Gwneud hawliad i’r llys am arian

Printable version

1. Beth yw hawliad llys

Gallwch wneud cais i lys sirol i hawlio arian sy’n ddyledus i chi gan unigolyn neu fusnes.

Gelwir hyn yn ‘gwneud hawliad llys�. Yn y gorffennol roedd yn cael ei alw’n aml yn ‘mynd â rhywun i’r llys hawliadau bychain�. Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post.

²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

³Ò²¹±ô±ô²¹¾±Ìýcyfryngu fod yn broses gyflymach a rhatach na mynd i’r llys. Cyfryngu yw pan fydd unigolyn diduedd yn helpu’r ddwy ochr i ddod i gytundeb.

Mae yna broses wahanol ar gyfer Ìý²¹Ìý.

2. Ffioedd llys

Mae’n rhaid i chi dalu ffi llys pan fyddwch yn gwneud eich hawliad.

Os ydych yn gwybod swm yr hawliad

Mae ffi’r llys wedi’i seilio ar y swm rydych yn ei hawlio, ynghyd â llog.

Swm yr hawliad Ffi
Hyd at £300 £35
£300.01 i £500 £50
£500.01 i £1,000 £70
£1,000.01 i £1,500 £80
£1,500.01 i £3,000 £115
£3,000.01 i £5,000 £205
£5,000.01 i £10,000 £455
£10,000.01 i £200,000 5% o’r hawliad
Mwy na £200,000 £10,000

I gyfrifo 5% o werth yr hawliad, lluoswch y swm rydych yn ei hawlio gyda 0.05. Os oes angen, talgrynnwch y cyfanswm i’r 1c agosaf.

Bydd y ffi yn cael ei chyfrifo i chi os byddwch yn gwneud eich hawliad ar-lein.

Os nad ydych yn gwybod swm yr hawliad

Defnyddiwch y ffurflen hawlio bapur os nad ydych yn gwybod yr union swm - ni allwch wneud hawliad ar-lein.

Bydd angen i chi amcangyfrif y swm rydych yn ei hawlio a thalu’r ffi ar gyfer y swm hwnnw.

Er enghraifft, os ydych chi’n amcangyfrif eich bod yn hawlio rhwng £3,000.01 a £5,000, byddai rhaid i chi dalu £205.

Os byddwch yn gadael y blwch ‘swm a hawlir� yn wag, yna bydd y ffi yn £10,000.

Help i dalu’r ffi

Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd os ydych ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau penodol. Darllenwch fwy am pwy all wneud cais am help i dalu ffioedd.

Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein neu drwy’r post

Gwneud cais am help ar-lein

Gwnewch gais am help i dalu ffioedd ar-lein cyn i chi wneud hawliad llys. Fe gewch gyfeirnod ‘help i dalu ffioedd� - byddwch ei angen pan fyddwch yn gwneud eich hawliad i’r llys.

Gwneud cais am help drwy’r post

Os byddwch yn gwneud cais am help i dalu ffioedd drwy’r post, yna bydd angen i chi wneud eich hawliad llys drwy’r post hefyd. Gwnewch y ddau gais ar yr un pryd.

  1. Llenwch ffurflen EX160 i gael help i dalu ffioedd.

  2. Llenwch ffurflen N1 i wneud hawliad i’r llys am arian.

  3. Dychwelwch y ddwy ffurflen i’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol.

Canolfan Busnes Sifil Cenedlaethol
St Katharine’s House
21-27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH

Talu ffi’r llys

Talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd os ydych yn gwneud hawliad ar-lein.

Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen gais bapur, talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd drwy anfon llythyr gyda’ch ffurflen yn gofyn am gael talu â cherdyn. Dylech gynnwys eich rhif ffôn ac amser cyfleus i’r llys eich ffonio i gymryd y taliad.

Gallwch hefyd dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF�) os byddwch yn defnyddio’r ffurflen hawlio bapur.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu rhagor o ffioedd yn ddiweddarach - er enghraifft, os oes gwrandawiad llys neu os ydych yn gwneud cais i ddyfarniad gael ei orfodi.

Efallai y gallwch hawlio’r ffioedd yn ôl os byddwch yn ennill yr achos.

3. Hawlio’r llog

Gallwch hawlio llog ar yr arian sy’n ddyledus i chi.

Fe gyfrifir y llog ar eich rhan os byddwch yn hawlio swm amhenodol.

Os yw eich hawliad am swm penodol o arian, yna bydd angen i chi gyfrifo swm y llog eich hun.

Cyfrifo’r llog

Os oes arian yn ddyledus i chi gan fusnes arall yna gallwch hawlio llog ar daliad masnachol hwyr.

Ar gyfer mathau eraill o ddyled, y gyfradd fel arfer yw 8%.

I gyfrifo hyn, dilynwch y camau isod.

  1. Cyfrifwch y llog blynyddol: cymerwch y swm rydych yn ei hawlio a’i luosi gyda 0.08 (sy’n 8%).

  2. Cyfrifwch y llog dyddiol: rhannwch eich llog blynyddol o gam 1 gyda 365 (y nifer o ddyddiau mewn blwyddyn).

  3. Cyfrifwch gyfanswm y llog: lluoswch y llog dyddiol o gam 2 gyda’r nifer o ddyddiau y mae’r ddyled wedi bod yn ddyledus.

Enghraifft

Roedd £1,000 yn ddyledus i chi:

  • y llog blynyddol fyddai £80 (1000 x 0.08 = 80)
  • dylech rannu £80 gyda 365 i gael y gyfradd ddyddiol: tua 22c y dydd (80 / 365 = 0.22)
  • ar ôl 50 diwrnod byddai’r swm yn £11 (50 x 0.22 = 11)

4. Gwneud hawliad

Gallwch wneud eich hawliad ar-lein, oni bai:

  • nid ydych yn gwybod faint o arian rydych eisiau ei hawlio
  • mae eich hawliad am fwy na £25,000 ac rydych eisiau help i dalu ffi’r llys

Os na allwch wneud hawliad ar-lein, gwnewch hawliad drwy’r post.

Ni allwch wneud hawliad os dywedir wrthych bod rhywun wedi’i amddiffyn dros dro rhag credydwyr drwy’r cynllun ‘Lle i Anadlu�. Darllenwch fwy am beth i’w wneud pan fydd rhywun yn defnyddio’r cynllun ‘Lle i Anadlu�.

Efallai y bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol os yw eich hawliad yn un cymhleth.

Gwneud hawliad ar-lein

Fe ofynnir i chi am enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost yr unigolyn rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn.

Byddwch hefyd angen naill ai:

Os ydych dal angen gwneud cais am help i dalu ffioedd, gallwch wneud hyn tra byddwch yn gwneud eich hawliad am arian ar-lein.

Os ydych angen cymorth i wneud cais ar-lein

Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o gymorth rydych ei angen.

Os ydych yn cael problemau technegol neu os ydych angen cyfarwyddyd ar sut i wneud hawliad

Bydd y manylion cyswllt perthnasol yn dibynnu ar faint o arian rydych yn ei hawlio.

Os ydych angen cymorth i hawlio £25,000 neu lai, cysylltwch â’r Gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil.

Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Os ydych angen cymorth i hawlio mwy na £25,000, cysylltwch â’r Gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein.

Gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein
[email protected]
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we

We Are Group
[email protected]
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gostau galwadau

Gwneud hawliad drwy’r post

I wneud hawliad drwy’r post, lawrlwythwch a llenwch ffurflen hawlio bapur N1.

²Ñ²¹±ð’r ffurflen hawlio bapur N1 hefyd ar gael yn Saesneg.

Anfonwch y ffurflen bapur i’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol gyda siec neu archeb bost ar gyfer eich ffi llys. Os ydych yn gwneud cais am help i dalu ffioedd anfonwch y ffurflen bapur gyda naill ai:

  • y cyfeirnod ‘help i dalu ffioeddâ€� y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn gwneud cais am help ar-lein
  • eich ffurflen gais ‘help i dalu ffioeddâ€� wedi’i llenwi, os ydych yn gwneud cais am help drwy’r post

Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol/Civil National Business Centre
St Katharine’s House
21 - 27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH

Help i wneud cais drwy’r post

Cysylltwch â’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol os ydych angen help i wneud hawliad drwy’r post. Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, gallwch ofyn am addasiad rhesymol.

Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Saesneg: 0300 123 1356
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Gallwch hefyd wneud cais am addasiad rhesymol os byddwch yn gwneud cais drwy’r post drwy anfon e-bost i:

Dychwelyd i hawliad presennol

Os yw’ch hawliad ar-lein am £25,000 neu lai, gallwch  i weld diweddariadau, rheoli hawliad neu wneud hawliad newydd.

5. Ar ôl i chi wneud eich hawliad

Fe anfonir eich hawliad, gan gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad, at yr unigolyn neu’r busnes y mae arnynt arian i chi (y ‘diffynnydd�).

Mae’n rhaid iddynt ymateb i’ch hawliad. Fe anfonir llythyr neu neges e-bost atoch yn dweud wrthych erbyn pryd y bydd angen iddynt ymateb.

Beth i’w wneud os byddwch yn cael eich talu

Dywedwch wrth y diffynnydd pan fyddwch wedi cael eu taliad.

Bydd sut y dylech wneud hyn yn dibynnu ar sut y gwnaethoch yr hawliad.

Os gwnaethoch hawliad ar-lein

Gallwch ddiweddaru eich hawliad ar-lein, dros y ffôn neu drwy anfon e-bost. Bydd y manylion cyswllt perthnasol yn dibynnu ar faint o arian rydych yn ei hawlio.

Os gwnaethoch eich hawliad cyn 8 Hydref 2024 a’i fod yn hawliad am rhwng £10,000 a £25,000, yna gallwch ei ddiweddaru ar-lein gan ddefnyddio’r  neu drwy ffonio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein.

Os yw eich hawliad am £25,000 neu lai, gallwch ei ddiweddaru:

  • ar-lein gan ddefnyddio’r 
  • drwy ffonio’r Gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil

Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os yw eich hawliad am fwy na £25,000, gallwch ei ddiweddaru:

  • ar-lein gan ddefnyddio’r 
  • neu drwy ffonio neu anfon e-bost i’r Gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein

Gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein
[email protected]
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os gwnaethoch ddefnyddio ffurflen hawlio bapur

 ble wnaethoch anfon eich hawliad.

Os na chewch ymateb neu os bydd y diffynnydd yn gwrthod talu’r hyn sy’n ddyledus ganddynt

Gallwch ofyn i’r llys orchymyn bod y diffynnydd yn talu. Bydd angen i chi:

Os ydych yn anghytuno â’r ymateb

Efallai y bydd rhaid i chi fynd i wrandawiad llys:

  • os bydd y diffynnydd yn dweud nad oes arnynt arian i chi
  • maent yn anghytuno â’r swm rydych wedi’i hawlio
  • nid ydych yn cytuno â’r ffordd maent wedi cynnig eich ad-dalu

Efallai y bydd y llys yn anfon holiadur atoch yn gofyn am fwy o wybodaeth am yr achos.

Llenwch yr holiadur a’i ddychwelyd i’r llys. Bydd rhaid i chi dalu ffi llys ychwanegol.

Cyfryngu

Efallai y byddwch yn cael cynnig cyfryngu ar ôl i chi wneud hawliad neu y dywedir wrthych bod rhaid i chi fynychu cyfryngu. Yn aml, mae hyn yn gyflymach na mynd i’r llys.

6. Datrys eich hawliad drwy gyfryngu

Cyfryngu yw pan fydd unigolyn proffesiynol diduedd (y cyfryngwr) yn helpu’r ddwy ochr i ddod i gytundeb. Mae’n gyfrinachol a gan amlaf bydd yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i’r llys.

Os ydych yn gwneud hawliad am £10,000 neu lai ac mae’r diffynnydd yn ei wrthwynebu, yna fe ddywedir wrthych bod rhaid i chi fynychu cyfryngu. Bydd y llys yn trefnu’r cyfryngu hwn. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim.

Os ydych yn gwneud hawliad am fwy na £10,000:

  • efallai y bydd y llys yn cynnig apwyntiad cyfryngu i chi â€� bydd y llys yn trefnu hwn
  • gallwch drefnu apwyntiad cyfryngu annibynnol eich hun, os na fyddwch yn cael cynnig apwyntiad cyfryngu

Cyfryngu sydd wedi’i drefnu gan y llys

Bydd cyfryngwr o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn siarad â chi ar wahân dros y ffôn i’ch helpu i ymchwilio i opsiynau, trafod a chytuno ar setliad. Bydd yr apwyntiad yn para hyd at un awr.

Gallwch ddod â rhywun gyda chi i’r apwyntiad cyfyngu. Er enghraifft, ffrind rydych yn ymddiried ynddynt, perthynas neu gyfreithiwr.

Os ydych wedi cael cynnig apwyntiad cyfryngu, yna bydd angen i’r ddwy ochr gytuno iddo. Os bydd y ddwy ochr yn cytuno, fe gewch ddyddiad ac amser ar gyfer eich apwyntiad dros y ffôn.

Os dywedwyd wrthych bod rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu, fe roddir dyddiad ac amser i chi ar gyfer eich apwyntiad dros y ffôn.

Cysylltwch â’r gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain cyn eich apwyntiad:

  • os oes gennych anabledd corfforol, meddyliol neu anabledd dysgu, neu gyflwr iechyd hirdymor sy’n golygu y byddwch angen cymorth yn ystod eich apwyntiad cyfryngu
  • os ydych yn agored i niwed (er enghraifft, rydych yn pryderu am eich diogelwch)
  • mae gennych gwestiynau eraill am eich hawliad neu’ch apwyntiad

Dylech nodi eich rhif hawliad pan fyddwch yn cysylltu â’r gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain, os oes gennych un.

Gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain
[email protected]
Rhif ffôn: 0300 123 4593
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am  5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os na fyddwch yn mynychu eich apwyntiad cyfryngu

Os na fyddwch yn mynychu eich apwyntiad cyfryngu, yna fel arfer bydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys.

Gallwch barhau i geisio setlo’r achos y tu allan i’r llys gyda’r ochr arall hyd at ddyddiad y gwrandawiad (er enghraifft, drwy gyfryngu annibynnol). Os gallwch setlo’r achos y tu allan i’r llys, ni fydd angen i chi fynychu’r gwrandawiad llys.

Os dywedwyd wrthych bod rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu, gall y barnwr eich cosbi os na fyddwch yn mynychu neu’n gwneud ymdrech i ddod i gytundeb. Gall sancsiynau (cosbau) gynnwys dileu eich achos neu eich gorfodi i dalu holl gostau’r llys hyd yn oed os byddwch yn ennill.

Os byddwch yn dweud wrth y llys pam na wnaethoch fynychu eich apwyntiad cyfryngu, bydd y barnwr yn cymryd eich rhesymau i ystyriaeth wrth benderfynu ar eich sancsiynau. Gallwch ddweud wrth y llys pam na wnaethoch fynychu:

  • yn eich cyfrif Hawliadau am Arian ar-lein, os oes gennych un
  • yn eich gwrandawiad llys

Os ydych eisiau i’ch rhesymau dros beidio â mynychu eich apwyntiad gael eu cadw’n breifat, cysylltwch â’r llys lle cynhelir eich gwrandawiad. Efallai y dywedir wrthych i lenwi ffurflen N244 i ofyn i’r wybodaeth gael ei chadw’n breifat.

Cyfryngu annibynnol

Gallwch gael sesiynau cyfryngu gan  ar gyfer hawliad am unrhyw swm. Rhaid talu .

Os yw eich hawliad am £10,000 neu lai, bydd rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu a drefnwyd gan y llys.

Os byddwch yn dod i gytundeb

Byddwch yn gwneud cytundeb llafar yn yr apwyntiad cyfryngu. ²Ñ²¹±ð’r cytundeb hwn yn rhwymol gyfreithiol, sy’n golygu bod rhaid i chi gydymffurfio ag o. Byddwch yn cael gwybod telerau’r cytundeb mewn dogfen - gelwir y ddogfen hon yn gytundeb setlo.

Os bydd y naill ochr neu’r llall yn torri telerau’r cytundeb, yna gall yr ochr arall fynd i’r llys i ofyn am ddyfarniad neu wrandawiad.

Os na fyddwch yn dod i gytundeb

Bydd rhaid i chi fynychu gwrandawiad llys.

Ni allwch grybwyll beth ddigwyddodd yn ystod yr apwyntiad cyfryngu yn y llys.

Ni fydd rhaid i chi aros yn hirach am wrandawiad llys os byddwch yn mynychu apwyntiad cyfryngu yn gyntaf.

7. Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Os cynhelir gwrandawiad, gallwch:

Gellir cynnal eich gwrandawiad yn ystafell y barnwr neu mewn ystafell llys mewn llys sirol os yw eich hawliad am lai na £10,000. Efallai y cynhelir gwrandawiad mwy ffurfiol os ydych yn hawlio mwy o arian.

Ar ôl y gwrandawiad

Byddwch yn cael y penderfyniad ar ddiwrnod y gwrandawiad. Bydd y llys hefyd yn anfon copi o’r penderfyniad atoch yn y post.

Os byddwch yn ennill eich achos, bydd y llys yn gorchymyn bod yr unigolyn neu’r busnes y mae arnynt arian i chi (y ‘dyledwr) yn eich talu. Mae yna ffyrdd y gall y llys gasglu eich taliad os byddant yn anwybyddu’r gorchymyn llys.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych yn meddwl bod y barnwr wedi gwneud camgymeriad yn ystod y gwrandawiad. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod i chi gael y penderfyniad.

Darllenwch fwy am pa lys neu dribiwnlys y dylech apelio iddo.

Cysylltwch â  i gael cyngor am ddim ar apelio.

8. Gorfodi dyfarniad

Gallwch ofyn i’r llys gasglu taliad gan yr unigolyn neu’r busnes y mae arnynt arian i chi (y ‘dyledwr�) os nad ydynt yn eich talu ar ôl iddynt gael y gorchymyn llys.

Mae’n rhaid i chi dalu ffi llys pan fyddwch yn gofyn i’r llys gasglu’r taliad.

Canfod faint all y dyledwr fforddio talu

Gofynnwch i’r llys orchymyn bod y dyledwr yn mynychu’r llys i ddarparu tystiolaeth o’i incwm neu wariant, er enghraifft biliau a chyfriflenni.

Os mai busnes yw’r dyledwr, yna gallwch ofyn i swyddog o’r cwmni fynychu’r llys a darparu manylion am ei gyfrifon.

Yna gallwch benderfynu os hoffech i’r llys gymryd camau pellach i gasglu’ch taliad.

Ni allwch orfodi dyfarniad os dywedir wrthych bod gan yr unigolyn y mae arnynt arian i chi gytundeb ‘Lle i Anadlu� a’u bod wedi’u gwarchod am y tro rhag eu credydwyr. Darllenwch fwy am eich cyfrifoldebau a beth sydd angen i chi ddweud wrth y llys yn ystod cytundeb ‘Lle i Anadlu�.

Anfon beilïaid i gasglu taliad

Gallwch ofyn i’r llys anfon beilïaid i gasglu’r arian. Gelwir hyn yn �gwarant reolaeth�.

Bydd y beili yn gofyn am daliad o fewn 7 diwrnod. Os na fydd y ddyled yn cael ei thalu, bydd y beili yn ymweld â chartref neu fusnes y dyledwr i weld a ellir gwerthu rhywbeth i dalu’r ddyled.

Gallwch wneud cais i naill ai lys sirol neu’r Uchel Lys os yw rhwng £600 a £5,000 yn ddyledus i chi.

Efallai y byddwch angen cyngor cyfreithiol os byddwch yn gwneud cais i’r Uchel Lys.

Bydd sut y dylech wneud cais i’r llys yn dibynnu ar sut y gwnaethoch eich hawliad.

Os gwnaethoch hawliad ar-lein

Os yw eich cyfeirnod yn cynnwys y llythrennau ‘MC�, lawrlwythwch a llenwch naill ai:

  • ffurflen N323 - i wneud cais mewn llys sirol (mae’n rhaid bod £5,000 neu lai yn ddyledus i chi)
  • ffurflen N293A - i wneud cais i’r Uchel Lys (mae’n rhaid bod o leiaf £600 yn ddyledus i chi)

Fel arall, gallwch orfodi dyfarniad drwy ddefnyddio’r .

Os gwnaethoch ddefnyddio ffurflen hawlio bapur

Lawrlwythwch a llenwch naill ai:

  • ffurflen N323 - i wneud cais mewn llys sirol (mae’n rhaid bod £5,000 neu lai yn ddyledus i chi)
  • ffurflen N293A - i wneud cais i’r Uchel Lys (mae’n rhaid bod o leiaf £600 yn ddyledus i chi)

Didynnu arian o gyflog

Gallwch ofyn i’r llys dynnu arian o gyflog y dyledwr i dalu’r ddyled. Gelwir hyn yn �atafaelu enillion�.

Bydd y llys yn gwneud hyn drwy anfon gorchymyn i gyflogwr y dyledwr.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn atafaelu enillion - ffurflen N337.

Rhewi asedau neu arian mewn cyfrif

Gallwch ofyn i’r llys rewi arian sydd yng nghyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu’r dyledwr neu gyfrif busnes. Gelwir hyn yn �gorchymyn dyled trydydd parti�.

Bydd y llys yn penderfynu a ellir defnyddio arian sydd yn y cyfrif i dalu’r ddyled.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn dyled trydydd parti - ffurflen N349.

Arwystlo tir neu eiddo’r dyledwr

Gallwch ofyn i’r llys arwystlo tir neu eiddo’r dyledwr. Gelwir hyn yn �gorchymyn arwystlo�.

Os bydd y tir neu’r eiddo yn cael ei werthu, yna bydd rhaid i’r dyledwr dalu’r arwystl hwn yn gyntaf cyn iddynt gael eu harian.

Lawrlwythwch a llenwch gais am orchymyn arwystlo - ffurflen N379.