Yswiriant Gwladol: rhagarweiniad
Eich rhif Yswiriant Gwladol
Mae gennych rif Yswiriant Gwladol er mwyn sicrhau bod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol a鈥檆h treth yn cael eu cofnodi yn erbyn eich enw chi鈥檔 unig.
Ni fydd eich rhif Yswiriant Gwladol yn newid ar unrhyw adeg. Mae鈥檔 cynnwys 2 lythyren, 6 rhif a llythyren i orffen.
Er enghraifft, QQ123456B
Fel arfer, byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau eich rhif Yswiriant Gwladol yn fuan cyn eich pen-blwydd yn 16 mlwydd oed. Caiff hwn ei anfon i鈥檙 cyfeiriad sydd gan CThEF ar eich cyfer.
Os oes angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch
Bydd eich rhif Yswiriant Gwladol ar ddogfennau sy鈥檔 ymwneud 芒 threth, megis eich clip cyflog neu鈥檆h P60. Gallwch hefyd ei gael ar ffurf llythyr a dod o hyd i鈥檆h rhif Yswiriant Gwladol ar-lein.
Os nad ydych erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol
骋补濒濒飞肠丑听wneud cais am rif Yswiriant Gwladol聽os nad ydych wedi cael un o鈥檙 blaen.
Cadw eich rhif Yswiriant Gwladol yn ddiogel
Er mwyn atal twyll hunaniaeth, peidiwch 芒 rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol gydag unrhyw un nad oes ei angen arno.
Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i鈥檙 sefydliadau hyn wybod beth yw鈥檆h rhif:
- Cyllid a Thollau EF (CThEF)
- eich cyflogwr
- yr Adran Gwaith a Phensiynau (sy鈥檔 cynnwys y Ganolfan Byd Gwaith a鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr), os ydych yn hawlio budd-daliadau鈥檙 wladwriaeth, neu鈥檙 Adran Datblygu Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon
- eich cyngor lleol, os ydych yn hawlio Budd-dal Tai, neu Weithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon
- Swyddogion Cofrestru Etholiadol (er mwyn gwirio pwy ydych pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio)
- y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os ydych yn gwneud cais am fenthyciad myfyriwr
- eich darparwr pensiwn os oes gennych bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid
- darparwr eich Cyfrif Cynilo Unigol (ISA), os ydych yn agor ISA
- darparwyr gwasanaethau ariannol awdurdodedig sy鈥檔 eich helpu i brynu a gwerthu buddsoddiadau, megis cyfranddaliadau, bondiau, a deilliadau. Gallwch
- Cyn-filwyr y DU