Faint rydych yn ei dalu

Mae swm yr Yswiriant Gwladol yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill.

Gallwch fwrw golwg dros gyfraddau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn gyflogedig

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Y cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:

Eich cyflog O 6 Ebrill 2024 hyd at 5 Ebrill 2025
拢242 i 拢967 yr wythnos (拢1,048 i 拢4,189 y mis) 8%
Dros 拢967 yr wythnos (拢4,189 y mis) 2%

Byddwch yn talu llai os yw鈥檙 canlynol yn wir:

Mae cyflogwyr yn talu cyfradd wahanol o Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar lythrennau categori (yn agor tudalen Saesneg) eu cyflogeion.

Sut i dalu

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol gyda鈥檆h treth. Bydd eich cyflogwr yn ei ddidynnu o鈥檆h cyflog cyn i chi gael eich talu. Bydd eich slip cyflog yn dangos eich cyfraniadau.

Os ydych yn gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg), efallai y byddwch hefyd yn gyflogai i chi鈥檆h hun, ac felly yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy鈥檆h cyflogres TWE.

Os ydych yn hunangyflogedig

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (yn agor tudalen Saesneg), yn dibynnu ar eich elw. Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn gwneud y taliadau hyn drwy Hunanasesiad.

Os yw鈥檆h elw yn 拢6,725 neu鈥檔 fwy, caiff eich cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi鈥檜 talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae鈥檔 bosibl y gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych elw sy鈥檔 llai na 拢6,725 y flwyddyn yn sgil eich hunangyflogaeth
  • mae gennych swydd benodol (megis arholwr neu berchennog busnes sy鈥檔 ymwneud ag eiddo neu dir) ac nid ydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy Hunanasesiad

Os oes gennych fylchau ac os nad ydych yn talu cyfraniadau gwirfoddol, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau y gallwch eu cael, megis Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oes gennych swydd benodol ac os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy Hunanasesiad, bydd angen i chi gysylltu 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF) i drefnu taliad gwirfoddol.

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig

Mae鈥檔 bosibl eich bod yn gyflogai ond eich bod hefyd yn gwneud gwaith hunangyflogedig. Yn yr achos hwn, bydd eich cyflogwr yn didynnu鈥檆h Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 oddi wrth eich cyflog, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig.

Bydd faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich cyflog cyfunol a鈥檆h gwaith hunangyflogedig.聽Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi faint o Yswiriant Gwladol sy鈥檔 ddyledus ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cyfarwyddwyr, landlordiaid a physgotwyr cyfran

Mae rheolau gwahanol ar gyfer Yswiriant Gwladol os ydych yn un o鈥檙 canlynol:

Gallwch wneud cais i CThEF i wirio鈥檆h cofnod Yswiriant Gwladol a hawlio ad-daliad os ydych o鈥檙 farn eich bod wedi gordalu.