Yswiriant Gwladol: rhagarweiniad
Dosbarthiadau Yswiriant Gwladol
Mae鈥檙 dosbarth yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill. Gweler y cyfraddau presennol ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1, 2 a 4.
Os ydych yn gyflogedig
Bydd eich cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Dosbarth 1 o鈥檆h t芒l yn awtomatig os yw鈥檙 ddau beth canlynol yn berthnasol:
- rydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn ennill mwy na 拢242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
Caiff cyfraniadau Dosbarth 1A a Dosbarth 1B eu talu gan gyflogwyr ar dreuliau neu fuddiannau eu cyflogeion yn unig.
Os ydych yn ennill llai na 拢242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
Os ydych yn ennill rhwng 拢123 a 拢242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, ni fyddwch fel arfer yn talu Yswiriant Gwladol, ond efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn ennill llai na 拢123 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn hunangyflogedig
Mae鈥檙 dosbarth rydych yn ei dalu鈥檔 dibynnu ar eich elw.
Os yw鈥檆h elw yn 拢6,725 neu鈥檔 fwy y flwyddyn
Caiff cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi鈥檜 talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2.
Os yw鈥檆h elw yn fwy na 拢12,570 y flwyddyn, mae鈥檔 rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4.
Os yw鈥檆h elw yn llai na 拢6,725 y flwyddyn
Nid oes angen i chi dalu unrhyw beth, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn gweithio
Gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).