Gorfodi dyfarniad

Gallwch ofyn i’r llys gasglu taliad gan yr unigolyn neu’r busnes y mae arnynt arian i chi (y ‘dyledwr�) os nad ydynt yn eich talu ar ôl iddynt gael y gorchymyn llys.

Mae’n rhaid i chi dalu ffi llys pan fyddwch yn gofyn i’r llys gasglu’r taliad.

Canfod faint all y dyledwr fforddio talu

Gofynnwch i’r llys orchymyn bod y dyledwr yn mynychu’r llys i ddarparu tystiolaeth o’i incwm neu wariant, er enghraifft biliau a chyfriflenni.

Os mai busnes yw’r dyledwr, yna gallwch ofyn i swyddog o’r cwmni fynychu’r llys a darparu manylion am ei gyfrifon.

Yna gallwch benderfynu os hoffech i’r llys gymryd camau pellach i gasglu’ch taliad.

Ni allwch orfodi dyfarniad os dywedir wrthych bod gan yr unigolyn y mae arnynt arian i chi gytundeb ‘Lle i Anadlu� a’u bod wedi’u gwarchod am y tro rhag eu credydwyr. Darllenwch fwy am eich cyfrifoldebau a beth sydd angen i chi ddweud wrth y llys yn ystod cytundeb ‘Lle i Anadlu�.

Anfon beilïaid i gasglu taliad

Gallwch ofyn i’r llys anfon beilïaid i gasglu’r arian. Gelwir hyn yn �gwarant reolaeth�.

Bydd y beili yn gofyn am daliad o fewn 7 diwrnod. Os na fydd y ddyled yn cael ei thalu, bydd y beili yn ymweld â chartref neu fusnes y dyledwr i weld a ellir gwerthu rhywbeth i dalu’r ddyled.

Gallwch wneud cais i naill ai lys sirol neu’r Uchel Lys os yw rhwng £600 a £5,000 yn ddyledus i chi.

Efallai y byddwch angen cyngor cyfreithiol os byddwch yn gwneud cais i’r Uchel Lys.

Bydd sut y dylech wneud cais i’r llys yn dibynnu ar sut y gwnaethoch eich hawliad.

Os gwnaethoch hawliad ar-lein

Os yw eich cyfeirnod yn cynnwys y llythrennau ‘MC�, lawrlwythwch a llenwch naill ai:

  • ffurflen N323 - i wneud cais mewn llys sirol (mae’n rhaid bod £5,000 neu lai yn ddyledus i chi)
  • ffurflen N293A - i wneud cais i’r Uchel Lys (mae’n rhaid bod o leiaf £600 yn ddyledus i chi)

Fel arall, gallwch orfodi dyfarniad drwy ddefnyddio’r .

Os gwnaethoch ddefnyddio ffurflen hawlio bapur

Lawrlwythwch a llenwch naill ai:

  • ffurflen N323 - i wneud cais mewn llys sirol (mae’n rhaid bod £5,000 neu lai yn ddyledus i chi)
  • ffurflen N293A - i wneud cais i’r Uchel Lys (mae’n rhaid bod o leiaf £600 yn ddyledus i chi)

Didynnu arian o gyflog

Gallwch ofyn i’r llys dynnu arian o gyflog y dyledwr i dalu’r ddyled. Gelwir hyn yn �atafaelu enillion�.

Bydd y llys yn gwneud hyn drwy anfon gorchymyn i gyflogwr y dyledwr.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn atafaelu enillion - ffurflen N337.

Rhewi asedau neu arian mewn cyfrif

Gallwch ofyn i’r llys rewi arian sydd yng nghyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu’r dyledwr neu gyfrif busnes. Gelwir hyn yn �gorchymyn dyled trydydd parti�.

Bydd y llys yn penderfynu a ellir defnyddio arian sydd yn y cyfrif i dalu’r ddyled.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn dyled trydydd parti - ffurflen N349.

Arwystlo tir neu eiddo’r dyledwr

Gallwch ofyn i’r llys arwystlo tir neu eiddo’r dyledwr. Gelwir hyn yn �gorchymyn arwystlo�.

Os bydd y tir neu’r eiddo yn cael ei werthu, yna bydd rhaid i’r dyledwr dalu’r arwystl hwn yn gyntaf cyn iddynt gael eu harian.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn arwystlo - ffurflen N379.