Ffioedd llys

Mae鈥檔 rhaid i chi dalu ffi llys pan fyddwch yn gwneud eich hawliad.

Os ydych yn gwybod swm yr hawliad

Mae ffi鈥檙 llys wedi鈥檌 seilio ar y swm rydych yn ei hawlio, ynghyd 芒 llog.

Swm yr hawliad Ffi
Hyd at 拢300 拢35
拢300.01 i 拢500 拢50
拢500.01 i 拢1,000 拢70
拢1,000.01 i 拢1,500 拢80
拢1,500.01 i 拢3,000 拢115
拢3,000.01 i 拢5,000 拢205
拢5,000.01 i 拢10,000 拢455
拢10,000.01 i 拢200,000 5% o鈥檙 hawliad
Mwy na 拢200,000 拢10,000

I gyfrifo 5% o werth yr hawliad, lluoswch y swm rydych yn ei hawlio gyda 0.05. Os oes angen, talgrynnwch y cyfanswm i鈥檙 1c agosaf.

Bydd y ffi yn cael ei chyfrifo i chi os byddwch yn gwneud eich hawliad ar-lein.

Os nad ydych yn gwybod swm yr hawliad

Defnyddiwch y ffurflen hawlio bapur os nad ydych yn gwybod yr union swm - ni allwch wneud hawliad ar-lein.

Bydd angen i chi amcangyfrif y swm rydych yn ei hawlio a thalu鈥檙 ffi ar gyfer y swm hwnnw.

Er enghraifft, os ydych chi鈥檔 amcangyfrif eich bod yn hawlio rhwng 拢3,000.01 a 拢5,000, byddai rhaid i chi dalu 拢205.

Os byddwch yn gadael y blwch 鈥榮wm a hawlir鈥� yn wag, yna bydd y ffi yn 拢10,000.

Help i dalu鈥檙 ffi

Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd os ydych ar incwm isel neu鈥檔 cael budd-daliadau penodol. Darllenwch fwy am pwy all wneud cais am help i dalu ffioedd.

Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein neu drwy鈥檙 post

Gwneud cais am help ar-lein

Gwnewch gais am help i dalu ffioedd ar-lein cyn i chi wneud hawliad llys. Fe gewch gyfeirnod 鈥榟elp i dalu ffioedd鈥� - byddwch ei angen pan fyddwch yn gwneud eich hawliad i鈥檙 llys.

Gwneud cais am help drwy鈥檙 post

Os byddwch yn gwneud cais am help i dalu ffioedd drwy鈥檙 post, yna bydd angen i chi wneud eich hawliad llys drwy鈥檙 post hefyd. Gwnewch y ddau gais ar yr un pryd.

  1. Llenwch ffurflen EX160 i gael help i dalu ffioedd.

  2. Llenwch ffurflen N1 i wneud hawliad i鈥檙 llys am arian.

  3. Dychwelwch y ddwy ffurflen i鈥檙 Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol.

Canolfan Busnes Sifil Cenedlaethol
St Katharine鈥檚 House
21-27 St Katharine鈥檚 Street
Northampton
NN1 2LH

Talu ffi鈥檙 llys

Talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd os ydych yn gwneud hawliad ar-lein.

Os byddwch yn defnyddio鈥檙 ffurflen gais bapur, talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd drwy anfon llythyr gyda鈥檆h ffurflen yn gofyn am gael talu 芒 cherdyn. Dylech gynnwys eich rhif ff么n ac amser cyfleus i鈥檙 llys eich ffonio i gymryd y taliad.

Gallwch hefyd dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i 鈥楪wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF鈥�) os byddwch yn defnyddio鈥檙 ffurflen hawlio bapur.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu rhagor o ffioedd yn ddiweddarach - er enghraifft, os oes gwrandawiad llys neu os ydych yn gwneud cais i ddyfarniad gael ei orfodi.

Efallai y gallwch hawlio鈥檙 ffioedd yn 么l os byddwch yn ennill yr achos.