Taliad Tywydd Oer
Trosolwg
Efallai byddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu Gymorth ar gyfer Llog Morgais.
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y taliadau hyn yn awtomatig. Nid oes angen i chi wneud cais, ond efallai bydd angen i chi roi gwybod i鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn cael babi neu mae plentyn o dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi.
Nid yw鈥檙 taliadau yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.
Byddwch yn cael taliad os yw鈥檙 tymheredd yn eich ardal chi, ar gyfartaledd, wedi鈥檌 gofnodi fel, neu y rhagwelir i fod, yn sero gradd celsius neu鈥檔 llai am 7 diwrnod yn olynol.
Byddwch yn cael taliad o 拢25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2024 a 31 Mawrth 2025.
Darganfyddwch a yw鈥檙 tywydd lle rydych chi鈥檔 byw yn golygu y gallech gael taliad.
.
.
Mae Taliadau Tywydd Oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf.
Os ydych yn byw yn Yr Alban
Ni allwch gael Taliad Tywydd Oer.
Efallai byddwch yn cael blynyddol yn lle. Byddwch yn cael y taliad ni waeth beth yw鈥檙 tywydd yn eich ardal.