hawlwyr sy鈥檔 dibynnu arnom bob dydd, gan gynnwys y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas
-
gwella profiad ein gwasanaethau tra鈥檔 sicrhau鈥檙 gwerth mwyaf am arian i鈥檙 trethdalwr
Blaenoriaethau
Ein blaenoriaethau ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2025 yw:
-
gwneud y mwyaf o gyflogaeth, lleihau anweithgarwch economaidd a chefnogi datblygiad y rhai sydd mewn gwaith
-
darparu cymorth ariannol i bobl sydd 芒 hawl i鈥檞 gael
-
galluogi pobl anabl a phobl 芒 chyflyrau iechyd i ddechrau, aros a llwyddo mewn gwaith, a chael cymorth ariannol
-
cefnogi gwydnwch ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd
Darllenwch Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau 2022 i 2023 i gael gwybod mwy am sut rydym yn cyflawni yn erbyn ein hamcanion.
Pwy ydym ni
Rydym yn darparu ein gwasanaethau mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith, y Gwasanaeth Pensiwn, y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a sefydliadau partner.
Darllenwch am ein safonau gwasanaeth yn ein siarter cwsmeriaid.
Budd-daliadau gofalwyr ac anabledd
Rydym yn delio 芒 budd-daliadau gofalwyr ac anabledd gan gynnwys:
Y Ganolfan Byd Gwaith
Mae鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith yn helpu pobl i symud o fudd-daliadau i mewn i waith ac yn helpu cyflogwyr i hysbysebu swyddi. Mae hefyd yn delio 芒 budd-daliadau ar gyfer pobl sy鈥檔 ddi-waith neu鈥檔 methu 芒 gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd.
Cysylltu 芒鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith
Y Gwasanaeth Pensiwn
Mae鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn yn darparu gwybodaeth am bensiynau, budd-daliadau ac ymddeoliad i bensiynwyr presennol a rhai鈥檙 dyfodol yn y DU a thramor. Mae hyn yn cynnwys:
Cysylltu 芒鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn
Asiantaeth Cynnal Plant a鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Mae cynhaliaeth plant yn gymorth ariannol sy鈥檔 helpu tuag at gostau byw bob dydd plentyn pan fydd y rhieni wedi gwahanu. Ar gyfer pobl na allant wneud eu trefniadau teuluol eu hunain, mae鈥檙 Asiantaeth Cynnal Plant a鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn:
-
cyfrifo faint o gynhaliaeth y dylai鈥檙 rhiant sy鈥檔 talu ei dalu i鈥檙 rhiant sy鈥檔 derbyn
-
casglu鈥檙 taliadau cynhaliaeth, os oes angen
Cyrff hyd braich
Mae ein cyrff hyd braich yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu ein gwasanaethau. Mae鈥檙 cyrff yn cefnogi ein hamcanion i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i drethdalwyr, ac i ddarparu gwasanaethau gwell ac effeithlon, trwy reoleiddio, arweiniad, amddiffyn defnyddwyr, trin cwynion, ymchwil ac ymchwilio.
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Modern slavery statement
- Ein defnydd o ynni
- Ein llywodraethiant
- Gweithdrefn gwyno
- Polisi dogfennau hygyrch
- Ymchwil yn DWP
- Ymholiadau gan y cyfryngau
- Ystadegau yn DWP
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin 芒'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.